PARRY, ROBERT IFOR (1908-1975), gweinidog (Annibynwyr) ac athro ysgol

Enw: Robert Ifor Parry
Dyddiad geni: 1908
Dyddiad marw: 1975
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Annibynwyr) ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Ioan Wyn Gruffydd

Ganwyd Ifor Parry yn Longford Terrace, Caergybi, Ynys Môn, yn fab i Benjamin Parry a'i briod, aelodau yn Y Tabernacl, eglwys yr Annibynwyr, yn y dref lle'r oedd y Parchg. R. H. Davies yn weinidog. Roedd ei dad yn swyddog o beiriannydd ar y llongau a hwyliai o borthladd Caergybi i Iwerddon. Gadawodd Ysgol Sir Caergybi yn ddisgybl disglair iawn a mynd i Goleg Bala-Bangor a Choleg y Brifysgol, Bangor, yn 1926. Tystiai un o'i gyfoedion coleg fel y byddent yn chwarae â llythrennau cyntaf ei enw - R.I.P.; 'Yr oedd tipyn o Rip-van-Winkle ynddo, meddid, a dymunid heddwch i'w lwch Rest in Peace!' Graddiodd gydag Anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes yn 1929. Cafodd Ysgoloriaeth Robert Jones am ddwy flynedd i'w alluogi i wneud gwaith ymchwil ar 'Agwedd Annibynwyr Cymru at fudiadau cymdeithasol, 1815-1870', gwaith a enillodd radd M.A. iddo yn 1931. Enillodd wobr ychwanegol am ei waith, sef Gwobr y Tywysog Llywelyn ap Gruffydd Prifysgol Cymru. Buasai, meddid, wedi graddio'n rhwydd mewn diwinyddiaeth oni bai iddo, ar ganol ei gwrs, dderbyn yr alwad a gawsai oddi wrth Eglwys yr Annibynwyr, Siloa, Aberdâr. Ordeiniwyd ef yno fis Mehefin 1933, yn olynydd i'r Parchgn David Price (1843-78) a D. Silyn Evans (1880-1930). Ym 1940, priododd Mona, unig ferch Richard Morgan, un o ddiaconiaid Eglwys Siloa.

Cofia awdur y geiriau hyn letya fis Medi 1959 ar aelwyd Ifor a Mona Parry yn Newlands, Aberdâr, yn ystod Taith Gasglu at Goleg Bala-Bangor – fel oedd yr arferiad bryd hynny. Ar y pryd, yr oedd ficer Aberdâr wedi cylchlythyru pawb o drigolion y dref, gan gynnwys y gweinidogion, a'u cymell i ddod i'r Eglwys. Yr oedd gweinidog Siloa'n gynddeiriog ar gyfrif hynny, ac yn ymgynghori â'i lyfrau ynghylch datgorfforiad yr Eglwys yng Nghymru, gan fynnu nad oedd hawl gan y ficer i wneud fel y gwnaethai. Trannoeth, yr oedd Synod yr Eglwys Fethodistaidd yn Aberdâr, ac aethai gweinidog Siloa yno fel cynrychiolydd. Pan ddychwelais i o foduro drwy'r dref, roedd ei briod yn wfftio ataf am nad oeddwn wedi sylwi ar y gofeb yng nghanol y dref. 'And you didn't see the Cenotaph?' meddai. Ni chlywais hi'n siarad Cymraeg.

Yn fuan wedi dod i Aberdâr, gwnaeth Ifor Parry enw iddo'i hun fel pregethwr. Dilynai batrwm y bregeth Gymraeg – rhagymadrodd a thri phen - er nad oedd yn eiddo iddo angerdd pregethwyr Môn, ei sir enedigol. Câi ei gydnabod fel pregethwr a diwinydd, er i'w safbwynt modernaidd ragor nag unwaith achosi iddo dramgwyddo'r sefydliad ffwndamentalaidd yn y dref, yn arbennig felly ar ddysgu'r Beibl ac ar ddelio â phobl ifainc. Apêl ddeallusol yn hytrach na theimladwy oedd i'w bregethu. Bu galw mawr arno i bregethu yng Nghymru a thros Glawdd Offa. Bu'n pregethu yn siroedd y Gogledd yn y pedwar a'r pum degau mewn cyrddau pregethu a gwyliau sirol. Bu'n bregethwr gwadd yn Scarborough ym 1967 yng Nghynhadledd Genedlaethol Undeb yr Athrawon, ac yn Bournemouth ym 1974 yng Nghynhadledd Ryngwladol y Rotariaid. Bu'n annerch ac yn pregethu droeon yng Nghyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr – Bangor (1936), Maesteg (1947), Tonypandy (1948), a Chaergybi (1953). Cafodd ei ethol yn ysgrifennydd ei Gyfundeb ym 1950, a phum mlynedd wedyn yn ysgrifennydd Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr. Ym 1959, gwelodd ei Gyfundeb yn dda i'w enwebu'n is-lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, er na ddaeth hynny i fod. Tystiodd y diweddar Barchg. Trebor Lloyd Evans fod gan yr Undeb fwy o feddwl ohono ef nag oedd ganddo ef o'r Undeb, 'ac erbyn diwedd ei oes,' meddai, 'bu'n ddigon cwrtais ac edifeiriol i gydnabod hynny.'

Daeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr (1948) ar ei draethawd, 'Diwinyddiaeth Karl Barth', a enillodd yn ogystal y Fedal Ryddiaith, a dengys y llyfryddiaeth ar derfyn y traethawd hwnnw drylwyredd ei waith. Cyhoeddwyd y traethawd fel llyfr ym 1949. Cyhoeddodd y llyfr Cymraeg safonol, Ymneilltuaeth, ym 1962 i ddathlu Trichanmlwyddiant 1662. Y mae olion llaw y meistr yn amlwg ar y gwaith, fel ar yr erthyglau a ysgrifennwyd ganddo i'r Dysgedydd, Y Cofiadur a'r Traethodydd. Gwahoddwyd ef i annerch Undeb Bedyddwyr Cymru ym 1962 ar Seiliau Diwinyddol Anghydffurfiaeth.

Cynhelid ganddo yn Aberdâr, rhwng 1948 a 1965, ddosbarthiadau Efrydiau Allanol o dan nawdd Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ar Gristionogaeth a Diwylliant. Traddododd gyfres o 72 o ddarlithoedd o 1962 hyd 1965 ar Hanes Aberdâr. Bu'n darlithio ar Astudiaethau Hanes Lleol mewn ysgolion haf a gynhelid yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Am flynyddoedd, yr oedd ganddo golofn dan y ffugenw, Historicus, yn yr Aberdare Leader yn cynnwys toreth o wybodaeth hanesyddol. Rhwng 1960 a 1962, derbyniodd swydd ran amser yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, yn Aberdâr. Ym 1964, rhoes heibio'n llwyr ei swydd fel gweinidog eglwys, ac yntau erbyn hynny wedi treulio 31 mlynedd yn Siloa, a derbyn swydd fel Athro Ysgrythur yn yr ysgol honno. Yr oedd yn mawrygu'r cyfle a gâi i hyfforddi a dylanwadu ar fechgyn ifainc. Pallodd y pregethu a chynyddodd y dysgu.

Er prysured ei weithgareddau gwahanol, yr oedd amser ganddo i hamddena. Ymddiddorai mewn criced a rygbi, ac yr oedd yn gryn arbenigwr ar chwarae gwyddbwyll.

Bu farw Ifor Parry ar 18 Rhagfyr 1975, ddeufis ar ôl marwolaeth Mona, ei briod (gweler Y Tyst, 25 Rhagfyr 1975). Gadawodd swm sylweddol o arian i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr, dan yr enw 'Cronfa Ymddiriedolaeth Mona ac Ifor Parry,' i hyrwyddo lles bechgyn yr ysgol, ac i gyflwyno gwobr flynyddol am waith mewn hanes lleol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.