DANIEL, WILLIAM RAYMOND (RAY) (1928-1997), pêl-droediwr proffesiynol

Enw: William Raymond Daniel
Dyddiad geni: 1928
Dyddiad marw: 1997
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pêl-droediwr proffesiynol
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Richard E. Huws

Ganwyd Ray Daniel 2 Tachwedd 1928 ym Mhlasmarl, Abertawe, yr ieuengaf o dri phlentyn William a Cissie Daniel (gynt Norman). Yr oedd y teulu'n byw mewn rhan o dy'r cyfarwyddwr yng ngwaith dur cwmni British Mannesmann Tube, Cyf. lle'r oedd y tad yn geidwad stordy. Saif Stadiwm y Liberty, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, ar safle'r gwaith. Dechreuodd Ray Daniel ar ei yrfa yn amatur gyda Thref Abertawe ac yn Hydref 1946 llofnododd delerau proffesiynol gydag Arsenal lle yr oedd ei frawd hyn Robert Norman Victor 'Bobby' Daniel (1922-1943) yntau wedi chwarae cyn iddo gael ei ladd tra oedd yn gwasanaethu gyda'r Llu Awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyflawnodd Ray Daniel ei wasanaeth cenedlaethol rhwng 1947 a 1949 a chwaraeodd dros tîm cyntaf Arsenal am y tro cyntaf yng ngêm olaf y tymor yn erbyn eu cystadleuwyr Llundeinig, Charlton Athletic.

Yr oedd Daniel yn hanerwr canol medrus, ac yn anarferol yn y cyfnod hwn, braidd yn fentrus hefyd; hoffai ddwyn y bêl allan o'r amddiffyn yn null chwaraewyr y cyfandir. Yr oedd yn chwaraewr amryddawn a allai berfformio lawn mor effeithiol, yn ôl y galw, fel blaenwr canol. Treuliodd lawer o'i yrfa gynnar yn Arsenal yn ddirpwy i Leslie Compton (1912-1983) ac yn ystod ei dri thymor cyntaf dim ond mewn 13 o gemau cynghrair y chwaraeodd. Ac yntau'n dal yn chwaraewr wrth gefn, chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf ar 20 Hydref 1951 mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr ar Barc Roker, Sunderland. Enillodd gyfanswm o 21 o gapiau dros ei wlad.

Pan ymddeolodd Compton yn 1951, daeth Daniel yn chwaraewr rheolaidd dros Arsenal gan chwarae yn Wembley yn y gêm gwpan a gollwyd yn erbyn Newcastle yn 1952. Yn nhymor 1952-53, pan enillodd Arsenal y bencampwriaeth, un gêm yn unig a gollodd Daniel. Yn ystod ei gyfnod yn Highbury chwaraeodd Daniel mewn 99 o gemau dros Arsenal a sgorio 5 gôl. Câi ei gydnabod yn un o amddiffynwyr gorau'r wlad a llofnodd dros Sunderland 17 Mehefin 1953 am, fe ddywedir, £27,500, ffî drosglwyddo a oedd yn unigryw am amddifynnwr y pryd hynny. Yn Sunderland ymunodd â'i gyd-Gymro Trevor Ford a fu'n allweddol yn ei annog i symud i'r gogledd.

Arhosodd Daniel yn Sunderland am bedwar tymor gan ddod yn gapten y clwb. Chwaraeodd 136 o gemau cynghrair drostynt cyn ymuno â Dinas Caerdydd yn Hydref 1957 lle y chwaraeodd mewn chwech o gemau cynghrair yn unig cyn dychwelyd i'w glwb cyntaf, Abertawe, fis Mawrth 1958 lle y chwaraeodd mewn 44 o gemau cynghrair a 2 gêm gwpan Cymreig gan sgorio 16 gôl. Nid oedd rhan iddo yn ymgyrch Cwpan y Byd ddewr Cymru yn Sweden yn 1958 gan ei fod wedi colli ei le rhyngwladol i'r Mel Charles ifancach (ganwyd 1935). Ymunodd â Hereford United, clwb yng Nghynghrair y Dehau, fis Gorffennaf 1960 heb ffî a bu'n rheolwr-chwaraewr y clwb am gyfnod byr rhwng 1962 a 1963, cyfnod pan chwaraeodd ei gyd-chwaraewr cydwladol John Charles (1931-2004) hefyd dros y clwb. Rhyddhawyd ef gan Henffordd ym Mai 1967 wedi chwarae 217 o weithiau dros y clwb, yn flaenwr canol yn aml, gan sgorio 66 o golau.

Wedi ymddeol o'r gêm penodwyd ef yn rheolwr ardal dros Courvoisier Brandy a bu hefyd yn is-bostfeistr yn y Coced, Abertawe. Ymddeolodd i Clevedon, gogledd Gwlad yr Haf, lle y bu'n byw yn 43 Prince's Road, yn agos at y clwb bowlio lle'r oedd yn aelod cymdeithasol poblogaidd.

Priododd Ray Daniel â Lilian Joyce Roberts (ganwyd yng Nghwmbwrla, Abertawe yn 1927) yn y Tabernacle, capel y Bedyddwyr Saesneg, Waun Wen, Abertawe, fis Gorffenaf 1951. Cawsant un ferch, Karen Joyce Daniel (ganwyd 1954 yn Sunderland), a fu'n newyddiadurwraig gyda'r South Wales Evening Post a'r Daily Mirror, cyn symud i swydd reolaeth iechyd.

Bu Ray Daniel farw wedi salwch byr 7 Tachwedd 1997. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys y Methodistiaid Linden Road, Clevedon 14 Tachwedd 1997 ac yna amlosgi yn Weston-super-Mare.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-02-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.