Erthygl a archifwyd

PARRY, BLANCHE (ap Harry, Aparry, Apparey, Apharrie a ffurfiau eraill) (1507/8-1590), Prif Foneddiges Siambr Gyfrin y Frenhines Elisabeth a Cheidwad Tlysau'r Frenhines

Enw: Blanche Parry
Dyddiad geni: 1507/8
Dyddiad marw: 1590
Rhiant: Alice Parry (née Milbourne)
Rhiant: Henry Parry
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: Prif Foneddiges Siambr Gyfrin y Frenhines Elisabeth a Cheidwad Tlysau'r Frenhines
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Ruth Elizabeth Richardson

Ganwyd hi rhwng Mawrth 1507 a Mawrth 1508 yn Newcourt, Bacton yn Nyffryn Aur afon Dore, Euas (Ewyas), yn swydd Henffordd, yn ferch i Henry Myles a'i wraig o Saesnes Alice (Milborne). Aelwyd Gymraeg ei hiaith ydoedd.

Ceir naw cerdd farddol sy'n cyfeirio at deulu Blanche, pump gan Uto'r Glyn ac un yr un gan Wilym Tew, Howel Dafi, Huw Cae Llwyd a Lewys Morgannwg. Cynhwysir hwy mewn fersiynau Cymraeg Diweddar a'u trosi i'r Saesneg ar www.blancheparry.com . Y mae un o gerddi Guto'r Glyn, 'Harri Ddu o Euas', yn rhoi ach y teulu mawr a changhennog hwn (200-4 a 216-20 yn arg. Ifor Williams a J. Llywelyn Williams o waith Guto'r Glyn). Cyfeiria at Harri Ddu ap Gruffudd, hendaid Blanche, steward Brynbuga, Caerllion ac Ewyas Lacey dan Syr William Herbert, Iarll Penfro (y greadigaeth gyntaf) a chefnogydd Dug Efrog ac Edward IV.

Nain a thaid Blanche ar ochr ei thad oedd Myles ap Harry a briododd Joan, un o ferched Syr Harri Stradling o Sain Dunawd ym Morgannwg. Yr oedd mam Joan yn chwaer i Syr William Herbert, Iarll Penfro, a oedd yn ddisgynnydd i Ddafydd Gam. (Yn 1811 symudwyd ffenestri lliw coffa i Myles ap Harry, Joan a'u 19 o blant o eglwys Bacton yn Swydd Henffordd i eglwys Atcham ger Amwythig a gosod yno yn ogystal ffenestr goffa i Blanche Parry).

Bu tad Blanche, Henry Myles, yn siryf Swydd Henffordd a steward Abaty Dore deirgwaith, yr olaf hon yn swydd etifeddol yn y teulu, ac yr oedd cysylltiadau rhwng yr abaty a theulu Cecil / Sisilt (Seisylliaid), Allt-yr-ynys, heb fod nepell o Bacton, lle y trigai William Cecil, cefnder yr enwog Syr Willam Cecil, Arglwydd Burghley; priododd Olif/Olive Parry o Poston, (gweler yr erthygl Parry, James Rhys), disgynnydd i John, brawd Miles ap Harri, i'r teulu hwn. Arddelid perthynas y Parïod a'r Ceciliaid gan yr Arglwydd Burleigh - mae'n galw Blanche 'my cousin' a hithau'n cyfeirio ato ef fel 'kinsman' a 'my friend'. Gweithient yn agos â'i gilydd a darparai ef gymorth cyfreithiol. Ef a ddrafftiodd ei dwy Ewyllys, gan ysgrifennu'r nodiadau ar gyfer ei Hewyllys ddatganiadol Gyntaf yn Nhachwedd 1578 yn ei law ei hun, ac ef oedd ei phrif ysgutor yn ei Hewyllys Derfynol yn 1589.

Ymhlith y teuluoedd eraill a ymbriododd â'r Parïod yr oedd pedair cangen o'r Fychaniaid, Morganiaid Gwent ac Euas ac Ystradyw, Powelliaid Penbeddel, de Barri, a theuluoedd Whitney a Knolly. Yr oedd eu cysylltiadau'n lletach fyth a chynhwysent bron y cwbl o'r uchelwriaeth leol a theulu Devereux (a roddai gysylltiadau â Iarll Leicester a Syr James Croft, Goruchwyliwr Gweision Tŷ'r Frenhines). Dichon fod Thomas Parry, 'coffrwr' y frenhines a fu farw yn 1560, mab Henry Vaughan Tretŵr, yn gyswllt pell. Hawliai John Dee berthynas ond nid ymatebai Blanche ac mewn gwirionedd ni chyfeiria Dee ati ond deirgwaith - gweithredodd (trwy ddirprwy) fel mam-fedydd i'w fab, mab nas enwir gan Blanche yn y naill na'r llall o'u hewyllysau. Y mae'n eglur mai ceisio ennill ei dylanwad yn y Llys yr oedd Dee.

Olrheiniwyd troeon gyrfa Blanche Parry yn fanwl am y tro cyntaf gan C.A. Bradford sy'n chwalu llawer chwedl amdani. Y mae'r ymchwil newydd sydd yn y bywgraffiad Mistress Blanche, Queen Elizabeth I's Confidante yn rhoi llawer o fanylion amdani ac y mae gwybodaeth ychwanegol ar y wefan gysylltiol www.blancheparry.com .

Y mae'n bur sicr mai modryb Blanche Parry, y Fonesig Herbert o Troy a'i dug gyntaf i'r llys brenhinol. 'Lady Mistress' i Edward VI ac Elisabeth yn blant oedd y Fonesig Troy. Ysgrifennodd Blanche Parry ei hun yn ei beddargraff yn Bacton iddi fod yn weinyddes y frenhines 'whose cradle I saw rocked' o enedigaeth Elisabeth yn 1533 pan oedd Blanche yn 25 neu 26 blwydd oed. Prin iddi adael Elisabeth ar ôl hynny hyd ei marwolaeth ei hun 56 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Yn ôl Syr Robert Tyrwhitt (Cal. State Papers, Edward VI, 31 Ionawr 1549), hyfforddodd y Fonesig Troy Blanche i fod yn olynydd iddi ond yn lle hynny Kate Ashley a ddyrchafwyd o fod yn ddysgodres i fod yn 'Lady Mistress'. Er hynny, awgryma'r dystiolaeth i Blanche weini ar Elisabeth pan garcharwyd hi yn Nhŵr Llundain ac ar ôl hynny pan oedd yn gyfyngedig i'w thŷ. Pan esgynnodd Elisabeth i'r orsedd yn 1558, Blanche, ar y dechrau, oedd yn yr ail safle yn nhrefn gweision Tŷ'r frenhines newydd ond daeth yn Brif Foneddiges pan fu farw Kate Ashley yn 1565. A hithau â gofal y Siambr Gyfrin, gallai Blanche reoli pwy a gâi fynediad at y frenhines. Hi a oedd yn gyfrifol am dlysau'r frenhines (casgliad a gynyddai mewn maint, ardderchogrwydd a gwerth) ers cyn esgyniad Elisabeth, am Sêl Fawr Lloegr am ddwy flynedd, am bapurau personol y frenhines, ei dillad, gwisoedd ffwr a llyfrau. Derbyniai symiau sylweddol o arian ar ran y frenhines ac yr oedd yn gyfrwng i gyflwyno gwybodaeth i'r frenhines (gan gynnwys oddi wrth John Vaughan, nai Blanche) ac i gyflwyno mesurau seneddol. At hynny, goruchwyliai lieiniau'r frenhines a 'phethau eraill o eiddo ei mawrhydi', yn eu plith 'our musk cat', ffured, mae'n ymddangos.

Trwy'r cyfan, yr oedd Blanche yng nghyfrinach y frenhines gan ateb llythryau ar ei rhan. Deuai'r sawl a oedd am iddi gyflwyno eu hachos i'r frenhines ati hi ac yn ôl pob tystiolaeth mynnai dderbyn cyflwyniad eglur a chywir o'r ffeithiau. Blanche fyddai ymhlith y rhai cyntaf i dderbyn ystafelloedd pan fyddai'r frenhines ar gylchdaith fel y gallai fod o fewn galw. Triniai'r Frenhines Elisabeth hi fel barwnes. Er ei bod yn 'ddiofal o'm cyfoeth' gan ddibynnu ar y frenhines i ofalu amdani, rhoddwyd iddi ddwy wardiaeth ac eiddo yn Swydd Henffordd, Cymru (comisynodd y map cyntaf o Lyn Safaddon yn 1584) a swydd Efrog. Gwerth ei hystâd pan fu farw oedd tua £½ miliwn i £1miliwn (yn ôl gwerthoedd heddiw) - swm sylweddol i wraig ddibriod ond fawr ddim o'i gymharu ag ystâd, er enghraifft, Iarll Leicester. Digwydd ei henw'n fynych yn y cofnodion swyddogol a chyfeirir ati mewn llenyddiaeth gyfoes. Yn 1575 ysgrifennodd George Gascoigne amdani:

For long and faithful service which hath abidden tuche.
Good Parry is a paragon, show me another such.

Y mae'n debyg fod paentiad o Siambr Bresenoldeb y frenhines (yn y Staatliche Museem-Graphische Sammlung Kassel 10430, yr Almaen) yn dangos Blanche yng nghanol y llys elisabethaidd yn gydymdeithes â'r frenhines ac yng nghwmni Burghley, Leicester, Clinton, Hatton a Walsingham. Darlunio'r rhai a ystyrid yn fwyaf dylanwadol yn y Llys a wna'r llun. (Anghyflawn ac angyhywir yw'r enwau a ychwanegwyd yn ddiweddarach gan rywun nad oedd yn adnabod y rhai a ddarlunnid). Er bod Blanche yn ddall tua diwedd ei hoes (Llundain, Palas Lambeth, Papurau Talbot. MS 3198, ff. 552), nid oedd hyn yn gwarafun iddi ymdrin â busnes (fel y dengys ei llythyr ar ran James Parry) ac nid oedd pall ar ei chyneddfau hyd y diwedd.

Bu farw Blanche yn ddibriod ddydd Iau, 12 Chwefror 1589/90, yn 82 mlwydd oed, yn fawr ei pharch gan bawb, cryn orchest yn y Llys elisabethaidd. Cyn mis Tachwedd 1578 yr oedd wedi comisynu ei chofeb gyda chorffddelwau yn eglwys Bacton: ar yr arysgrif a gyfansododd ceir 'with a maiden queen a maid did end my life', tystolaeth ddiymwad mai morynion oedd y frenhines a hithau. Y mae'r gofeb yn bwysig yn genedlaethol fel y disgrifiad cyntaf o'r Frenhines Elisabeth yn Gloriana. Er hynny, y mae bron yn sicr mai yn Sansteffan y bu farw Blanche ac mai yn eglwys y Santes Margaret ger abaty Westminster y'i claddwyd lle y gellir gweld arysgrif ei bedd. Gadawodd Blanche gymynroddion ac elusennau helaeth (argraffwyd ei Hewyllys Derfynol yn breifat gan Syr Thomas Phillipps yn 1845); parheir i dalu £28 yn flynyddol i blwyfolion Bacton a Newton. Yn ei golygiadau crefyddol adleisiai Blanche hoffter y frenhines o seremoni, er bod arwyddion o weddillion dylanwad Lolardaidd yn ei theulu (yr oedd cysylltiadau â Syr John Oldcastle).

Daw Blanche Parry i mewn, ar ddamwain megis, i hanes ysgrifennu hanes Cymru mewn un man. Yr oedd Syr Edward Stradling, ar awgrym yr Arglwydd Burleigh, wedi ysgrifennu traethawd ar gonwest Normanaidd Morgannwg a'i anfon ato. Rhoes Burleigh hwn i Blanche - i'r frenhines ei weld. Pan oedd David Powell yn Llundain yn trefnu ond odid i argraffu ei Historie, rhoes Blanche waith Stradling iddo ef - disgrifia Powell 'the right worshipfull Mistres Blanche Parry' fel 'a singular well willer and furtherer of the weale publike' yng Nghymru. Argraffodd yntau'r traethawd yn ei grynswth yn ei Historie of Cambria (1584) - gweler G.J. Williams, Traddodiad llenyddol Morgannwg (1948), 197-9. Y mae hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth amgylchiadol y gallai fod Blanche wedi cynorthwyo cyllido argraffu Beibl Cymraeg 1588.

Yr oedd Blanche Parry yng nghanol y Llys elisabethaidd, y person a fu yn y cyswllt agosaf â'r frenhines am y cyfnod hwyaf. Yr oedd ei safle'n ddiysgog ac yn cael ei gydnabod gan bawb - mae'n amlwg fod hyd yn oed faterion cyfrinachol yn cael eu trafod yn ei gŵydd. Yr oedd ei chyfeillgarwch â'i chefnder yr Arglwydd Burleigh yn elfen bwysig yn ei berthynas yntau â'r frenhines. Yr oedd Blanche yn drwyadl gywir, yn gwbl ddibynadwy, yn cadw cyfrinach ac yn hollol ymrwymedig i Elisabeth. Mewn llys a ddisgrifiwyd gan Syr Anthony Denny yn 'lle mor llithrig' (Letters of Roger Ascham, gol. Alvin Vos, 1989) cadwodd Blanche ei pharch i'r fath raddau nes i Thomas Markham ddweud mai dall ydoedd yma ar y ddaear ond ei fod yn hyderu y câi hi weld pob gorfoledd yn y nefoedd. Gellir gweld ei chofeb a gorchudd allor a wnaed o wisg llys elisabethaidd yn eglwys Bacton a'i harysgrif bedd yn eglwys y Santes Margaret, Sansteffan. Y mae o leiaf un o'r lluniau yr honnir eu bod ohoni yn ddilys er mai fel ffotograff y mae wedi goroesi.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 2010-02-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

PARRY, AP HARRY, APARRY, APPAREY, BLANCHE (1508? - 1590), gweinyddes i'r frenhines Elisabeth

Enw: Blanche Parry
Dyddiad geni: 1508?
Dyddiad marw: 1590
Rhiant: Alice Parry (née Milbourne)
Rhiant: Henry Parry
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1508 neu 1507 yn Newcourt, Bacton, yn nyffryn 'Dore' yn Euas (Ewias) yn sir Henffordd, yn ferch i Henry Parry a'i wraig Alice. Gwelir ach y teulu mawr a changhennog hwn yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iv, 2-3; canodd Guto'r Glyn (200-4 a 216-20 yn arg. Ifor a J. Ll. Williams) i Harri Ddu o Euas, hendaid Blanche Parry; yr oedd ei thaid, Miles ap Harri, yn briod â Joan, un o ferched Syr Harri Stradling o Sain Dunwyd ym Morgannwg, a daliai'r Parrïod a'r Stradlingiaid i arddel y berthynas - a chan mai chwaer i William Herbert, iarll Pembroke, oedd mam y Joan uchod, daw'r Herbertiaid hwythau i mewn i'r clwm hwn o deuluoedd. Heblaw hyn, yr oedd cyfathrach rhwng y Parrïod a Seisylliaid Allt-yr-ynys, lle nad yw nepell o Bacton; yr oedd y William Cecil a ddaliai i fyw yn Allt-yr-ynys yn gyfaill mebyd i Blanche Parry ac yn briod ag Olive Parry o Poston, disgynnydd i frawd iau Harri Ddu o Euas. Arddelid y berthynas hyd yn oed gan William Cecil (Burghley wedyn) - sonia Blanche Parry amdano ef fel 'kinsman' (nid y term penagored 'cousin'), ac ef a ddrafftiodd ei hewyllys hi ac a oedd yn brif ysgutor. Ac yr oedd Fychaniaid a Morganiaid Gwent ac Euas ac Ystradyw wedi ymbriodi â'r Parrïod. Ar y llaw arall nid ymddengys fod fawr sail i'r dyb mai un o'r teulu oedd y William Parry a ddienyddiwyd fel bradwr yn 1585; prin, drachefn, fod pais arfau Richard Parry, esgob Llanelwy, yn brawf digonol o'i gyswllt â'r teulu (i'r gwrthwyneb, gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 387); a chwbl ddisail, wrth gwrs, yw'r hen chwedl fod Thomas Parry, 'corffrwr' y frenhines, yn 'dad' (weithiau'n 'wr') i Blanche - yn wir, Vaughan (o Dre'r Twr) oedd ei wir gyfenw ef; fe allai er hynny fod o fewn y nawfed ach. Codwyd melin a phandy gan rai ar ei 'pherthynas' â'r sêr-ddewin John Dee; mewn gwirionedd, ni chyfeiria Dee ati ond teirgwaith - gwir iddi weithredu (trwy ddirprwy) fel mam-fedydd i un o'i blant, a'i fod y pryd hynny'n ei galw'n 'cousin,' ond ni lwyddwyd i egluro'r berthynas na llai fyth i ddarganfod sail i'r stori mai trwy'r berthynas dybiedig hon yr ymwthiodd Dee i lawes Elisabeth. Yn wir, odid nad oes tuedd ormodol i fawrhau dylanwad Blanche Parry - gellid meddwl ar rai mai hi oedd yn llywio'r deyrnas yn enw ei meistres.

Olrheiniwyd troeon gyrfa Blanche Parry'n fanwl - a chwalu llawer chwedl amdani - gan C. A. Bradford. Y mae'n bur sicr mai 'Lady Herbert of Troy,' ei chares, a'i dug gyntaf i'r llys brenhinol. Dywed hi ei hunan iddi weld Elisabeth 'yn ei chrud,' ond yr oedd y dywysoges yn 3 oed (1536) cyn i Blanche ddyfod yn weinyddes swyddogol iddi. Yn 1558, dyrchafwyd hi'n 'ail weinyddes,' ac yn 1565 yn 'brif weinyddes'; ond ni chafodd erioed yr un o'r swyddau 'pendefigaidd' yn y llys. Eithr yr oedd ei swydd yn broffidiol iawn - cyflog, cynhaliaeth anrhydeddus, rhoddion, grantiau o freiniau ac yn wir o stadau, cymynroddion diolchgar am gymwynasau. Digwydd ei henw'n hynod fynych yn y recordiau swyddogol, a chyfeirir ati yn llenyddiaeth y cyfnod. Tua diwedd ei hoes aeth bron yn ddall. Bu farw, yn ddi-briod, 12 Chwefror 1589/90. Bwriadai unwaith gael ei chladdu yn Bacton, a chododd feddrod yno; ond newidiodd ei meddwl, ac yn S. Margaret's, Westminster, y claddwyd hi - gwelir ei beddrod yno heddiw. Y mae stori gymysglyd ddarfod claddu ei hymysgaroedd (ei chalon, bryd arall) yn y beddrod sydd i'w weld yn Bacton. Yn 1811 mynnodd Mrs. Burton, priod ficer Atcham gerllaw Amwythig a disgynnydd o deulu Newcourt, gael symud ffenestr liw goffa Miles ap Harri o Bacton i Atcham, a gosod yno hefyd ffenestr goffa i Blanche Parry. Gadawodd Blanche gymynroddion ac elusennau helaeth, ac argraffwyd ei hewyllys gan Sir Thomas Phillipps ym 1845. Gwyddys mai ceidwadol oedd ei golygiadau crefyddol, a thuedda Bradford i farnu ei bod hi o'r Hen Ffydd.

Daw Blanche Parry i mewn, ar ddamwain megis, i hanes sgrifennu hanes Cymru. Yr oedd Syr Edward Stradling, ar awgrym a roes Syr William Cecil iddo, wedi sgrifennu traethawd ar goncwest Normanaidd Morgannwg, a'i anfon i Cecil. Y mae'n amlwg i Cecil ei roi i Blanche Parry - efallai i'r frenhines, oblegid Blanche oedd ceidwad ei llyfrau. Pan oedd David Powel, ficer Rhiwabon, yn Llundain yn trefnu (ond odid) i argraffu ei lyfr, rhoes Blanche y traethawd iddo ef - disgrifia Powel 'the right worshipfull Mistres Blanch Parry' fel gwraig hynod dda ei chalon at Gymru a hynod, barod i hyrwyddo llwydd ei henwlad. Argraffodd yntau'r traethawd yn ei grynswth yn ei Historie of Cambria, 1584 - gweler G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 197-9.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

    Ffynonellau

  • C. A. Bradford, Blanche Parry, Queen Elizabeth's Gentlewoman ( Llundain 1935 ), a'r cyfeiriadau ynddo
  • Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department, Cardiff Free Libraries ( 1898 )
  • cyfeiriadau eraill uchod

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.