RICHARDS, WILLIAM LESLIE (1916-1989), Ysgolhaig, athro, bardd a llenor

Enw: William Leslie Richards
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1989
Priod: Elizabeth Mair Pamela Richards (née Jones)
Rhiant: Anne Richards (née Davies)
Rhiant: William Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Ysgolhaig, athro, bardd a llenor
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Huw Ceiriog Jones

Ganwyd yn y Cwm, Capel Isaac, ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin yn ail fab i William Richards a'i wraig Anne (gynt Davies). Ganwyd pedwar o blant i William ac Anne, sef David Whitson (1915-1983), William Leslie, Eleanor Heddwen (1919-1966), a Benjamin Hugh (1924-). Tyddynwyr oedd y rhieni.

Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Capel Isaac, Ysgol Ramadeg Llandeilo, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1938. O 1939-40 bu'n ddisgybl–ddarlithydd yn Adran y Gymraeg. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan rhestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol ac anfonwyd ef i weithio yn y fforest ger Llanymddyfri. Yn ddiweddarach ymunodd ag Uned Ambiwlans y Crynwyr, gan weithio yn Lloegr, yr Almaen a Gwlad Pwyl. Yr oedd wedi dechrau gwaith ymchwil ar farddoniaeth Dafydd Llwyd o Fathafarn cyn y rhyfel, ac yn 1946 dychwelodd i Aberystwyth i barhau â'r gwaith. Dyfarnwyd gradd M.A. iddo yn 1947. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg enillodd ysgoloriaeth deithio yn 1937 a'i galluogodd i fynd i'r Almaen; dyfarnwyd iddo Wobr Goffa T.E. Ellis am draethawd yn 1939. Bu hefyd yn flaenllaw gyda chymdeithasau'r coleg, megis y Gymdeithas Geltaidd a'r Debates Union. Bu'n aelod o bwyllgor golygyddol Y Ddraig ac Ysgrifennydd yr Eisteddfod Ryng-golegol hefyd. Yn 1947 ymunodd â staff adran Gymraeg Ysgol Ramadeg Llandeilo a dod yn bennaeth yr adran. Wedi newid trefn addysg yn Llandeilo yn 1969 symudodd i fod yn bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Tre-gib, gan ddod yn ddirprwy brifathro'r ysgol o 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1981.

Cyhoeddodd dair nofel, Yr Etifeddion (1956), Llanw a Thrai (1958) a Cynffon o Wellt (1960), a phum cyfrol o farddoniaeth, Telyn Teilo (1957), Bro a Bryniau (1963), Dail yr Hydre (1968), Adledd (1973) a Cerddi'r Cyfnos (1986). Yn 1965 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru ei olygiad o Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn, cyfrol a enillodd iddo Wobr Goffa Syr Ellis Griffith. Bu hefyd yn gyd-olygydd, gyda D. H. Culpitt, y gyfrol Y Cawr o Rydcymerau: cerddi coffa i'r diweddar Ddr. D. J. Williams (1970).

Yn ogystal â dysgu cenedlaethau o blant Llandeilo cyfrannodd at y byd addysg trwy ei gyhoeddiadau hefyd. Bu ei gyfrol Ffurfiau'r Awen: detholiad o farddoniaeth Gymraeg (1961) yn llyfr gosod i ysgolion uwchradd. Bu hefyd yn gyd-olygydd, gyda H. Meurig Evans a W. J. Harries, pedair cyfrol o Cymraeg Heddiw. Ganwyd y cylchgrawn Barn yn 1962, ac ef oedd golygydd cyntaf yr adran addysg. Yr oedd yn gyfrannwr cyson i gylchgronau cenedlaethol, megis Y Llenor, Llên Cymru, Taliesin, Y Traethodydd, Y Genhinen, Yr Efrydydd, Yr Einion a Blodau'r Ffair. Bu'n feirniad eisteddfodol amlwg, gan gynnwys bod yn feirniad cystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976. Bu'n aelod o gymdeithasau cenedlaethol, yn cynnwys Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac Undeb Awduron Cymru. Urddwyd ef yng Ngorsedd y Beirdd â'r wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, 1972. Yr oedd wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Llên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a'r Cylch ddwy flynedd ynghynt.

Yn lleol bu'n weithgar iawn yn 'y pethe'. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cylch Llên Llandeilo, yn westai cyntaf Clwb Cinio Llandeilo, yn arweinydd nosweithiau llawen a siaradwr gwadd. Yr oedd ganddo ddiddordeb yn y ddrama hefyd, fel actor a chynhyrchydd. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Ysgol Gymraeg Llandeilo (bellach Ysgol Teilo Sant), ac yn gefnogwr a siaradwr yn ymgyrchoedd cynnar Plaid Cymru yn sir Gaerfyrddinsir Gâr. Bu hefyd yn ddiacon ac Ysgrifennydd Y Capel Newydd, Llandeilo, am flynyddoedd.

Ei brif ddiddordeb amser hamdden oedd ei deulu a darllen. Yr oedd yn gymeriad o ddaliadau cryf, yn enwedig ynglŷn â'r iaith Gymraeg, ei fro enedigol a heddychiaeth. O'i adnabod yn iawn yr oedd yn gwmni difyr a llawn hiwmor. O ran pryd a gwedd yr oedd yn weddol fyr ac o bryd tywyll, gyda wyneb crwn, fel llawer o'i dylwyth.

Yn 1942 priododd ag Elizabeth Mair Pamela Jones (1920-2002), Ffosyresgob, Capel Isaac, a ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu farw yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar 27 Rhagfyr 1989, wedi cystudd byr. Ar 30 Rhagfyr, wedi gwasanaeth cyhoeddus yn Y Capel Newydd, Llandeilo, rhoddwyd ei weddillion i orffwys gyda'i gyndeidiau ym mynwent Siloam, Pontargothi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.