Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS, GORONWY OWEN, (weithiau OWAIN), Barwn Goronwy-Roberts (1913-1981), gwleidydd Llafur.

Ganwyd ef ym Methesda ar 20 Medi 1913, yn fab i Edward E. ac Amelia Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ogwen, Bethesda a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Saesneg, a gradd MA gyda marc rhagoriaeth), a bu wedyn yn Gymrawd Prifysgol Cymru ym 1938. Tra oedd yn fyfyriwr ym Mangor roedd Roberts (gyda Harri Gwynn ac eraill) yn un o gyd-sylfaenwyr Mudiad Gwerin, corff dylanwadol a grŵp pwyso gwladgarol adain-chwith yn ystod y cyfnod cyn Rhyfel Byd II. Gwnaeth waith ymchwil pellach yng Ngholeg y Brenin, Llundain, ac ar y Cyfandir, 1937-38. Gwasanaethodd yn y fyddin, 1940-41, ac ymhlith y milwyr wrth gefn, 1941-44. Roberts oedd y Swyddog Addysg Ieuenctid dros Sir Gaernarfon, 1941-44, a bu'n ddarlithydd mewn arweinyddiaeth ieuenctid yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, 1944-45. Roedd yn darlledu'n rheolaidd ar bynciau llenyddol a gwleidyddol.

Etholwyd Goronwy Roberts yn AS Llafur dros Sir Gaernarfon yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 pan orchfygodd ar AS Rhyddfrydol Syr Goronwy Owen a oedd wedi cynrychioli'r etholaeth yn y senedd ers 1923. Ailetholwyd Roberts yn etholaeth Caernarfon, sir Gaernarfon yn etholiad cyffredinol Chwefror 1950 pan orchfygodd yr ymgeisydd Rhyddfrydol gyda mwyafrif o fwy na 10,000 o bleidleisiau. Daliodd i gynrychioli'r etholaeth hon yn y senedd hyd at etholiad Chwefror 1974 pan, yn groes i'r disgwyl, cipiwyd y sedd gan Dafydd Wigley (Plaid Cymru). Roedd Roberts wedi cynrychioli'r etholaeth yn y senedd am naw mlynedd ar hugain yn ddi-dor, a bu ei drechu gan Dafydd Wigley yn ergyd drom iddo. Roedd Goronwy Roberts yn gadeirydd cwmni cyhoeddwyr Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1955-59, ac yn aelod o lysoedd llywodraethwyr y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Roedd hefyd yn gadeirydd y Cyngor Cynllunio Economaidd Cymreig, 1964-66, a daeth hefyd yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Llyfrgell y Tŷ Cyffredin. Roedd yn aelod o gymdeithas y Ffabiaid, ac yn aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd, 1963-64. Pan ddychwelodd y Blaid Lafur i lywodraeth, tybiai llawer y byddai Roberts yn derbyn swydd fel gweinidog. Gwasanaethodd fel Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig newydd, Hydref 1964-Ebrill 1966 (gan weithio mewn perthynas agos â James Griffiths AS a Harold Finch AS), ac wedyn gyda chyfrifoldeb am addysg a gwyddoniaeth, Ebrill 1966-Awst 1967, yn y Swyddfa Dramor, Awst 1967-Hydref 1969, ac yn y Bwrdd Masnach, Hydref 1969-Mehefin 1970. Ef oedd llefarydd yr wrthblaid ar faterion tramor, 1970-74. Yn syth ar ôl iddo golli ei sedd yn Chwefror 1974, crëwyd ef gan Harold Wilson yn Farwn Goronwy-Roberts o Gaernarfon ac Ogwen yn sir Gaernarfon (iarllaeth am oes), a mabwysiadodd fel cyfenw Goronwy-Roberts yn hytrach na Roberts. Cafodd hefyd ei ailbenodi gan Harold Wilson i'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad ym Mawrth 1974, gan wasanaethu yno tan Ragfyr 1975 dan George Brown. Roedd wedyn yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor, Rhagfyr 1975-Mai 1979, a Dirprwy Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi o 1979 hyd at ei farwolaeth. Tra oedd yn y Swyddfa Dramor, teithiodd yn helaeth i wledydd tramor.

Roedd yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Oppenheimer ar gyfer Cyn- Filwyr, ac ym 1965 penodwyd ef yn gadeirydd Cyngor Economaidd Rhanbarthol Cymru. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1968 a dyfarnwyd iddo Ryddfraint Caernarfon ym 1972. Ymhlith ei ddiddordebau roedd cerdded, cerddoriaeth a chasglu blwyddlyfrau a chyhoeddiadau blynyddol. Etholwyd ef yn gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ym 1967. Mae ei bapurau gwleidyddol yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Priododd ym 1942 Marian Ann, merch David ac Elizabeth Evans, Tresalem, Aberdâr. Bu'r Fonesig Roberts hithau yn awdur nifer o lyfrau Cymraeg. Bu iddynt un mab ac un ferch. Eu cartref oedd Plas Newydd, Penrhos ger Pwllheli, sir Gaernarfon. Bu Goronwy Roberts farw ar 23 Gorffennaf 1981 ar ôl brwydro yn erbyn afiechyd am nifer o flynyddoedd.

Nodweddid y cyfan o'i yrfa wleidyddol gan ymdeimlad o ysgolheictod a chymedroldeb ac yr oedd ganddo arddull swynol dawel, gerddorol wrth siarad yn y Gymraeg. Roedd yn unigolyn meddylgar, a bob amser yn barod i dderbyn syniadau gan eraill. Ystyriai fwrlwm y byd gwleidyddol yn dipyn o faich. Roedd ganddo angerdd mawr dros Gymru, a chefnogodd yn frwd ymgyrchoedd dros ddatganoli yn ystod llywodraethau Attlee ar ôl y rhyfel. Eto, roedd yn casáu'r hyn a oedd yn ei farn ef yn ormodiaith a chulni cenedlaetholdeb. Bu'n gefnogydd cyson i fudiad Senedd i Gymru yn y cyfnod 1950-56, ac yn wir ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ddeiseb derfynol (â thros 250,000 wedi ei llofnodi) i'r senedd ym mis Mai 1956. Bu canlyniad y bleidlais ar ddatganoli ar 1 Mawrth 1979 yn ergyd andwyol iddo. Tasg ddiddiolch Goronwy Roberts oedd gwasanaethu fel gweinidog yn ystod cyfnod o ymraniadau o fewn y Blaid Lafur ac yn hanes Cymru fel ei gilydd. Fel gweinidog roedd yn effeithiol, ond ym marn rhai nid oedd yn gymeriad digon cryf a chadarn ac felly yn dueddol o adlewyrchu barn a syniadau'r gweision sifil o fewn ei adran.

Ffynonellau:

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Goronwy O. Roberts ;
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Plaid Lafur Cymru ;
  • Andrew Edwards yng Cylchgrawn Hanes Cymru / Welsh History Review 2004;
  • Emyr Price yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 2002;
  • Who was who? ;
  • Etholiadau'r Ganrif, 1885-1997 , Y Lolfa, 1999;
  • Welsh Hustings - 1885-2004 , Dinefwr Publishers Ltd, 2005;
  • Dod's Parliamentary Companion ;
  • The Times , 24 Gorffennaf 1981;
  • Western Mail , 24 Gorffennaf 1981;
  • Daily Post , 24 Gorffennaf 1981;
  • The Times guide to the House of Commons , 1929, February 1974.

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 2008