JOHN, GEORGE (1918-1994), gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg

Enw: George John
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 1994
Priod: Elsie Margaret John (née Jenkins)
Plentyn: Carys Elisabeth John
Plentyn: Delyth Margaret John
Rhiant: Margaret John
Rhiant: William John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Ganwyd George John ym Mhen-rhiw, plwyf Eglwys Wen, Sir Benfro, ar 8 Tachwedd 1918, yn fab i William a Margaret John. Roedd ganddo un chwaer, Mattie, a dwy hanner chwaer o briodas gyntaf ei dad. Addysgwyd ef yn yr ysgol gynradd leol, ac yn Ysgol y Sir, Aberteifi. Bedyddiwyd ef yn Eglwys y Bedyddwyr, Bethabara, ac yno, o dan weinidogaeth y Parchg Lewis Young Hayden, y codwyd ef i bregethu. Yn 1938, cafodd fynediad yn fyfyriwr gweinidogaethol i Goleg y Bedyddwyr, Bangor, gan gofrestru hefyd yng Ngholeg y Brifysgol yno. Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1941, ac mewn ieithoedd Semitaidd yn 1942. Ychwanegodd radd B.D. yn 1945, gyda Groeg y Testament Newydd a Hanes yr Eglwys yn brif bynciau.

Ordeiniwyd ef yn 1945 a bu'n weinidog y Bedyddwyr yng Nghwmduad a Ffynnon-Henri (1945-48), y Tabernacl, Llwynhendy (1948-59), a Bethel, Dre-fach (1959-71), gan ychwanegu Rehoboth a Chlawdd-coch at ei ofalaeth yn 1968. Yn 1951, tra oedd yn weinidog yn Llwynhendy, priododd ag Elsie Margaret, merch David Henry ac Elisabeth Ann Jenkins, Llwynhendy, a bu iddynt ddwy ferch, Delyth Margaret a Carys Elisabeth.

Yn 1971 penodwyd George John yn Athro Astudiaethau'r Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, gan gael ei ddyrchafu'n bennaeth y Coleg yn olynydd i D. Eirwyn Morgan yn 1980. Bu'n llywydd Cymanfa Arfon yn 1982. Ymddeolodd i fyw yn Llandysul yn 1984, gan barhau i ddarlithio yn ei bwnc yng Ngholeg Prifysgol Llanbedr-pont-Steffan am gyfnod.

Ar y cyfan, gŵr yn hoffi'r encilion ydoedd, ond roedd yn bregethwr dawnus a sylweddol. 'Pregethu: Yr Uchel Alwedigaeth' oedd y testun a ddewisodd wrth draddodi Darlith Goffa Dewi Gravelle dan nawdd Coleg y Bedyddwyr, Bangor, ym Moreia, Meinciau, yn 1986. Cyhoeddwyd y ddarlith gan y coleg yn 1990. Ar ôl ei farw, casglwyd rhai o'i bregethau ef ei hun a'i anerchiadau a'u cyhoeddi mewn cyfrol Gardd Duw, dan olygyddiaeth Desmond Davies, yn 1999. Prin oedd y cyhoeddiadau eraill a gysylltir â'i enw, er iddo fod yn aelod o banel cyfieithu Y Beibl Cymraeg Newydd am ddeng mlynedd pan gyfieithid yr Apocryffa. Ef a baratôdd gopi drafft o'r llyfrau hwyaf, 1 Macabeaid yn neilltuol. Cyhoeddwyd 'Paul y Dyledwr', yn Efrydiau Beiblaidd Bangor 3 (1978), casgliad o erthyglau diwinyddol gan aelodau o staff prifysgol Bangor.

Bu farw George John 6 Ionawr 1994 a'i gladdu ym Mhen-y-bont, Llandysul.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-01-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.