THOMAS, SYR JAMES WILLIAM TUDOR (1893-1976), llawfeddyg offthalmig

Enw: James William Tudor Thomas
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1976
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg offthalmig
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Alun Roberts

Ganwyd Tudor Thomas 23 Mai 1893 yn Ystradgynlais, Brycheiniog, yn unig blentyn Thomas Thomas, prifathro Ysgol Sir Ynyscedwyn, a'i wraig. Dechreuodd Tudor ei addysg yn ysgol Ynyscedwyn cyn symud ymlaen i Ysgol Sir Ystradgynlais. Wedi llwyddo'n rhagorol mewn naw pwnc (Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Lladin, hanes, geometreg, algebra, rhifyddeg a ffiseg) yn arholiad 'Senior' y Bwrdd Canol Cymreig yn 1909, aeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy i astudio meddygaeth. Yr adeg honno dim ond y tair blynedd cyn-feddygol a chyn-glinigol y gellid eu treulio yn Ysgol Feddygol Caerdydd ond gwnaeth yn dda yma hefyd gan ennill Gwobr Alfred Sheen yn 1912 am y cyflawniad gorau yn yr arholiadau cyn-glinigol. Enillodd radd BSc Prifysgol Cymru y flwyddyn ganlynol ac aeth i Ysbyty Middlesex, Llundain i ymgymryd â hyfforddiant clinigol; cafodd gymwysterau MRCS LRCP yn 1915. Y flwyddyn wedyn llwyddodd yn arholiadau gradd MB BS Prifysgol Llundain a hefyd gwnaeth ymgais i gymryd arholiadau terfynol MB BS Prifysgol Cymru.

Ar y dechrau achosodd y cais bryder i awdurdodau Ysgol Feddygol Caerdydd, oherwydd er bod Prifysgol Cymru wedi ennill yr hawl i ddyfarnu graddau mewn Meddygaeth yn 1906, ni fyddai cyfleusterau hyfforddiant clinigol ar gael i fyfyrwyr Caerdydd yn y ddinas hyd 1921, a'r peth diwethaf y dymunai awdurdodau'r Brifysgol ei wneud ar ganol y rhyfel oedd gwario arian yn ddiangen yn trefnu, am y tro cyntaf, arholiadau terfynol arbennig i Thomas ac un myfyriwr arall fel ymgeiswyr allanol. 'Ond ar y llaw arall', meddai Is-ganghellor Prifysgol Cymru, 'byddai gwrthod cynnal arholiad yr adeg hon yn hanes yr Ysgol Feddygol yn cael effaith andwyol; yn wir, tybiaf ei bod yn bosibl y byddem yn agored i achos cyfreithiol.' Darbwyllodd John Lynn Thomas, llawfeddyg o fri yng Nghaerdydd, is-ganghellor iau y Brifysgol ar y pryd ac un a chanddo lawer o gysylltiadau, dri o glinigwyr nodedig Llundain i weithredu'n arholwyr allanol dros Brifysgol Cymru yn ddidâl. Er i'r ymgeisydd arall fethu pob pwnc yn yr arholiadau terfynol arbennig hyn, llwyddodd J.W.T. Thomas gyda rhagoriaeth a dod felly y person cyntaf i ennill gradd MB BCh Prifysgol Cymru yn 1916.

Wedi dal apwyntiadau ysbyty yn Abertawe gwasanaethodd Thomas gyda'r RAMC yn Affrica a dod i gyswllt â gwr ifainc wedi eu dallu yn yr ymladd, a phenderfynodd ymwneud â'r cyflwr truenus hwn yn ei waith clinigol wedi iddo gael ei ryddhau o'r fyddin. Yn dilyn swyddi byrion y Llundain yn 1921 daeth yn llawfeddyg offthalmig cynorthwyol yn Ysbyty'r Brenin Edward VII Caerdydd (ail-enwyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn 1923) lle y cyfunodd ddyletswyddau clinigol gydag ymchwil arloesol ym maes trawsblannu corneaidd. Er gwaethaf perthynas anodd ar adegau rhwng academyddion yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru a chlinigwyr yr ysbyty yn y 1920au, darparodd Adran Ffisioleg yr Ysgol gyfleusterau labordy ac yn arbennig ddefnydd ei dy anifeiliaid, a alluogodd Thomas i arbrofi, gyda channoedd o gwningod, mewn impio meinwe iach ar y llygad yn lle meinwe a ddaethai'n dywyll trwy afiechyd neu ddamwain. Yn ei adroddiad blynyddol yn 1931 dywedodd y Cyngor Ymchwil Feddygol - a oedd yn cyfrannu tuag at gostau'r ymchwil - 'y mae'r arbrofion yn rhoi gobaith y gellir gwella dallineb sy'n codi o dywyllni'r cornea.'

Erbyn hyn daethai Thomas (ar ôl (Syr) Daniel Davies) yr ail berson - yn 1929 - i ennill gradd MD Prifysgol Cymru, ac yn 1931 byddai'n ennill gradd DSc yr un brifysgol a dod yn Athro Hunter Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr yn gydnabyddiaeth o'i gyflawniadau ymchwil. Gwnâi Thomas ei waith clinigol nid yn unig yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ond hefyd yn Llundain ac yno, yn Ysbyty Guy yn 1930, ac wedyn yn ystod y 1930au yn Ysbyty Llygaid Moorfields ac Ysbyty Offthalmig Canolog Llundain, y cyflawnodd gyfres o driniaethau trawsblannu corneaidd a fu'n rheswm i feddygon o bob rhan o'r byd ddod i Lundain i ryfeddu at orchest Thomas. Yn 1933 cydnabuwyd ei waith arloesol yng ngwyddor Keratoplasty (impio corneaidd) pan gafodd ei wahodd i draddodi'r Ddarlith Middlemore glodfawr yn Ysbyty Llygaid Birmingham. Parhaodd ei ymrwymiad i bobl de Cymru ond daliodd ati yn ogystal i rannu ei arbenigedd yn fwy eang hyd ei ymddeoliad yn 1958. Ac yntau â gofal adran corneoblastig Ysbyty Offthalmig Canolog Llundain rhwng 1935 a 1940 hyrwyddodd y cysyniad o fiwro cofrestru ar gyfer casglu a defnyddio deunydd trawsblannu, yr hyn a osododd sylfeini sefydlu'r Banc Llygaid enwog yn Ysbyty'r Frenhines Victoria yn East Grinstead yn 1950.

Sicrhaodd ei fri ym maes meddygaeth yn ogystal â'i gyswllt hir â'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) - etholwyd ef i'w Gyngor yn 1949 - mai ef oedd y dewis amlwg i fod yn llywydd y Gymdeithas yn 1953/4 pan gyfarfu yng Nghaerdydd lle y traddododd, ym marn pawb, ddarlith agoriadol feistraidd, 'With Head and Heart and Hand'. Derbyniodd anrhydeddau eraill yn fuan. Dyfarnwyd LLD. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Glasgow yn gydnabyddiaeth o'i waith arloesol fel offthalmolegydd ac yn 1955 traddododd Ddarlith Goffa Doyne yng Nghyngres Offthalmolegol Rhydychen. Gwnaed ef yn farchog y flwyddyn wedyn ac y 1960 cyflwynwyd iddo'r Fedal Aur mewn therapiwteg gan Gymdeithas Anrhydeddus yr Apothecariaid gan gael ei restru gyda chyn-dderbynwyr enwog megis Syr Alexander Fleming, darganfyddwr penisilin, Syr Henry Dale, enillydd Gwobr Nobel, a Syr Russell Brock, un o arloeswyr llawdriniaeth agored ar y galon. Yn ddiweddarach yn ei oes bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Myfyrwyr Meddygol Prydain (1957/8), Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Meddygol Caerdydd (ef oedd y llywydd cyntaf yn 1958 a chyflwynodd i'r Gymdeithas fathodyn cywrain y swydd), a Chymdeithas Offthalmolegol y Deyrnas Unedig yn 1967/8.

Yr oedd ei fri yn rhyngwladol ond fel Cymro Cymraeg, ni chollodd ei gariad dwfn at ei famwlad. Yn 1954, yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, man ei eni, derbyniwyd ef i'r orsedd yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth i lawdriniaeth. Yn 1960 daeth yn Uchel Siryf Brycheiniog, penodiad, lle y cafodd gefnogaeth fawr gan ei wraig, a roes bleser mawr iddo. Ymlaciai trwy bysgota a chwarae golff.

Yn 1938 priododd Bronwen Vaughan Pugh, nyrs, a bu iddynt ddau fab, y naill yn gyfreithiwr a'r llall yn feddyg. Bu farw Syr Thomas 23 Ionawr 1976 a chladdwyd ef ym mynwent Cathays Caerdydd, lle y claddwyd ei wraig, 'Bronnie', saith mlynedd yn ddiweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-11-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.