Roedd Wynne Samuel yn un o gynghorwyr cyntaf Plaid Cymru yn ne Cymru. Roedd yn aelod o Gyngor Gwledig Pontardawe am nifer fawr o flynyddoedd. Ef hefyd oedd ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn ne Cymru. Safodd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Castell-nedd yn is-etholiad 1945, gan ennill 6,290 o bleidleisiau (16.2 y cant o'r cyfanswm, ac felly arbedodd ei ernes), ac yn etholiad cyffredinol 1945 yno yn yr un flwyddyn. Safodd hefyd yn etholaeth Aberdâr yn is-etholiad 1946 ac etholiadau cyffredinol 1950 a 1951. Yn Aberdâr ym 1946 enillodd ugain y cant o'r bleidlais, cyfran barchus i genedlaetholwr yn un o gadarnleoedd selocaf y Blaid Lafur. Samuel hefyd oedd y prif drefnydd yn is-etholiad Ogwr Mehefin 1946 pan lwyddodd ymgeisydd y blaid Trefor Morgan i ennill cyfanswm cymeradwy o 5,684 o bleidleisiau (29.4 y cant o'r cyfan). Roedd yr ymgyrchoedd bywiog hyn yn arbennig o werthfawr i Blaid Cymru yn ei hymgais i osod gwreiddiau yng nghymoedd diwydiannol y de a fu tu hwnt i'w gafael cyn hynny i raddau helaeth. Safodd Samuel yn sir Benfro ym 1970. Bu ei chwe ymgais (er bod pob un yn anochel yn aflwyddiannus) i ennill sedd yn San Steffan yn dyst huawdl i gymeriad hynod o benderfynol. Dewiswyd ef hefyd i sefyll dros Blaid Cymru ym Merthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1964, ond cafodd ei orfodi gan salwch i dynnu ei enw yn ôl. Samuel oedd ysgrifennydd eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1952-54, lle bu'n gyfrifol am drefnu llawer iawn o'r gweithgareddau.
Cyflogid Wynne Samuel gan Gyngor Dinesig Pontardawe, 1947-56. Astudiodd hefyd ar gyfer Diploma mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus a chymerodd raddau allanol yn y gyfraith yn ogystal (Ll.B. a Ll.M. o Brifysgol Llundain) pan oedd yn ŵr canol oed. Dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon am draethawd ar gyfreithiau brodorol Cymreig Hywel Dda, pwnc a oedd wedi ennyn ei ddiddordeb ers pan oedd yn ŵr ifanc. Rhoddodd nifer o ddarlithiau cyhoeddus pwysig ar safle merched yn y cyfreithiau Cymraeg. Galwyd ef i'r bar o Gray'n Inn ym 1956, a chynigwyd swydd iddo gyda Chyfundrefn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa. Penodwyd ef yn ddarlithydd yn y gyfraith yng Ngholeg Technolegol Caer ym 1964 a daeth yn glerc y dref yn Ninbych-y-pysgod, prif ddinas answyddogol sir Benfro, ym 1965. Bu hefyd yn ymgynghorwr cyfreithiol i Gyngor Sir De Penfro. Roedd yn llywydd Cymdeithas Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg ym 1950 ac o Undeb Bedyddwyr Cymru ym 1960-61, y dyn ieuengaf erioed i ddal y swydd hon. Gwasanaethodd hefyd yn ymgynghorwr cyfreithiol i Gyngor Sir Dyfed o adeg ei sefydlu yn Ebrill 1974 tan ei ymddeoliad. Bu yn aelod o Gyngor Cymreig y BBC. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Bro a Thref Cymru, swydd lle bu'n rhyfeddol o lwyddiannus yn cydlynu gweithgareddau cannoedd o seneddau bychain ledled Cymru. Ystyriai rhai mai hyn ei gyfraniad pwysicaf oll. Saif yn gofgolofn barhaol i'w waith a'i egni. Roedd yn briod ac roedd ganddo un ferch. Bu farw Wynne Samuel yn ei gartref yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin 1989 ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Thornhill, Caerdydd. Gwnaeth gyfraniad aruthrol i faes llywodraeth leol yng Nghymru ac i ddatblygiad Plaid Cymru dros nifer fawr o ddegawdau.
Dr John Graham Jones, Aberystwyth