Gwnaeth Birch ei farc o fewn Tŷ'r Cyffredin ar unwaith, lle siaradodd yn bennaf ar faterion tramor. Daliodd y swyddi canlynol: Is-Ysgrifennydd yr Awyrlu, 1951-52; Ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Amddiffyn, 1952-54, Gweinidog Gweithiau, 1954-55, Ysgrifennydd yr Awyrlu, 1955-57, ac Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys, 1957-58. Cyhoeddodd ym 1948 The Conservative Party. Ym 1955 penodwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Yn y flwyddyn 1958 ymddiswyddodd, gyda Peter Thorneycroft, Canghellor y Trysorlys, ac Enoch Powell, gweinidog arall o fewn y Trysorlys, yn dilyn anghydweld dros bolisi. Ni ddaeth swydd fel gweinidog byth i'w ran eto, yn rhannol oherwydd gwrthdaro personol rhyngddo ef a Harold Macmillan (gŵr yr ymosododd yn hallt arno yn nadl enwog Profumo yn y Tŷ Cyffredin), ac oherwydd bod ei olwg yntau yn graddol ddirywio.
Enillodd glod gan bawb oherwydd ei allu cynhenid eithriadol, ansawdd a chyflymdra ei feddwl a llymder ei dafod, rhinweddau arbennig a'i galluogodd i gymryd rhan mewn nifer o ddadleuon yn y senedd gyda chryn effaith. Ei brif gonsyrn oedd yr angen i ennill y frwydr wleidyddol yn erbyn chwyddiant, ac roedd ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn materion tramor ac mewn amddiffyn. Yn dilyn ymddiswyddiad Macmillan fel arweinydd y Blaid Geidwadol ym 1963, Nigel Birch oedd un o'r cefnogwyr mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i geisio sicrhau mai'r Arglwydd Home a ddylai ei olynu. Yn wir gwnaeth bwynt o deithio i gynhadledd flynyddol ei blaid yn unig swydd er mwyn ceisio dylanwadu ar ei gydweithwyr o fewn y senedd.
Gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Cwmni Yswiriant Llundain a Manceinion. Ar ôl cyfnod yn ffermio yn Sir Fflint, aeth ati i ddatblygu ystâd fechan gwerth rhyw £60,000 o fewn Hampshire. Etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Johnson ym 1966, ac ym 1970 daeth yn Arglwydd am Oes, gan gymryd teitl yr Arglwydd Rhyl. Ymhlith ei ddiddordebau oedd darllen hanes, garddio, saethu a physgota.
Priododd ar 1 Awst 1950 yr Anrh. Esmé Glyn, merch y 4ydd Barwn Wolverton. Ni fu iddynt blant. Ei gyfeiriadau oedd 73 Ashley Gardens, Llundain SW1 a Holywell House, Swanmore, Hampshire.
Bu farw Nigel Birch ar 8 Mawrth 1981.
Dr John Graham Jones, Aberystwyth