PUGH, Syr IDWAL VAUGHAN (1918-2010), gwas sifil, Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiad (Ombwdsman) (1976-79)

Enw: Idwal Vaughan Pugh
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 2010
Priod: Mair Pugh (née Lewis)
Rhiant: Elizabeth Pugh
Rhiant: Rhys Pugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwas sifil, Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiad (Ombwdsman) (1976-79)
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Ganed Idwal Pugh ar 10 Chwefror 1918 ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionydd, yr hynaf o bum mab Rhys Pugh (chwarelwr, wedyn tocynnwr bws) a'i wraig, Elizabeth (athrawes). Magwyd ef gan berthnasau yn Nhonpentre yn y Rhondda, Morgannwg. Mynychodd Ysgol Ramadeg Y Bontfaen ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg St Ioan, Rhydychen, lle y graddiodd yn Mods and Greats (clasuron) yn 1940 cyn ymuno â'r Royal Army Service Corps. Gwasnaethodd gyda'r 7th Armoured Division (y Desert Rats) yn El Alamein, yn Sisili a'r Eidal, ac yr oedd yn uwchgapten pan ryddhawyd ef o'r fyddin yn 1946.

Wedyn ymunodd â'r Weinyddiaeth Hedfan Sifil. Cymrodd ran mewn trefnu'r awyrgludiad o Berlin, a bu'n ddiweddarach yn ddirprwy/gynrychiolydd i'r International Civil Aviation Organisation ym Montreal. Yn 1956 dyrchafwyd ef yn ysgrifennydd cynorthwyol a bu'n gysylltiedig â threfnu dogni petrol wedi cau camlas Swes a achosodd i gyfarfodydd cynhyrfus gael eu cynnal gan gludwyr a thrafaelwyr. Ar ô dwy flynedd yn attaché awyr sifil yn Washington, dyrchafwyd ef yn is-ysgrifennydd yn 1959.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach aeth i'r Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol. Yn 1964 bu'n gadeirydd ymchwiliad rhyng-adrannol i ffyrdd o foderneiddio'r system gynllunio; derbyniwyd, yn fras, gan y llywodraeth Lafur, ei adroddiad a argymhellai gael llai o awdurdodau cynllunio a rhai mwy annibynnol.

Yn 1971 dyrchafwyd ef yn ysgrifennydd parhaol yn y Swyddfa Gymreig, ond dychwelodd i'r Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol yn 1973 pan ddaeth yn rhan o'r Adran Amgylchfyd anferth, lle y daeth yn Is-ysgrifennydd parhaol. O Ebrill 1976 hyd Chwefror 1979 yr oedd yn Gomisiynydd Seneddol dros Weinyddiad (Ombwdsman) a Chomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd. Prif ddyletswydd yr ombwdsman oedd ymchwilio i gwynion yn erbyn y llywodraeth, a chyfrifoldeb cyffelyb ynglyn â'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Y canlyniad fu iddo feirniadu'r anghwrteisi a thwyll neu gamweinyddu a ddarganfu yn y llywodraeth, gan arwain at ymddiheuriadau cyhoeddus gan weinidogion y llywodraeth am yr anghyfiawnderau a achoswyd gan eu staff. Yn 1979 cyhoeddwyd rheolau newydd yn gwahardd gweision sifil rhag atal budd-daliadau yr oedd gan berson hawl iddynt, er na ddigolledwyd pob un a ddioddefodd yn ariannol trwy gamweinyddiad gan rai asiantaethau cyfeiliornus megis y Cyllid Gwladol. Tynnodd sylw hefyd at drahauster a chamdriniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Daeth wedyn yn gadeirydd Cwmni Hodge a Chyllid Hodge, Caerdydd, a chadeirydd Corfforaeth Datblygu Cymru (1980-83). Am naw mlynedd bu'n gyfarwyddwr y Standard Chartered Bank a Chymdeithas Adeiladu Halifax (1979-88).

Yr oedd yn bianydd medrus ac ar ô symud o Gaerdydd i Rydychen mynychodd gwrs Cyfansoddi yn y brifysgol. Gwasanaethodd yn gadeirydd y Coleg Cerdd Cenedlaethol Brenhinol (1988-1992), a bu'n llywydd Coleg Harlech a Chlwb Busnes Caerdydd ac is-lywydd Coleg y Brifysgol, Abertawe.

Ymhlith yr anrhydeddau a dderbyniodd yr oedd: ei benodi'n CB yn 1967, ei wneud yn farchog yn 1972 a'i ethol yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg St Ioan, Rhydychen, yn 1979.

Yn 1946 priododd Mair Lewis (bu farw yn 1985); bu iddynt fab a merch. Bu ef farw 21 Ebrill 2010.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.