JENKINS, KATHRYN (1961-2009), ysgolhaig a hanesydd emynyddiaeth

Enw: Kathryn Jenkins
Dyddiad geni: 1961
Dyddiad marw: 2009
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: ysgolhaig a hanesydd emynyddiaeth
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganed Kathryn Jenkins 9 Mehefin 1961 yn Nhonypandy, Cwm Rhondda, yn unig blentyn Clement a Marion Jenkins. Peirannydd gyda'r Bwrdd Trydan oedd Clement Jenkins ac er na siaradai ef na'i wraig fawr ddim Cymraeg, yr oeddynt yn aelodau ffyddlon a gweithgar ym Methania, eglwys y Presbyteriaid Cymraeg yn Llwynypia ac yno y dechreuodd eu merch ymserchu yn y traddodiad emynyddol Cymraeg. O'r ysgol gynradd leol aeth Kathryn i ysgol ramadeg Tonypandy yn 1972 gan ymadael yn 1979 wedi ennill tystygrifau lefel A mewn cerddoriaeth - yr oedd yn bianydd ac organydd medrus - Saesneg a Chymraeg. Graddiodd gyda gradd anrydedd dosbarth 1 yn y Gymraeg yng Ngoleg Prifysgol Aberystwyth yn 1982 ac yna, yn ddeiliad un o ysgoloriaethau ymchwil yr Academi Brydeinig, bu'n fyfyriwr ymchwil yn Aberystwyth, 1982-85, yn Ysgolor Syr John Rhys yng Ngholeg Iesu Rhydychen 1985-86, a graddio'n PhD yn Aberystwyth yn 1987.

Wedi cyfnod byr yn is-warden Coleg Trefeca, canolfan leyg Eglwys Bresbyteraidd Cymru, dychwelodd i Aberystwyth yn Gymrawd Ymchwil yn 1988 nes ei phenodi'n ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1992. Er syndod i lawer o'i chydnabod, ymddiswyddodd yn 1999 i ymgymryd â swydd yn y gwasanaeth gwladol yng Nghynulliad Cenedlaethol newydd Cymru yn 2000, yn ddirprwy olygydd Cofnod y Trafodaethau ac wedyn yn Glerc Pwyllgor, swydd a ddaliai adeg ei marw.

Gwraig egnïol a byrlymus ei syniadau oedd Kathryn Jenkins, yn drefnydd effeithiol ac yn arweinydd naturiol. Etholwyd hi'n flaenor yn ei heglwys yn 1986 ac yr oedd yn bregethwr lleyg. Urddwyd hi i wisg wen Gorsedd y Beirdd yn 1993. Yr oedd yn ddarlithydd gafaelgar yn y coleg ac yn siaradwraig boblogaidd mewn cymdeithasau o bob math. Bu'n aelod o Lys Prifysgol Cymru o 1996 ymlaen ac o Fwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol a bu'n Llywydd Bwrdd Addysg Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn Llywydd Coleg y Bala 1993-98. Ond nid oes amheuaeth nad y swyddi a lanwodd yng Nghymdeithas Emynau Cymru a roes fwyaf o foddhad iddi a lle y cyflawnodd ei gwasanaeth pwysicaf - yn swyddog cyfathrebu, yn ysgrifennydd, ac yna yn drysorydd 1992-98, ac yn Llywydd blaengar o 1998 hyd ei marw. Cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor gwaith oedd y gorchwyl cyhoeddus olaf a gyflawnodd, ddiwrnod cyn iddi farw. Yr oedd hefyd yn aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon 1998-2004 a bu'n darlithio yng nghynhadledd y gymdeithas ryngwladol yn Halifax, Nova Scotia yn 2003.

Yr oedd yn hanesydd llên ac yn feirniad llenyddol gwybodus a chraff a gyhoeddodd waith ar lenyddyddiaeth y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif ond ei chariad pennaf oedd emynyddiaeth 'glasurol' y Gymraeg a gwaith William Williams, Pantycelyn yn arbennig. Ei le ef yn hanes yr emyn yng Nghymru oedd pwnc ei thraethawd PhD a thros y blynyddoedd cyhoeddodd doreth o erthyglau ar agweddau o'i waith. Yn Anthem Angau Calfari, detholiad o'i emynau a gyhoeddwyd yn 1991 i ddathlu dauganmlwyddiant ei farw llwyddodd i gyfuno ei hysgolheictod a'i gwybodaeth â'i defosiwn personol. Cyhoeddwyd casgliad coffa o'i herthyglau, Cân y Ffydd (gol. Rhidian Griffiths), yn 2011 sy'n cynnwys y ddarlith a draddododd yn Halifax, anerchiad sy'n dangos fel yr oedd cyfeiriad ei hastudiaeth o emynyddiaeth yn newid mewn ffordd arwyddocaol.

Priododd ag Alan Jones yn 1993; ni fu plant o'r briodas. Bu Kathryn Jenkins farw'n sydyn yn ei chartref yn Llangybi, Ceredigion, 3 Mai 2009. Bu'r angladd yng nghapel Maesyffynnon, Llangybi, 11 Mai, ac wedyn yn amlosgfa Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-12

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.