HUGHES, CLEDWYN,BARWN CLEDWYN O BENRHOS (1916-2001), gwleidydd

Enw: Cledwyn Hughes
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 2001
Priod: Jean Beatrice Hughes (née Hughes)
Rhiant: Emma Hughes (née Hughes)
Rhiant: Henry David Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd Cledwyn Hughes ar y 14eg o Fedi 1916 yn 13 Teras Plashyfryd, Caergybi, mab hynaf Henry David Hughes ac Emma Davies (gynt Hughes, a oedd yn weddw ifanc a mab bach, Emlyn, ganddi wrth iddi ail-briodi ym 1915). Trwy ei dad, yr oedd Cledwyn Hughes yn ddisgynnydd i genedlaethau o chwarelwyr llechi yn Sir Gaernarfon. Gadawodd Henry Hughes, a adweinid yn gyffredinol fel Harri Hughes, yr ysgol yn ddeuddeg mlwydd oed i weithio yn chwarel Dinorwig. Wedi naw mlynedd, ailgydiodd yn ei addysg gan fynd i weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd a gwasanaethu yn weinidog ar gapel Disgwylfa yng Nghaergybi o 1915 hyd ei farw ym 1947. Yn ei blentyndod âi Cledwyn a'i frawd ieuengaf, David Lloyd i'r capel yn feunyddiol. Cafodd Cledwyn Hughesei addysg yn Ysgol Ramadeg Caergybi a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y gyfraith ym 1937.

Cefnogwr brwd i David Lloyd George a'i ferch Megan, aelod seneddol Rhyddfrydol dros sir Fôn o 1929, oedd Harri Hughes. Yn y brifysgol dilynodd Cledwyn Hughes draddodiad rhyddfrydol y teulu gan gael ei ethol yn gadeirydd y Gymdeithas Ryddfrydol. Wedi gadael Aberystwyth, dychwelodd i Gaergybi lle yr astudiodd i ennill cymwysterau i fod yn gyfreithiwr. Yn y cyfamser, wrth ystyried amgylchiadau cyfoes a darllen dadansoddiadau radicalaidd o gymdeithas, symudodd i gyfeiriad y Blaid Lafur.

Wedi ymgymhwyso'n gyfreithiwr ym 1940 ymunodd Hughes â Gwasanaeth Wrth-gefn Gwirfoddol y Llu Awyr, mewn swydd weinyddol gan gyrraedd rheng Awyr-lifftenant. Yn ystod ei wasanaeth yn y llu awyr fe'i dewiswyd yn ymgeisydd y Blaid Lafur dros etholaeth Môn yn Etholiad Cyffredinol 1945. Penderfyniad anodd oedd hyn iddo, oherwydd teyrngarwch ei deulu i'r Blaid Ryddfrydol. Cyfiawnhawyd ei safiad wedi i fwyafrif y Fonesig Megan, mewn cystadleuaeth rhwng y ddau ohonynt, syrthio i 1081 pleidlais. Wedi'i ryddhau o wasanaeth milwrol ym 1946, dychwelodd Hughes i Gaergybi i fod yn gyfreithiwr. Ef oedd aelod ieuengaf y Cyngor Sir wedi'i ethol yn ward Kingsland yng Nghaergybi. Hefyd fe'i penodwyd yn glerc dros dro i Gyngor Dosbarth Caergybi, swydd a lanwodd hyd at 1949.

Mewn cystadleuaeth dairongl yn Etholiad Cyffredinol 1950, chwyddwyd mwyafrif y Fonesig Megan ychydig, gyda Hughes yn yr ail safle. Flwyddyn wedi hynny enillodd Hughes y sedd i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 595 pleidlais. Yn ei araith gyntaf ar 8 Tachwedd 1951, soniodd Hughes am wendidau'r gwasanaeth tai ym Môn, am annoethineb creu swydd Gweinidog Gwladol dros Faterion Cymreig ynghlwm wrth swydd yr Ysgrifennydd Cartref, ac am ei bryderon am yr iaith Gymraeg a oedd ag angen gradd o ddatganoli i Gymru. Parhaodd yn gynghorwr sir hyd at 1953, gan fagu perthynas agos â'r Cyngor ar hyd ei dymor fel aelod seneddol. Gweithiodd yn galed, gyda pheth llwyddiant, i greu swyddi yn Sir Fôn.

Yn y cyfnod 1951 hyd 1956 bu Hughes yn un o arweinyddion yr ymgyrch dros Senedd i Gymru. Achosodd hyn i aelodau o'r Blaid Lafur a oedd yn anhapus â'r syniad o ddatganoli, dynnu sylw Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid at ymddygiad Hughes a phedwar arall. Wedi methiant yr ymgyrch, cefnogodd Hughes y frwydr i sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a thestun llawenydd iddo oedd cynnwys y syniad ym mholisi swyddogol y Blaid Lafur ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1959. Ym 1958 argymhellodd Hugh Gaitskell, Arweinydd yr Wrthblaid a James Callaghan, llefarydd yr Wrthblaid ar y trefedigaethau, fod Hughes yn cynnal arolwg o'r sefyllfa ar ynys bellennig St. Helena. Yng nghwmni ei wraig a'i fab ifanc, treuliodd Hughes bum wythnos ar yr ynys gan lunio adroddiad beirniadol am ddiffyg sefydliadau democrataidd ac yn tynnu sylw at angen cymorth cyllidol i'r preswylwyr. Er i'r llywodraeth Geidwadol fethu â chynnig unrhyw fesurau i wella'r sefyllfa tan 1963, cafodd Hughes gydnabyddiaeth fuddiol yn y wasg am ei waith ac fe'i penodwyd gan Gaitskell ym 1959 i fod yn llefarydd yr Wrthblaid ar wasanaethau tai a llywodraeth leol. Gwasanaethodd yn y swydd tan 1964.

Wedi buddugoliaeth gyfyng y Blaid Lafur ar 15 Hydref 1964, penodwyd Arthur Bottomley yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad gyda Hughes yn Weinidog Gwladol iddo. Cynrychiolodd Hughes y llywodraeth mewn seremonïau i ddathlu hunanlywodraeth yn Kenya, Gambia a Malta. Profwyd galluoedd Hughes fel trafodwr mewn achosion o anghydfod rhwng aelodau'r Gymanwlad yn enwedig yn Cyprus, Malaysia ac is-gyfandir yr India. Hughes a drefnodd yr atal brwydro rhwng yr India a Phacistan wedi'r ymrafael milwrol yn y Rann of Kutch yn ystod Mehefin 1965. Wedi i Brif Weinidog Malta gael ei gyffroi ynghlch dyfodol dociau'r llynges yn yr ynys, danfonwyd Hughes i dawelu ei feddwl. Cododd prawf llymach gydag anfon Hughes i Dde Rhodesia i gynnal trafodaethau ag Ian Smith, Prif Weinidog y drefedigaeth a gwleidyddion eraill, ac eithrio'r rheini oedd yn y carchar, yng Ngorffennaf 1965. Ni lwyddodd y trafodaethau i ddatrys y sefyllfa.

Wedi i'r Blaid Lafur ennill yr Etholiad Cyffredinol ym 1966 gyda chynnydd yn ei mwyafrif, penderfynodd James Griffiths, yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf dros Gymru, ymddeol. Penododd Harold Wilson Hughes yn olynydd iddo. Yr oedd ei lwyddiant yn Swyddfa'r Gymanwlad wedi ennill iddo sedd yn y Cabinet. Wedi etholiad 1964 yr oedd Hughes wedi gobeithio am swydd yn y Swyddfa Gymreig ac yr oedd wrth ei fodd yn olynydd i Griffiths. Bu'n Ysgrifennydd Gwladol am ddwy flynedd, o 6 Ebrill 1966 hyd 6 Ebrill 1968. Ei Weinidog Gwladol cyntaf oedd George Thomas a olynwyd ym 1967 gan Eirene White. Soniodd hi'n wresog am gefnogaeth Hughes a'i galluogodd i gyflawni'i gorchwylion heb ymyrraeth ddiangen.

Yr oedd misoedd cyntaf Hughes yn y Swyddfa Gymreig yn rhai anodd, er bod y Blaid Lafur yn cynrychioli 32 o'r 36 etholaeth yng Nghymru. Trefnwyd ymgyrch fywiog gan Gymdeithas yr Iaith ynglyn â'r dreth ceir, nid oedd yr economi Gymreig yn ffynnu, bu ymrafael cyhoeddus ac amlwg ynglyn â sefydlu tref newydd yn ardal Caersws, a helynt arall ynglyn â chronfeydd dwr. Ar 21 Hydref 1966, digwyddodd trychineb enfawr Aberfan wrth i domen sbwriel glo-mân lifo dros ysgol y pentref gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion. Ar unwaith, hedfanodd y Prif Weinidog a Hughes i Aberfan, lle y cyhoeddodd Wilson ei fod yn rhoi grymoedd arbennig, tebyg i rai milwrol, i Hughes i ddelio â'r sefyllfa. Wedi'r drychineb symudodd Hughes yn gyflym ac â phendantrwydd. Penodwyd y Barnwr Edmund Davies i arwain ymchwiliad cyhoeddus a sefydlwyd Uned Tir Diffaith yn y Swyddfa Gymreig er mwyn rhwystro trychinebau cyffelyb. Hyd ddiwedd ei oes soniodd Hughes am drychineb Aberfan fel un o'r cyfnodau mwyaf tywyll yn ei fywyd ac arhosodd yr atgofion yn rhai poenus.

Yn Etholiad Cyffredinol 1966, cyhoeddwyd maniffesto Cymreig gan y Blaid Lafur a oedd yn cynnwys addewid am estyn trefniadau datganoli. Ond cythryblwyd y Blaid, yn enwedig yn Ne Cymru, wedi i Blaid Cymru ennill yr is-etholiad yng Nghaerfyrddin a gwneud yn dda yn etholaeth Gorllewin y Rhondda, y ddau yn 1966. Bu'n rhaid i Hughes gyfyngu'i obeithion am ragor o ddatganoli. Gwrthwynebwyd ei ymgais i ad-drefnu llywodraeth leol gan Richard Crossman a oedd yn mynnu cwblhau'r ad-drefnu yn Lloegr yn gyntaf. Ni chadarnhawyd ei gynigion am gyngor etholedig i Gymru gan y Cabinet oherwydd gwrthwynebiad di-ildio Willie Ross, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban. Cafodd Hughes drafferth o fewn y Blaid Lafur pan gyflwynodd Fesur yr Iaith Gymraeg ym 1967; buasai'n well ganddo baratoi mesur manwl, ond bu rhaid iddo gyfaddawdu ar fesur byr a oedd yn galluogi'n unig, nad oedd yn dderbyniol i ymgyrchwyr dros yr iaith. Mater dadleuol arall yng Nghymru oedd arwisgo Tywysog Cymru. Ni chythryblwyd Hughes gan y protestwyr a llwyddodd i greu perthynas personol da â'r Tywysog.

Yn ad-drefnu'r llywodraeth ym mis Ebrill 1968, symudwyd Hughes gan Wilson i'r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgota a Bwyd. Dichon bod Wilson o'r farn bod Hughes yn tueddu'n ormodol at ddatganoli, gan iddo benodi George Thomas, un a oedd yn gwrthwynebu datganoli, i ddilyn Hughes. Yn y Weinyddiaeth Amaeth yr oedd yn rhaid i Hughes ddelio â diwedd ymosodiad egr clefyd y traed a'r genau. Sicrhaodd fod argymhellion y pwyllgor ymchwil a gadeiriwyd gan Ddug Northumberland yn cael eu gweithredu'n brydlon ac o'r herwydd ni chafwyd ymosodiad tebyg am gyfnod maith. Bu'n gyfrifol am sefydlu rheoliadau lles da byw, mater llosg, ac ym 1969 sefydlodd Bwyllgor Waterhouse ar y gynddaredd, a arweiniodd yn y man at fesurau i reoli'r haint. Ei dasg fwyaf anodd oedd trafod yr adolygiad prisiau gyda ffermwyr, carfan adnabyddus am eu hanniolchgrawch, ond cafodd gryn lwyddiant gydag Adolygiad Prisiau 1970. Yn ystod ei dymor yn y Swyddfa Gymreig yr oedd Hughes wedi ceisio ychwanegu at gyfrifoldebau'r adran i gynnwys amaeth ac iechyd; yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog Amaeth, trosglwyddodd gyfrifoldebau dros amaeth yng Nghymru i'r Swyddfa Gymreig.

Wedi i'r Blaid Lafur golli'r Etholiad Cyffredinol ym 1970, penodwyd Hughes yn llefarydd yr Wrthblaid dros amaethyddiaeth, ond collodd ei swydd yn Ionawr 1972 wedi iddo anwybyddu gorchymyn Wilson i aelodau Llafur beidio â phleidleisio ar delerau mynediad i'r Farchnad Gyffredin. Cefnogwr cymedrol dros aelodaeth Prydain oedd Hughes, yn is-lywydd y grwp amlbleidiol, Prydain yn Ewrop. Ymgyrchodd o blaid ymuno yn refferendwm 1975. Wedi i'r Blaid Lafur ddychwelyd i lywodraeth yn Chwefror 1974, ni chafodd Hughes swydd yn y llywodraeth bryd hynny nac ychwaith wedi'r etholiad yn Hydref 1974. Yr oedd cynnydd dylanwad yr adain chwith o fewn y Blaid Lafur wedi arwain at etholiad Ian Mikardo yn gadeirydd y Blaid Lafur Seneddol gyda Hughes yn is-gadeirydd. Wedi Etholiad Hydref 1974 safodd Hughes fel cynrychiolydd adain gymedrol y blaid gan drechu Mikardo. Wedi penderfyniad Wilson i ymddeol fel Prif Weinidog, ar Hughes y syrthiodd y ddyletswydd o drefnu etholiad am arweinydd newydd i'r Blaid Lafur a fyddai hefyd yn dilyn Wilson yn Brif Weinidog. Yr oedd dau o'r ymgeiswyr, James Callaghan a Roy Jenkins yn agos iawn at Hughes, ond cyflawnodd ei dasg anodd yn dringar. Llawenydd iddo oedd gweld Callaghan yn olynydd i Wilson yn Ebrill 1976. Yr oedd Callaghan a Hughes wedi cyfarfod am y tro cyntaf yng nghartref rhieni Glenys Kinnock yng Nghaergybi ym 1949; yr oedd ei thad i'w ethol yn gadeirydd ar y Blaid Lafur yn sir Fôn yn y man.

Bu Hughes yn gadeirydd y Blaid Lafur Seneddol drwy gydol yr amser yr oedd James Callaghan yn Brif Weinidog; cynorthwyodd ef drwy gadw llygad ar y carfanau cwerylgar yn y blaid a thrwy gyflawni nifer o orchwylion sensitif. Ym mis Mawrth 1977 cymerodd ran yn y trafodaethau a arweiniodd at gytundeb (Lib-Lab) rhwng y Blaid Lafur a'r Blaid Ryddfrydol. Wedi i lywodraeth Callaghan golli ei mwyafrif, Hughes a berswadiodd aelodau Plaid Cymru i gefnogi'r llywodraeth ar sail addewid i gyflwyno cyfraith yn cynnig iawndal i weithwyr yn dioddef o silicosis yn ganlyniad i'w gwaith yn y chwarelau llechi. Ym mis Tachwedd 1978 dychwelodd Hughes i Dde Rhodesia yn gennad Callaghan at lywodraeth Ian Smith. Ni lwyddodd i ddarbwyllo Smith i ailagor trafodaethau â'r llywodraeth Brydeinig, ond trwy'r ymdrech hon ailsefydlwyd cysylltiadau a arweiniodd at drafodaethau mwy llwyddiannus ymhen y flwyddyn. Bu Hughes yn arweinydd dirprwyaeth seneddol i'r Undeb Sofietaidd ym 1977; sylw Callaghan oedd ei fod yn ddewis da oherwydd y byddai'n annhebygol fod yna ysbiwyr Sofietaidd a fedrai'r Gymraeg. Siomwyd Hughes ar ddiwedd llywodraeth Callaghan wedi i gynigion am ragor o ddatganoli i Gymru cael eu gwrthod yn y refferendwm ar 1 Mawrth 1979. Wedi i'r llywodraeth gwympo ar ddiwedd mis Mawrth, gadawodd Hughes Dy'r Cyffredin; daeth maint ei gefnogaeth bersonol yn sir Fôn i'r amlwg wrth i'r sir ethol aelod Ceidwadol i'w ddilyn.

Yn rhestr anrhydeddau diddymu llywodraeth Callaghan a gyhoeddwyd ar 15 Mehefin 1979, dyrchafwyd Hughes i fod yn Arglwydd am oes gan gymryd y teitl Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Caergybi yn Ynys Môn. Pan ffurfiwyd y Blaid Ddemocratig Gymdeithasol ym 1981, gwrthododd yr Arglwydd Cledwyn y gwahoddiad i ymuno â hi. Wedi marwolaeth yr Arglwydd Goronwy-Roberts ym mis Gorffennaf 1981, etholwyd Arglwydd Cledwyn yn is-arweinydd ei Blaid yn Nhy'r Arglwyddi; anfodlonrwydd ag arweiniad yr Arglwydd Peart a achosodd i arglwyddi blaenllaw Llafur ei gynnig fel arweinydd ym mis Tachwedd 1982. Wedi ennill yr etholiad, bu'n berson dylanwadol yn Nhy'r Arglwyddi nes iddo ymddeol ym 1992. Trefnodd wrthwynebiad effeithlon i fesurau dadleuol llywodraeth Thatcher, gan drechu'r llywodraeth ar brydiau. Rhoddai teledu dadleuon Ty'r Arglwyddi amlygrwydd cyhoeddus mawr i arweinwyr yr Wrthblaid Lafur yno. Yr oedd yr Arglwydd Cledwyn yn fedrus iawn wrth drefnu'r adnoddau a oedd ganddo yn effeithiol i archwilio gwaith y llywodraeth. Dros y rhan fwyaf o'i gyfnod yn arweinydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi, a thrwy hynny yn aelod o Gabinet yr Wrthblaid, Neil Kinnock oedd arweinydd y Blaid Lafur, ac yr oedd perthynas gwaith cryf rhyngddo ef a Hughes. Pe bai Llafur wedi ennill yr Etholiad Cyffredinol ym 1992, bwriad Kinnock oedd penodi'r Arglwydd Cledwyn i swydd yn y Cabinet.

Oddi ar 1976 buasai'r Arglwydd Cledwyn yn Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; gadawodd y swydd pan gafodd ei benodi'n Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru ym 1985. Yr oedd gwahanol broblemau'r Brifysgol a'i cholegau, yn enwedig y rhai ariannol, yn hawlio cyfran sylweddol o'i amser yn ystod y degawd nesaf. Llwyddodd yn ei gais am gyllid gan y llywodraeth i uno Coleg y Brifysgol Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Brifysgol. Wedi iddo ymddeol o swydd y Dirprwy Ganghellor ym 1993, derbyniodd wahoddiad i fod yn Llywydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ym 1995. Ar ôl 1979 rhoddodd ei gymwynas fwyaf i Gymru ym 1982, wrth gymryd rhan flaenllaw yn darbwyllo William Whitelaw i newid polisi'r llywodraeth a chytuno i sefydlu gwasanaeth teledu yn yr iaith Gymraeg.

Wedi ymddeol fel arweinydd y Blaid Lafur yn Nhy'r Arglwyddi, mynychai'r Arglwydd Cledwyn y Ty'n gyson gan draethu, y rhan fwyaf, ar faterion Cymreig. Gwasanaethodd ar y Pwyllgor Archwilio Anrhydeddau Gwleidyddol o 1992 hyd 1998. Yr oedd yn falch i weld y llywodraeth Lafur newydd ym 1997 yn llwyddo i gyflwyno cynulliad datganoledig yng Nghymru, er gwaethaf peth siom na chafodd wahoddiad i chwarae rhan yn y broses. Wedi ei gymell gan John Grigg, cofiannydd David Lloyd George, sefydlodd yr Arglwydd Cledwyn Ymddiriedolaeth Cofeb David Lloyd George ym 1996. Bwriad yr ymddiriedolaeth oedd codi cofgolofn o Lloyd George yn yr awyr agored yn Llundain. Wedi'u llywio gan Arglwydd Cledwyn, mynnodd yr ymddiriedolwyr gael y gofeb yn Parliament Square. Ni chafodd Cledwyn fyw i weld gwireddu'r dasg, ond cofiwyd yn annwyl iawn am ei gyfraniad wrth i Dywysog Cymru ddadorchuddio'r gofeb yn 2007.

Penodwyd Arglwydd Cledwyn yn Gymrawd Anrhydedd (CH) ym 1977. Crëwyd ef yn rhyddfreiniwr Biwmares (1972), Bwrdeistref Môn (1976), a Chaerdydd (2000). Derbyniodd raddau er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru (1970), Sheffield (1992), a Morgannwg (1996). Dengys ei yrfa wleidyddol fod Cledwyn Hughes yn wleidydd dawnus a gweinyddwr effeithlon; yr oedd hefyd yn ddyn twymgalon â hiwmor, gyda dawn arbennig i adrodd stori. Uwchlaw popeth, yr oedd yn ymrwymedig i Gymru. Nid syndod yw cofio iddo gael ei adnabod trwy'r byd gwleidyddol a thrwy Gymru gyfan yn syml fel 'Cledwyn'. David Lloyd George, Aneurin Bevan a Cledwyn Hughes yw prif wleidydidon Cymreig yr ugeinfed ganrif.

Gwr cynharol fyr, â chorff byrdew a gwallt tywyll, a chanddo fan geni amlwg ar ei wyneb, oedd Cledwyn Hughes. Priododd Jean Beatrice Hughes, hithau o Gaergybi ar 17 Mehefin 1949 a ganed iddynt fab a merch. Muriau, Caergybi oedd eu cartref, a Penmorfa, Bae Trearddur wedi hynny. Bu farw'r Arglwydd Cledwyn yn ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar 22 Chwefror 2001; cynhaliwyd gwasanaeth angladd cyhoeddus yng nghapel Disgwylfa gyda chladdedigaeth breifat ym mynwent Maeshyfryd yn dilyn ar 27 Chwefror 2001.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-03-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.