ROBERTS, EVAN (1836-1918), gwerthwr a'r 'casglwr horolegol pennaf o bawb'

Enw: Evan Roberts
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1918
Priod: Jane Roberts
Plentyn: Jeanora Williamson (née Roberts)
Plentyn: Bruno Roberts
Rhiant: Jane Roberts
Rhiant: Hugh Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwerthwr a'r 'casglwr horolegol pennaf o bawb'
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: William Linnard

Ganwyd Evan Roberts, ail fab Hugh a Jane Roberts, 18 Rhagfyr 1836 ar fferm fynydd ei dad, Foty Bach, Gwyddelwern, Merionnydd, lle y ceisiai'r teulu tlawd ennill bywoliaeth. Ni chafodd yr Evan ifanc fawr o addysg ffurfiol ond yr oedd yn fachgen cydnerth, a phan oedd yn laslanc aeth i weithio'n labrwr at ffermwyr lleol. Yr oedd un o'r rhain hefyd yn glanhau clociau a watsys ac enynnodd hyn ddiddordeb Evan. 'Â phen a phoced wag' (chwedl yntau'n ddiweddarach), gadawodd gartref i geisio ennill ei ffortiwn ac ymsefydlodd yn atgyweiriwr watsys.

Yn 1861 sefydlodd ei fusnes ei hun ym Manceinion a thrwy fyw'n gynnil a gweithio'n galed, llwyddodd ei fusnes. Yr oedd yn ddigon craff i ganfod manteision y watsys Waltham a oedd yn cael eu masgynhyrchu a'u mewnforio o America, ac achubodd ar y cyfle masnachol gan ddod yn werthwr tra llwyddiannus yn teithio trwy Brydain ac Awstralia, yn gwerthu watsys Waltham a hefyd yn datblygu ei awydd i gasglu hen wastsys. Tyfodd ei gasgliad yn filoedd o eitemau, gan gynnwys watsys o ddiddordeb hanesyddol a horolegol mawr iawn. Cafodd rhan o'i gasgliad enwog ei harddangos yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1893 ac ar ôl hynny mewn arddangosfeydd a chanolfannau yn rhyngwadol ac yn Llundain; cyhoeddwyd amryw o gatalogau (H. G. Abbott, Catalogue of the historic and antique watches from the famous collection of Mr Evan Roberts…, Chicago, 1893, H. G. Abbott, The Roberts collection of antique watches…, Chicago, 1897. [Evan Roberts], Historic horology, being a catalogue…, London, 1912).

Erbyn hyn yr oedd yn ŵr cyfoethog ac yn uchel ei barch yn y cylchoedd horolegol. Symudodd i fyw i Scwâr St George, Regents Park, Llundain lle y parhaodd ei fusnes a'i gasglu. Yr oedd yn gefnogwr brwd i'r gwahanol sefydliadau Prydeinig a ymwnâi â watsys a gemwaith, yn lifreiwr (liveryman) y Worshipful Company of Clockmakers ac yn ymfalchïo yn ei aelodaeth o Gymdeithas Horolegol America.

Dirywiodd ei iechyd a thua 1910 ymneilltuodd i'w gartref ger Comin Clapham lle y bu farw 28 Tachwedd 1918, gan adael ei wraig Jane, merch (Mrs Jeanora Williamson) a mab (Bruno). Yr oedd Evan Roberts yn aelod o Gymdeithas Amlosgi Lloegr a rhoes gyfarwyddyd fod ei gorff i'w amlosgi yn Amlosgfa Golders Green. Gadawodd ran helaeth o'i gasgliad i Amgueddfa Victoria ac Albert a'r Amgueddfa Wyddoniaeth; daeth ychydig o'i watsys Cymreig i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-09-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.