Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS, GWYN ALFRED (1925-1995), hanesydd a chyflwynydd teledu.

Fe'i ganed yn 11 Lower Row, Pen-y-wern, Dowlais, Morgannwg, ar 30 Medi 1925, yn un o dri phlentyn Thomas John Williams (1892-1971) a Gwladys Williams née Morgan (1896-1983), y naill a'r llall yn athrawon ysgol. Dowlais oedd crud y chwyldro diwydiannol a'r traddodiad dosbarth-gweithiol yng Nghymru a thestun balchder i Gwyn gydol ei oes oedd bod yn ‘fachan bech o Ddowlish’. Codwyd y ty lle y'i magwyd gan deulu grymus Guest a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, adeilad a fu gynt yn gartref moethus i deulu nerthol Crawshay .

Yn ystod y cyfnod rhwng y Ddau Ryfel Byd yr oedd yr enw Dowlais yn gyfystyr â thlodi, diweithdra a dioddefaint, ond nid oedd prinder bwyd ar aelwyd Gwyn nac ychwaith brinder syniadau. Cedwid y côf am arwyr y dosbarth gweithiol yn fyw iawn gan ei deulu a gofalwyd bod ganddo doreth o lyfrau a chyfnodolion i'w darllen. Mynychai Eglwys Annibynnol Gwernllwyn, capel Anghydffurfiol Cymraeg ei iaith lle'r oedd yr aelodau yn ymfalchïo yn y ffaith fod eu hynafiaid gwrol yn oes y Stiwartiaid wedi magu digon o blwc i dorri ymaith ben y brenin. Yn ôl Gwyn, yr oedd efengyl Marx yn fyw ac yn iach yn Nowlais yn ystod ei blentyndod ac yr oedd yn dra ymwybodol o'r cyni a'r anghyfiawnder a ddioddefid gan weithwyr tlawd yn ei gynefin. Glaslanc digon drygionus ydoedd, ond yr oedd hefyd yn ddarllenwr gwancus ac yn bur hyddysg ym materion y dydd. Fe'i trwythodd ei hun yn nigwyddiadau'r Rhyfel Cartref yn Sbaen ac ymuniaethai â brwydrau sosialwyr a chomiwnyddion ar y Cyfandir.

Ym 1943 enillodd ysgoloriaeth agored i astudio Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond cyn iddo allu gwneud hynny fe'i cyrchwyd i faes y gad yng ngogledd-orllewin Ewrop. Ceir straeon amryliw am ei brofiadau yn y Fyddin yn ei fraslun hunangofiannol, Fishers of Men, a gyhoeddwyd wedi ei farw. Honnodd iddo golli ei Gymraeg yn ystod blynyddoedd yr heldrin a hefyd ddatblygu'r atal dweud a fu'n gymaint o fwrn arno weddill ei oes.

Maes o law cyrhaeddodd y stwcyn bychan ifanc hwn y Coleg ger y Lli, ac o'r cychwyn cyntaf gwnaeth argraff ddofn ar y staff a'i gyd-fyfyrwyr. Ni allent lai na rhyfeddu at ei ddisgleirdeb a'i ddawn dweud ac aeth yn ei flaen ym 1950 i ennill gradd ddisglair yn y dosbarth cyntaf yn Hanes ynghyd â llu o wobrau. Yn ystod yr un flwyddyn priododd ei gariad cyntaf Maria Fernandez, merch i deulu a ymfudodd o Sbaen a bwrw gwreiddiau yng nghymoedd diwydiannol de Cymru. Ganwyd iddynt un mab.

Fel canoloeswr yr enillodd sylw yn y lle cyntaf a chwblhaodd draethawd meistr sylweddol ac aroesol ar hanes pendefigaeth Llundain yn y drydedd ganrif ar ddeg, gwaith a gyhoeddwyd wedi hynny dan y teitl Medieval London ym 1963. Rhwng 1954 a 1963 bu'n dysgu Hanes Cymru yn Aberystwyth gyda'r fath afiaith fel y byddai myfyrwyr o adrannau eraill a hyd yn oed rai o drigolion gorawenus y dref yn mynychu ei ddosbarthiadau. Gan ei fod yn Farcsydd diflewyn ar dafod, fe'i cyfrifid yn ddarlithydd dadleuol, yn enwedig mewn cymuned lle'r oedd dylanwadau Ymneilltuol yn parhau'n gryf. Cyn bo hir dechreuodd chwilio am swyddi mewn prifysgolion mwy cydnaws. Ym 1963 derbyniodd gynnig am Ddarllenyddiaeth mewn Hanes gan Brifysgol Caerefrog ac ymhen dwy flynedd fe'i dyrchafwyd yn Athro yno. Daeth yn ffigwr cwlt ymhlith y myfyrwyr radical ar y campws a thyrrent i'w ddosbarthiadau i ddysgu am gomiwnyddion yr Eidal, sans-culottes Ffrainc, chwyldroadwyr Sbaen a deallusion America. Yr oedd cysgod syniadau Gramsci yn drwm dros ei waith a gwnâi ddefnydd helaeth o'r ymadrodd ‘deallusion organig’ wrth ddarlunio'r modd y byddai radicaliaid gwleidyddol a chrefyddol yn saernïo cenhedloedd ac yn hyrwyddo rhyddid sifil a chrefyddol. Tra oedd yng Nghaerefrog crisialodd lawer o'i syniadau yn ei gyfrol fach ddifyr Artisans and Sans-culottes (1968), gwaith a oedd yn trafod mudiadau poblogaidd ym Mhrydain a Ffrainc yn ystod y Chwyldro Ffrengig.

Ym 1974 fe'i penodwyd, yn olynydd i Stanley B. Chrimes, i Gadair Hanes ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Ond ni fu bywyd yn y brifddinas wrth ei fodd a methiant fu ei ymdrech i wireddu ei freuddwyd o sefydlu uned ymchwil yn y brifysgol i ganolbwyntio ar hanes diwydiannol yn y Gymru fodern. Ni châi unrhyw flas mwyach ar ddarlithio gerbron israddedigion ac yr oedd tasgau gweinyddol yn anathema iddo. Gan fod elfen adweithiol yn yr adran mor gyndyn i weithredu ei gynlluniau, treuliai gryn amser yn brwydro yn erbyn Thatcheriaeth ac yn cynnal breichiau undebau llafur, y mudiad heddwch a ffeminyddiaeth. Ac er iddo ymroi'n gynyddol i weithgarwch gwleidyddol milwriaethus, cyhoeddai'n helaethach nag erioed o'r blaen. Bwriad llyfrau ar Gramsci, Spriano a Goya oedd hyrwyddo mudiadau dosbarth-gweithiol a Marcsaidd ym Mhrydain, a cheir yn ei gyfrol The Merthyr Rising (1978) gyfuniad o'r elfen dosturiol a oedd yn rhan o'i gymeriad a chorws o leisiau dosbarth-gweithiol ei gynefin a aethai tros gof. Er bod ganddo ddiddordebau eang, ymddiddorai'n bennaf yn hynt a helynt gwrthryfelwyr a phrotestwyr cyffredin a oedd yn ddigon dewr i fodio'u trwyn ar eu gormeswyr. Yn Madoc: The Making of a Myth (1979) a The Search for Beulah Land (1980) trafododd dwf yr ymwybod radical yng Nghymru yng nghyd-destun cysylltiadau trawsatlantig Anghydffurfiaeth Gymreig yn ystod oes y chwyldroadau. Ac yn The Welsh in their History (1982), casgliad o ysgrifau, aeth yn ei flaen i ddadansoddi'r grymoedd cymdeithasol ac economaidd a drawsnewidiodd natur wleidyddol Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymdaflai fwyfwy i weithgarwch gwleidyddol, gan fritho'i gyfraniadau i gyfnodolion a chylchgronau â sylwadau dadleuol a miniog. Fe'i siomwyd yn ddirfawr gan ganlyniadau'r refferendwm ar ddatganoli ym 1979 ac arswydai rhag polisïau andwyol Margaret Thatcher. Daeth i gredu na fyddai Cymru yn goroesi oni fyddai'r werin-bobl ddiwydiannol yn codi fel un dyn i danseilio'r drefn gyfalafol. ‘Os ydym am fyw’, meddai, ‘rhaid i ni weithredu.’ Hon oedd un o ddelweddau amlycaf ei gyfrol When was Wales?: A History of the Welsh (1985), gwaith hynod o ddifyr a geisiodd dangos bod cenedl y Cymry wedi ei chreu a'i hailgreu dros ddwy fil o flynyddoedd gan gyfres o wrthdrawiadau, rhwygiadau ac argyfyngau.

Blinodd mor llwyr ar fywyd academaidd yng Nghaerdydd fel y penderfynodd ymddeol yn gynnar, ac yntau'n 58 oed. Chwalodd ei briodas ac, wrth i'r felan gydio ynddo, cwerylai â'i gyfeillion a gwylltiai â phawb a phopeth. Yna, troes at y byd darlledu, gan dreulio gweddill ei oes yn ysgrifennu a chyflwyno sawl cyfres deledu ardderchog ar gyfer y cwmni teledu annibynnol Teliesyn. Dan gyfarwyddyd Colin Thomas, blodeuodd fel cyflwynydd, yn enwedig yn The Dragon has Two Tongues (HTV, 1985), cyfres 13-rhan ar hanes Cymru lle y profodd y Marcsydd tanllyd ei hun yn feistr corn ar ei gyd-gyflwynydd Chwigaidd hynaws Wynford Vaughan Thomas . Er gwaethaf, neu efallai oherwydd, y nam ar ei leferydd, dotiai criwiau teledu at ei ddarnau i gamera a daeth ei gyflwyniadau yn rhan annatod o gof gwerin. Adwaenid ef mwyach fel ‘Gwyn Alff’ a thorheulai yn ngwres cymeradwyaeth y gwylwyr a'i enwogrwydd fel ‘Cofiadur y Bobl’. Yn ei ddwylo ef, arf grymus oedd hanes, arf y gellid ei ddefnyddio i oleuo'r presennol er mwyn creu amgenach dyfodol. Oni bai amdano ef, ni fyddai llawer iawn o bobl wedi ymuno â llinellau piced, mynychu ralïau dros heddwch a phleidio hawliau merched. Er bod ei raglen deledu olaf, Gwyn Alf: The People's Remembrancer (S4C, 1995), yn annioddefol o ingol, dangosodd yn eglur fod ei alluoedd deallusol a'i ffraethineb cyn gryfed ag erioed.

Yn y diwedd talodd Gwyn y pris am smocio mor drwm dros ddegawdau maith. Dan ofal ei bartner Siân Lloyd, bu farw o ganser, ac yntau'n 70 oed, yn ei gartref yn Nhre-fach Felindre, sir Gaerfyrddin, ar 16 Tachwedd 1995. Daeth lliaws o bobl o bob cefndir ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i hanesydd eithriadol o ddawnus a dylanwadol yn Amlosgfa Parc Gwyn Arberth ar 22 Tachwedd. Yn briodol iawn, brithwyd y seremoni seciwlar gan y floedd ‘Viva Gwyn’ a chan ddatganiad afieithus o'r Internationale.

Ffynonellau:

  • The Guardian , 17 Tachwedd 1995;
  • The Independent , 18 Tachwedd 1995;
  • Y Cymro , 22 Tachwedd 1995;
  • Barn , rhifau 395-6 (1996);
  • Planet the Welsh internationalist , 115 (1996), 126-8;
  • Gwyn A. Williams, Fishers of Men: Stories towards an Autobiography (Llandysul, 1996);
  • Geraint H. Jenkins, The People's Historian: Professor Gwyn A. Williams (1925-1995) (Aberystwyth, 1996);
  • Glanmor Williams, ‘Gwyn Alfred Williams (1925-1995) and David John Victor Jones (1941-1994)’, Llafur, cylchgrawn hanes Llafur Cymru , 7, rhif 2 (1997), 5-14;
  • Colin Thomas, ‘The End of History as we know it: Gwyn A. Williams as a Television Historian’, Llafur, cylchgrawn hanes Llafur Cymru , 7, rhifau 3-4 (1998-9), 5-19;
  • Geraint H. Jenkins, ‘“Fachan Bech o Ddowlish”: Glanmor Williams a Gwyn Alfred Williams’, yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Merthyr a Thaf (Llandysul, 2001), 192-226.

Awdur:

Yr Athro Geraint Huw Jenkins, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2013