Ymunodd Roger Thomas â'r Blaid Lafur ym 1970. Etholwyd ef yn aelod Llafur dros ward Saron ar Gyngor Sir Dyfed lle bu'n eistedd o 1977 tan 1979. Gorchfygodd Gwynfor Evans yn etholaeth Sir Gaerfyrddin yn etholiad cyffredinol Mai 1979 o 1978 o bleidleisiau, er mawr syndod i'r mwyafrif. Caerfyrddin oedd un o'r ddwy sedd yn unig a gipiwyd gan y Blaid Lafur yn etholiad 1979 ledled Prydain Fawr pan etholwyd yn gyffyrddus Margaret Thatcher a'r Ceidwadwyr yn San Steffan. Daliodd i gynrychioli'r etholaeth tan ei ymddeoliad o'r senedd ym 1987. Yn etholiad cyffredinol Mehefin 1983 llwyddodd i wrthsefyll sialens bwerus gan Nigel Thomas, ymgeisydd y Ceidwadwyr. Roedd Roger Thomas hefyd yn aelod o Gymdeithas y Ffabiaid. Penodwyd ef yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ym 1979 a bu hefyd yn llefarydd yr wrthblaid ar Faterion Cymreig. Nid oedd yn llwyddiant ysgubol o fewn Tŷ'r Cyffredin. Eto, rhoddodd gefnogaeth gyson a di-sigl i'r Cwmni Opera Cenedlaethol, ffermwyr defaid ar y mynyddoedd, a'r rhai a ddioddefai oddi wrth niwmoconiosis, clefyd y glowyr. Er ei fod yn dueddol o gefnogi rhyw elfen o ddatganoli, roedd Thomas yn hallt ei feirniadaeth ar yr hyn a ystyriai'n eithafion cenedlaetholdeb. Ni fu erioed yn siaradwr huawdl neu rymus yn y Tŷ, ond enillodd barch dwy ochr y siambr oherwydd ei ddiffuantrwydd amlwg a'i gonsyrn dros ei etholwyr. Daeth ei yrfa wleidyddol i ben yn hynod o ddiurddas pan gafodd ei ddyfarnu'n euog o ymddygiad anweddus mewn toiledau cyhoeddus, digwyddiad a enillodd iddo ddrwg-enwogrwydd anffortunus. Roedd tuedd i hyn roi ei waith gwych o fewn ei etholaeth yn y cysgod. Ei olynydd fel AS Sir Gaerfyrddin oedd Dr Allan Williams a oedd wedi gweithredu'n gynt yn asiant gwleidyddol Roger Thomas. Ei hobi oedd cerddoriaeth. Priododd Undeg, merch y Parch. Thomas, gweinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg. Bu iddynt un mab ac un ferch. Eu cartref oedd Ffynnon Wen, Capel Hendre, Rhydaman. Bu farw Roger Thomas ar 1 Medi 1994 ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Treforus.
Dr John Graham Jones, Aberystwyth