GRIFFITH, GWILYM WYNNE (1914-1989), meddyg a swyddog iechyd

Enw: Gwilym Wynne Griffith
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1989
Priod: Gwyneth Rees Griffith (née Hughes)
Rhiant: Grace Wynne Griffith (née Roberts)
Rhiant: Griffith Wynne Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a swyddog iechyd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganed Gwilym Wynne Griffith yn Lerpwl ar Ragfyr 18, 1914 yn fab i'r Parchg G. Wynne Griffith (1883-1967), gweinidog capel Douglas Road, Anfield, a'i wraig, y nofelydd Grace Wynne Griffith (née Roberts) (1883-1963); brawd iddo oedd Parchg Huw Wynne Griffith. Symudodd y teulu i Borthmadog pan ddaeth y tad yn weinidog eglwys (Bresbyteraidd) y Tabernacl ac wedyn i Fangor pan ddaeth yn weinidog eglwys y Tabernacl yno.

Addysgwyd Gwilym Wynne Griffith yn ysgol Porthmadog ac ysgol Friars, Bangor. Oddi yno enillodd ysgoloriaeth Robert Gee i ysgol feddygol Prifysgol Lerpwl yn 1932 a graddiodd yn 1938. Amlygodd ddiddordeb arbennig ym maes iechyd cyhoeddus a chanser, a daeth yn ddiweddarach yn awdurdod cydnabyddedig ar ei epidemioleg. Enillodd Wobr Rex Cohen am ei ymchwil i gyfnewidiadau yng ngwaed cleifion yn dioddef o'r clefyd a chyhoeddodd yn 1939 adroddiad ar ffurf anghyffredin o liwcemia, y gyntaf o liaws o erthyglau a phapurau ymchwil meddygol ganddo.

Gwasanaethodd yn gyrnol-feddyg yn yr RAMC yn Ewrop a'r Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi dychwelyd, fe'i penodwyd yn Swyddog Meddygol Cynorthwyol sir y Fflint ac yn 1948 penodwyd ef yn Swyddog Meddygol Sir Fôn. Enillodd radd MD (Lerpwl) yn 1952 am ei ymchwil ystadegol feddygol a chafodd ei ethol hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol yr Ystadegwyr (FRSH) ac yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Meddygaeth (FRSM). Yn 1961 gwahoddwyd ef i ymuno â phrif swyddfa Awdurdod Iechyd y Byd yn Washington DC yn gyfrifol am gynllun ymchwil eang a gyhoeddwyd yn 1967 dan ei enw ef a Ruth Rice Puffer, sef Patterns of Urban Mortality (Washington, Pan American Health Organization). Bu'n aelod o fwrdd gweithredol yr Awdurdod ac o banel arbenigwyr ar ystadegau iechyd. Ddiwedd y 1960au dychwelodd i Lundain yn brif swyddog meddygol y gangen yn y Weinyddiaeth Iechyd a oedd yn gyfrifol am iechyd rhyngwladol. Ymhlith ei gyfraniadau pwysig rhaid nodi sefydlu uned epidemioleg canser ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymddeolodd i sir Fôn yn 1971.

Yr oedd Gwilym Wynne Griffith yn wr eang ei ddoniau a'i ddiwylliant, yn fathemategydd ac ystadegydd galluog ac yn dra gwybodus yn y celfyddydau cain, arlunio yn arbennig. Yr oedd yn ddilynwr chwaraeon brwd, yn enwedig criced a rygbi. Sefydlodd cynghrair criced yn Sir Fôn yn y 1950au. Yn ystod ei gyfnod yn y Weinyddiaeth Iechyd, roedd yn un o selogion yr Oval. Yr oedd yn gefnogydd cyson i'r Eisteddfod Gendlaethol a derbyniwyd ef i wisg wen yr orsedd yn 1979. Ysgrifennai dipyn wedi ymddeol (yr oedd eisoes wedi cyhoeddi comedi fer i ieuenctid, Brown y ditectif, yn 1935) gan gynnwys The day before yesterday (1988), ei gyfieithiad o lyfr ei fodryb Elizabeth Ann Williams, Hanes Môn yn y bedwared ganrif ar bymtheg (1927).

Priododd Gwilym Wynne Griffith â Gwyneth Rees Hughes o Lerpwl yn 1939 ac yr oedd ganddynt 3 o blant. Bu farw ar Ebrill 16 1989 ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llangwyfan, Ynys Mon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-11-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.