SUTTON, Syr OLIVER GRAHAM (1903-1977), Prif Gyfarwyddwr y Swyddfa Feteoroleg

Enw: Oliver Graham Sutton
Dyddiad geni: 1903
Dyddiad marw: 1977
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Prif Gyfarwyddwr y Swyddfa Feteoroleg
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Mary Auronwy James

Ganed Graham Sutton ar 4 Chwefror 1903, yn fab i Oliver Sutton, Cwmcarn, Mynwy, a Rachel, merch William Rhydderch, Brynmawr, Brycheiniog. Mynychodd Ysgol Elfennol Cwmcarn, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr, ac enillodd ysgoloriaethau i Ysgol Ramadeg Pontywaun yn 1914, ac i Goleg Prifysgol Cymru (CPC), Aberystwyth, yn 1920 lle y graddiodd BSc (Mathemateg Bur, anrhydedd dosbarth 1af) yn 1923. Aeth wedyn i Goleg Iesu, Rhydychen, gydag Ysgoloriaeth Raddedigion Gymreig ac ymchwiliodd i gyfresi o ffwythiannau orthogonol, gan dderbyn gradd BSc (Oxon.) yn 1925, ac yntau eisoes wedi cyhoeddi rhai o'i ymchwiliadau yn Nhrafodion Cymdeithas Fathemateg, Llundain yn 1924.

Ar ôl blwyddyn yn dysgu mathemateg yn Ysgol Uwchradd Treganna, Caerdydd, dychwelodd i Aberystwyth yn Ddarlithydd Cynorthwyol mewn Mathemateg (1926-28) pryd y magodd ddiddordeb dwfn mewn ffiseg fathemategol. Yn 1928 ymunodd â'r Swyddfa Feteoroleg yn Shoeburyness ac yn Porton wedi hynny (1929-41), lle y rhoes sylw i astudiaeth wyddonol sylfaenol o broblemau ymarferol megis gwasgariad cyfryngau cemegol yn yr awyr. Gwelodd angen trin yr astudiaeth o ymlediad atmosfferig a thyrfedd yn yr haenau ffiniol o safbwynt damcaniaethol newydd. Daeth hyn yn bwysig iawn wrth astudio llygriad yr awyr gan ddiwydiannau. Trwy ei gyfraniadau damcaniaethol ei hun, ac yn ddiweddarach wrth arwain y grwp, magodd enw iddo'i hun fel gwyddonydd o'r radd flaenaf a arweiniodd at ei ddyrchafu i swyddi uwch, y naill ar ôl y llall, mewn trefnu a gweinyddu gwaith gwyddonol, nes dod yn bennaeth yr Adran Feteoroleg yn 1938.

Cymerodd ran mewn trefnu ymchwil a datblygu arfau yn ystod yr ail Ryfel Byd (1941-47), gan effeithio'n adeiladol ar raglen Porton ar gyfer adeg rhyfel (1942-43), a dod yn Arolygydd Ymchwil i Arfogaeth Tanciau (1943-45), ac arolygydd yn Sefydliad Ymchwil a Datblygu Radar, Malvern (1945-47).

Cafodd gyfle i ailafael yn ei waith a thalu sylw unwaith eto i halogiad yr awyr pan ddaeth yn Athro Bashforth mewn Ffiseg Fathemategol yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Gwyddoniaeth yn Shrivenham (1947-53), a bu'n gadeirydd Pwyllgor Ymchwil i Ddifwyniad yr Awyr (1950-55). Yr oedd yn aelod o Bwyllgor Beaver a gyflwynodd adroddiad i'r llywodraeth a arweiniodd at Ddeddf Awyr Glân a'r gostyngiad rhyfeddol o'r difwyniad gan fwg a'i dilynodd. Yn ystod yr adeg hon yr oedd hefyd yn Gynghorydd Gwyddonol i Gyngor y Fyddin (yr Army Council) (1951).

Dychwelodd i'r Swyddfa Feteoroleg (1953-65) yn Brif Gyfarwyddwr 3000 o weithwyr ar draws Prydain, Y Môr Canoldir ac mewn llongau. Cymerai eisoes ddiddordeb yn y dull newydd dynamig o ragweld y tywydd wrth ddefnyddio'r cyfrifiaduron electronig cynharaf y gellid eu cael yn y wlad hon. Gofalodd gael offer mwy pwerus yn 1958 ac 1962. Yn 1959 cychwynwyd adran newydd ar gyfer 'Ymchwil i Atmosffer Uchel' i gysylltu ag ymchwil newydd yn y gofod a ddatblygodd wrth ddefnyddio lloerennau i gludo'r arbrofion o 1964 ymlaen. O dan ei arweiniad cefnogwyd gwasanaeth i wyddoniaeth, ac i'r cyhoedd yn ogystal; dechreuwyd cyflwyno rhagolygon tywydd dros y teleffon yn 1955, a chynigiwyd addasiadau ar y gwasanaeth radio a'r gwasanaeth teledu (a oedd yn cael ei ddatblygu bryd hynny).

Ymddeolodd yn 1965 ond parhaodd i wasanaethu am dair blynedd yn gadeirydd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), ac yn Is-lywydd CPC, Aberystwyth o 1967 hyd 1976. Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 1949, penodwyd ef yn CBE yn 1950 am wasanaeth clodwiw i waith gwyddonol y llywodraeth, a'i ddyrchafu'n farchog yn 1955 am ei wasanaeth i fathemateg a gwyddoniaeth. Derbyniodd lawer o anrhydeddau gan gynnwys graddau er anrhydedd DSc (Leeds) ac LLD (Cymru) 1949; ac aelodaeth er anrhydedd amryw gymdeithasau gwyddonol ac Americanaidd. Derbyniodd Fedal Aur y Llywydd gan Gymdeithas y Peirianwyr (President's Gold Medal of the Society of Engineers) (1957); Medal Aur Symons gan y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol (1959); Gwobr y Gyfundrefn Feteorolegol Rhyngwladol (1968); a Gwobr Frank A. Chambers Cymdeithas Rheoli Difwyniad yr Awyr (1968).

Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys: Atmospheric Turbulence (1949), The Science of Flight (1950), Micrometeorology (1953), Mathematics in Action (1953), (gyda D. S. Meyler) Compendium of Mathematics and Physics (1957), Understanding Weather (1978); a hefyd bapurau mewn cylchgronau gwyddonol.

Priododd ar 2 Ebrill 1931, Doris, merch hynaf T. O. Morgan, Porthcawl, yn Hermon (Methodistiaid Calfinaidd), Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg; bu iddynt ddau fab. O 1968 ymlaen gwnaeth ei gartref yn Sgeti, a bu farw ar 26 Mai 1977 yn Yr Hafod, 4 Y Bryn, Sketty Green, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.