Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NICHOLAS, THOMAS EVAN (‘Niclas y Glais ’), (1879-1971), bardd, gweinidog yr Efengyl a lladmerydd dros y Blaid Gomiwnyddol.

Ganwyd T. E. Nicholas 6 Hydref 1879 yn Blaenwaun Felin ym mhlwyf Llanfyrnach yng ngogledd Sir Benfro. Cyn ei fod yn flwydd oed, symudodd ei rieni, David ac Elizabeth Nicholas , eu gwas a'u pump o blant i amaethu mewn tyddyn 57 erw o'r enw Llety. Yno y treuliodd y cyw melyn olaf ei blentyndod. Roedd ei rieni yn Ymneilltuwyr (Annibynwyr) ac yn bobl cefn gwlad, a'i dad, fel ei dad yntau, yn dilyn crefft saer maen yn ogystal â ffermio.

Magwyd y bychan mewn cymdeithas ddiwylliedig, annibynnol a gwrth-sefydliadol. Cyfoeswr ieuengach nag ef oedd D. J. Davies a ddaeth yn weinidog Capel Als, Llanelli, a anwyd yn y tyddyn y symudodd teulu Nicholas iddo yn 1880. Un arall o'r cylch oedd Thomas Rees , arloesydd y Blaid Lafur ac addysg i oedolion a Phrifathro Coleg Bala-Bangor.

Derbyniodd T. E. Nicholas ei addysg yn ysgol leol Hermon a gadawodd yr ysgol i fod yn was bach i Dafarn yr Alarch (Swan Inn) a siop groser, ond daeth y cyfan i ben yn ddiseremoni pan luniodd y llencyn gerdd yn gwawdio offeiriad Eglwyswrw adeg Ymgyrch Datgysylltu'r Eglwys wladol.

Gadawodd ardal y Preselau i weithio yn Nhreherbert, Morgannwg, ond ddeuddeg mis yn ddiweddarach penderfynodd ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Ymaelododd yn Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman , a oedd yng ngofal Watkin Hezekiah Williams , ‘Watcyn Wyn’ (1844-1905) , a John Gwili Jenkins (1872-1936) , lladmerydd syniadau diwinyddol, eangfrydig a ddaeth yn gysylltiedig â Diwinyddiaeth Newydd R. J. Campbell . Cydnabyddai T. E. Nicholas ei ddyled enfawr i J. Gwili Jenkins am agor iddo fyd Sosialaeth Gristnogol. Ond bu Nicholas hefyd yn darllen am ymdrechion Robert Owen , ac yn arbennig, farddoniaeth Robert Jones Derfel , Manceinion (1824-1905) .

Gadawodd Nicholas Ysgol y Gwynfryn yn 1901 ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg wrth dderbyn galwad i gapel Horeb yn Llandeilo. Y flwyddyn ddilynol priododd Mary Alys Hopkins , merch Thomas Hopkins , oriadurwr yn Rhydaman. Bu hi yn gefnogol iawn iddo a chawsant ddau o blant, mab a merch. Yn 1903 derbyniodd Nicholas alwad i Gapel Cymraeg yn Dodgeville, Wisconsin, Unol Daleithiau America ond byr fu ei gyfnod yno gan i Gapel Seion y Glais yng Nghwm Tawe estyn galwad iddo ar 31 Mai 1904. Derbyniodd honno a bu yno am ddeng mlynedd gan dod yn adnabyddus dan yr enw Niclas y Glais.

Yn y cyfnod hwn (1904-1914) daeth Cymru i adnabod Niclas y Glais fel un o areithwyr huotlaf o blaid Sosialaeth yn yr iaith Gymraeg ac yn ffrind da a chefnogydd i David Thomas a wnâi waith cyffelyb fel propagandydd y Mudiad Llafur yng Ngwynedd. Safai Nicholas ysgwydd wrth ysgwydd gydag arloeswyr Sosialaeth Prydain, yn rhannu llwyfan gyda Bruce Glasier a Keir Hardie o'r Blaid Lafur Annibynnol.

Daeth Nicholas yn ffefryn gan y glowyr yn y Glais, yn arbennig byllau glo Tynyfron, Llwyndu a Sisters Pit. Yn ystod yr ymrafael yn haf 1905, Hydref 1909 i Fawrth 1910, a gaeaf 1911 bu'n llefarydd dros y glowyr gyda pherchnogion fel Evan Lewis , y Glais.

Dechreuodd hefyd ysgrifennu erthyglau i'r Cenhinen ar faterion gwleidyddol, cymdeithasol a llenyddol. Ar gais Keir Hardie daeth yn olygydd Cymraeg i bapur y Blaid Lafur Annibynnol, The Merthyr Pioneer. Daeth i atgyfnerthu sosialaeth R. J. Derfel a'i bwyslais ar frawdgarwch, heddwch a chyfiawnder, cydraddoldeb, gwladoli'r tir, Senedd i Gymru, a gwrthwynebiad i'r teulu brenhinol, y bragwyr a militariaeth.

Taranai Nicholas efengyl broffwydol, heb ofn, a daeth yn ffefryn y Cyrddau Mawr a'r cyfarfodydd cyhoeddus. Yn ei gapel ei hun cefnogai ddiwylliant Cymraeg, gan gychwyn côr ac eisteddfod. Cystadlai yn eisteddfodau'r cyfnod, cerddi crefyddol ar y cychwyn, ond erbyn 1908 ceid neges sosialaidd ynddynt. Daeth i'w alw yn Fardd y Werin a chipiodd 17 o Gadeiriau eisteddfodol yng nghyfnod y Glais.

Ar 1 Rhagfyr 1913 gwahoddwyd ef gan ddiaconiaid Ebenezer, Llangybi a Bethlehem, Llanddewi Brefi i ddod atynt yn weinidog. Cyfarfu aelodau'r Glais ar brynhawn Dydd Nadolig i drafod yr alwad, a phenderfynu yn unfrydol i ofyn iddo aros. Ond mynd a wnaeth, a ffarwelio â phobl y Glais ar 11 Ionawr 1914. Gwasanaethodd y capeli yng nghefn gwlad Ceredigion drwy'r Rhyfel Byd Cyntaf a safodd yn ddewr fel heddychwr. Gwelir ei safbwynt yn y Merthyr Pioneer yn y gyfres o erthyglau ar ‘Y Rhyfel Anghyfiawn’. Erbyn hyn drwgdybid ef gan yr awdurdodau, ac yn arbennig gan Brif Gwnstabl Sir Forgannwg, Capten Lionel Lindsay . Ceisiodd ef ei erlyn am yr anerchiad a draddododd yng nghapel Siloa, Aberdâr yn ystod Gwasanaeth Coffa Keir Hardie yn 1915 ond gwrthododd y Swyddfa Gartref ganiatáu hyn am fod y cyfarfod yn oedfa i goffáu heddychwr a sosialydd amlwg.

Yn ardal Llangybi cythruddwyd Mrs Winifred Inglis-Jones o blasty Derry Ormond gan yr hyn a glywai am weinidog yr Annibynwyr a honnai fod ei gynulleidfa yn wrthwynebus iddo. Ond elwai pobl y cylch o'i wasanaeth fel deintydd ac yr oeddent yn amharod i gwyno. Daeth y Swyddfa Gartref i wybod am weithgareddau gwleidyddol peryglus T. E. Nicholas . Cadwodd yr heddlu cudd, yr MI5, lygad barcud arno am ddau reswm.

Rhoddodd chwyldro Rwsia, ym 1917 fywyd newydd iddo, ac yn ail, derbyniodd wahoddiad y Blaid Lafur Annibynnol i sefyll fel Ymgeisydd yn sedd Aberdâr yn etholiad 1918. Ei wrthwynebydd oedd Charles Butt Stanton (1873-1946) , gŵr lleol a enillodd sedd yn y Senedd fel olynydd Hardie . Safodd Stanton dros grwp a elwid y National Democratic Party (NDP), a chafodd Nicholas ei gam-drin yn enbyd. Derbyniodd 6,229 o bleidleisiau tra cafodd C. B. Stanton 22,824, mwyafrif o 16,595.

Yng Ngheredigion bu T. E. Nicholas yn trefnu gweithwyr ffermwyr yn Undeb ac yn 1918 ffurfiodd y Blaid Lafur yn y sir. Ymddiswyddodd o'r weinidogaeth yn 1918 a dechrau fel deintydd ym Mhontardawe. Yr oedd ei briod, ac yntau yn ei sgil hi, wedi'u hyfforddi yn ddeintyddion gan ffrind da, sef David Ernest Williams (1870-1956) o Aberpennar. Hyfforddodd ef hefyd eu mab, Islwyn ap Nicholas . Symudwyd i Aberystwyth yn 1921 a sefydlu practis yn y dref, ef a'i briod a'i fab.

Daeth yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol pan y'i ffurfiwyd yn 1920, ac nid oedd pall ar ei weithgareddau. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd ar Rwsia, ac yn arbennig ar ôl 1935 pan ymwelodd â'r wlad fawr honno. Daeth ei ddarlith, ‘Hen Ddyn Mewn Byd Newydd’, yn enwog. Traddododd hi er difyrrwch i gannoedd, o leiaf 200 o weithiau. Fel darlithydd yr oedd yn y rheng flaenaf. Teithiai pobl filltiroedd i wrando arno, ‘y Proffwyd Coch’. Meddai ar doreth o ddarlithiau, e.e. ar yr emynydd Pantycelyn a syniadau S. R., Llanbrynmair , a cheid yr un themâu yn ei golofn wythnosol ‘O Fyd y Werin’ yn Y Cymro yn y 1930au, er erbyn hyn deuai perygl ffasgaeth yn un o'i brif negeseuau.

Nid oedd ildio yn ei hanes yn ei gefnogaeth i bolisïau'r Undeb Sofietaidd. Cefnogodd Trefniant y Natsïaid a'r Sofietiaid yn Awst 1939. Cosbwyd ef am ei ddaliadau. Arestiwyd ef yn Llanbrynmair ar 11 Gorffennaf 1940 ar y cyhuddiad simsan o fod yn ffasgydd. Gyda'i fab Islwyn ap Nicholas cludwyd ef i garchar Abertawe a'u trosglwyddo i garchar mwy diogel Brixton. Y tu ôl i'r barrau lluniodd 150 o sonedau yn cyfleu ei argyhoeddiadau Cristnogol a Chomiwnyddol. Mynegodd gweinidogion yr efengyl o bob enwad, undebwyr llafur - yn arbennig y glöwyr - ac Aelodau Seneddol brotest am y carcharu, a chymerwyd eu hachos gan ddau far-gyfreithiwr galluog, D. N. Pritt ac Ithel Davies . Bodlonodd y Llywodraeth sefydlu tribiwnal o dan gadeiryddiaeth y Barnwr John Morris (yn ddiweddarach yr Arglwydd Ustus Morris o Borth-y-gest ) a gyfarfu yn Ascot. Rhyddhawyd y ddau ar ôl pedwar mis o garchar.

Cyhoeddwyd sonedau'r carchar yn 1942 o dan y teitl Canu'r Carchar ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg gan Daniel Hughes , Dewi Emrys a Wil Ifan a'i chyhoeddi yn Llundain yn 1948 fel The Prison Sonnets of T. E. Nicholas.

Cyflawnodd Nicholas lawer iawn, yn arbennig fel bardd y werin bobl. Llais unig, proffwydol ydoedd, wedi ei ysbrydoli gan y Beibl a chyhoeddiadau athronwyr Comiwnyddiaeth o Karl Marx i R. Palme Dutt . Saif ei gyfrolau o farddoniaeth yn gofadail sydd yn disgwyl am y beirniaid llenyddol. Cyhoeddwyd Salmau'r Werin (Ystalyfera, 1909), argraffiad cyntaf, a Salmau'r Werin (Wrecsam, 1913), yr ail argraffiad; Cerddi Gwerin (Caernarfon, 1912), Cyflog Byw (Pontardawe, 1913); Cerddi Rhyddid (Abertawe, 1914), Nadolig Arall (Llangybi, 1915); Dros Eich Gwlad (Llangybi, 1915), yna ail argraffiad, trydydd argraffiad (Pontardawe, 1920), pedwerydd argraffiad, 1930. Y Gân Ni Chanwyd (Aberystwyth, 1929); Weithwyr Cymru, Cenwch eich hunain i ryddid (Aberystwyth, 1938); Sonedau'r Carchar (Aberystwyth, 1940); Canu'r Carchar (Llandysul, 1942); Y Dyn a'r Gaib (Dinbych, 1944); Meirionnydd (Llandysul, 1949), ail argraffiad, 1950; Dryllio'r Delwau (Tywyn, 1949) a'i lyfr olaf o farddoniaeth Rwy'n Gweld o Bell (Abertawe, 1963). Gwerthodd y cyfrolau a'r pamffledi hyn yn dda yn sgil ymweliad y bardd â'r bröydd ar ei deithiau, ac yn arbennig ei gerdd hir, Weithwyr Cymru, Cenwch eich hunain i ryddid a werthodd fwy nag unrhyw lyfryn o farddoniaeth yn yr ugeinfed ganrif; dros chwe mil o gopïau yn nyddiau Clwb Llyfrau'r Chwith (Left Book Club).

Crynhowyd ei agwedd fel Cymro mewn pennill a luniodd yn 1903 a chredodd felly hyd ddydd ei farwolaeth:

Mae'r byd yn fwy na Chymru
Rwy'n gwybod hynny'n awr,
A diolch fod hen Gymru fach
Yn rhan o fyd mor fawr.

Ond crynhoir hefyd ei agwedd ryng-genedlaethol, ac esboniad pam y galwyd ef gan y gwleidydd Comiwnyddol Harry Pollit yn 1949, yn ‘ŵr mwyaf Cymru’. Mynegodd y Prifathro W. T. Pennar Davies galon y gwir pan ddywedodd ‘Y mae'n rhyfeddod fod proffwyd y chwyldro cymdeithasol wedi ei roddi i ni yn yr iaith Gymraeg a bod cymoedd diwydiannol Seisnigaidd Cymru heb gynhyrchu propagandydd barddol tebyg yn y Saesneg. Yr unig enw a ddaw i'r meddwl ydyw Idris Davies , sydd yn wrthrych cwlt bychan, ac yn taflu Nicholas i safle arbennig’.

Bu farw T. E. Nicholas yn ei gartref, Glasynys, Elmtree Avenue, Aberystwyth, ar 19 Ebrill 1971, yn 91 oed a bu'r gwasanaethau yng nghapel yr Annibynwyr, Aberystwyth ac Amlosgfa Arberth . Gwasgarwyd ei lwch ar y Preselau . Gadawodd weddw a mab, Islwyn ap Nicholas , i alaru ar ei ôl.

Y mae rhai o bapurau T. E. Nicholas yn Archifau Prifysgol Bangor, a llawysgrifau T. E. Nicholas (NLW MSS 13693A, 13694C, 13695A, 13695D) ynghyd a Phapurau Islwyn Nicholas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gellir gweld NLW MS 13692A sef Canu'r Carchar, cyfrol a ysgrifennwyd ganddo ar bapur ty bach Carchar Brixton ar Ddrych Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffynonellau:

  • D. Jacob Davies, ‘Niclas - Y Marcsydd Mwyn’, Cyffro , Cyfrol 2, Rhif 1;
  • Deian Hopkin, ‘Patriots and Pacifists in Wales 1913-18: the case of Capt. Lindsay and the Rev. T. E. Nicholas’, Llafur, cylchgrawn hanes Llafur Cymru , 1 (1974);
  • David W. Howell, Nicholas of Glais the people's champion , Clydach, 1991;
  • Bobi Jones, ‘Comiwnydd glew neu eciwmenydd glân’, Barn , 243 (1983), 105-7;
  • D. Tecwyn Lloyd, ‘T. E. Nicholas’ yn Gwyr Llên ysgrifau beirniadol ar weithiau deuddeg gŵr llên cyfoes , Llundain, 1948 (gol. Aneirin Talfan Davies, 144-63;
  • Robert Pope, ‘Y Ddraig Goch ynte'r Faner Goch? Yr ymryson rhwng G. W. F. Phillips a T. E. Nicholas’ yn Codi Muriau Dinas Duw Anghydffurfiaeth ac Anghydffurfwyr yr Ugeinfed Ganrif , Bangor, 2005, 90-111;
  • Robert Pope, Building Jerusalem - Nonconformity, Labour and the Social Question in Wales 1906-1939 , Caerdydd, 1997, 42-4;
  • D. Ben Rees, ‘Sosialaeth Farcsaidd Gymreig T. E. Nicholas’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1996), 164-74;
  • D. Ben Rees, Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif , Pontypridd a Lerpwl, 1972, 55-59;
  • Ivor Rees, ‘Thomas Evan Nicholas, 1879-1971’, Cylch. Ll.G.C., 35 (2010) (gyda nifer o ffotograffau);
  • J. Roose Williams (gol.), T. E.Nicholas proffwyd Sosialaeth a bardd gwrthryfel , Caerdydd, 1971;
  • J. Roose Williams, ‘T. E. Nicholas, Bardd Gwrthryfel’, Cyffro , Cyfrol 1, Rhif 2;
  • Morning Star , 21 April 1971;
  • Blwyddiadur yr Annibynwyr Cymraeg , 1972;
  • Adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

D. Ben Rees, Lerpwl

Blwyddyn Cyhoeddi: 2011