WATKINS, THOMAS ARWYN (1924-2003), ysgolhaig Cymraeg

Enw: Thomas Arwyn Watkins
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 2003
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganed T. Arwyn Watkins ym mhentref Llansamlet ar gyrion Abertawe, pentref a oedd y pryd hynny yn un Cymraeg ei iaith, 20 Mehefin 1924 yn un o ddau fab David John Watkins, glöwr, a'i wraig Sarah Elizabeth. Mynychodd ysgol ramadeg yr Esgob Gore yn Abertawe o 1935 hyd 1941 ac yna Goleg Prifysgol Abertawe lle y darllenodd Saesneg, Ffrangeg a Chymraeg. Cwblhaodd gwrs gradd yn 1943 cyn ei wysio i'r fyddin. Dychwelodd i'r coleg yn 1947 i ddilyn cwrs diploma mewn addysg ond yn 1948 gwahoddwyd ef gan Henry Lewis, Athro'r Gymraeg, i ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd yn y Gymraeg, gradd a enillodd yn y dosbarth cyntaf yn 1949. Yn destun ymchwil ar gyfer gradd M.A. dewisodd astudio tafodiaith ei fro ei hun yn Llansamlet, gwaith a osododd sylfaen i'w ddiddordeb dwfn a deallus mewn ieithyddiaeth gydol ei fywyd. Enillodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru a'i galluogodd i ddilyn ei astudiaethau ieithyddol ym mhrifysgolion Leeds, Zurich (gyda Julius Pokorny), a Rennes (gyda François Falc'hun). Yn 1952 penodwyd ef yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, adran a oedd yn ehangu yn y cyfnod hwnnw dan arweiniad yr Athro Thomas Jones, a Watkins a fu'n gyfrifol am gyflwyno yno gyrsiau gradd newydd a blaengar mewn ieithyddiaeth, tafodieitheg a hanes yr iaith Gymraeg. Cynnyrch y cyfnod hwn oedd ei lyfr Ieithyddiaeth, agweddau ar astudio iaith (1961) a oedd yn astudiaeth arloesol a chynhwysfawr sy'n dal yn ddylanwadol ac yn llawlyfr safonol. Trwy gyfrwng ei ddarlithiau ac yn arbennig ei fyfyrwyr ymchwil, bu'n gyfrifol am drawsnewid astudiaethau ieithyddol, ac yn arbennig dafodieitheg, yng ngholegau ac ysgolion Cymru. Bu'n Uwch-ddarlithydd, Darllenydd, pennaeth adran dros-dro yn 1969-70, a Deon cyfadran, 1976-78. Treuliodd dymor yn Athro ymweliadol yn Sefydliad Uwchefrydiau Dulyn (Dublin Institute for Advanced Studies) yn 1971, yn Athro ymweliadol yng Ngholeg Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Dulyn yn 1980, ac yn 1981 penodwyd ef i'r gadair Gymraeg yno lle yr arhosodd nes ymddeol yn 1989 a dychwelyd i Abertawe. Etholwyd ef yn Aelod o Academi Frenhinol Iwerddon (MRIA) a bu'n Athro er anrhydedd yn adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe.

Prif ddiddordebau Watkins oedd ffonoleg, tafodieitheg, cystrawen ac orgraff hanesyddol yr iaith Gymraeg. Nodweddir ei waith gan feddwl aflonydd, ymchwilgar nad oedd yn cael ei fodloni gan esboniadaeth draddodiadol a chyhoeddodd gyfres bwysig o erthyglau yn y meysydd hyn sydd wedi herio a chywiro llawer o syniadau a dderbynnid gynt. Yn ddiweddarach, troes at bynciau cystrawennol megis trefn yr elfennau yn y frawddeg Gymraeg ac at ddylanwad dwyieithrwydd a ffactorau cymdeithasegol a gwleidyddol ar ramadeg ieithoedd, yn arbennig Gymraeg cyfoes. Yr oedd yn un o'r ieithyddion digon prin hynny a oedd yn gartrefol yn ei astudiaethau o Hen Gymraeg a Chymraeg Canol ac o ieithyddiaeth gyfoes.

Yr oedd Arwyn Watkins yn athro disglair a chanddo ddawn egluro astrus bynciau iaith yn glir ac yn ddealladwy ar lafar ac wrth ysgrifennu. Llwyddodd i rannu â'i ddisgyblion ei frwdfrydedd dros ei bwnc gyda'r canlyniad fod ei safbwyntiau a llawer o'i syniadau wedi'u trosglwyddo ymhellach gan ei ddisgybion a'i fyfyrwyr ymchwil. Yr oedd yn fyw iawn i gyflwr a safon Cymraeg gyfoes, maes y cafodd gyfle i'w archwilio nid yn unig yn y gymdeithas o'i gwmpas ond hefyd, fel arholwr, yn yr ysgolion. Ni adawai ei ddisgyblaeth ieithyddol na'i onestrwydd ymenyddol iddo anwybyddu'r hyn a welai fel y bu i rai o'i sylwadau ynghylch dyfodol yr iaith a pholisïau ieithyddol yng Nghymru gynhyrfu dipyn ar y dyfroedd. Yr oedd Arwyn Watkins yn ddyn â phersonoliaeth gynnes, gyfeillgar a gwnâi hyn lawer i dymheru'r derbyniad a gâi rhai o'i ddaliadau gwleidyddol a chymdeithasol cedyrn.

Priododd Awel Gwalia Davies yn 1955 a bu iddynt ddau fab a merch. Bu Arwyn Watkins farw yn Abertawe 4 Awst 2003 ac amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Margam.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.