PROBERT, ARTHUR REGINALD (1909-1975), gwleidydd Llafur

Enw: Arthur Reginald Probert
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1975
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Aberdâr ym 1909, yn fab i Albert John Probert, o Dafarn Penlan, Stryd Regent, Aberaman, Aberdâr, tafarnwr lleol, a'i wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr. Dechreuodd ar ei yrfa fel swyddog llywodraeth leol o fewn adran dai Cyngor Dinesig Aberdâr ym 1928. Daeth yn gyfrifol am archwilio'r gwaith cadw ac atgyweirio ar ystadau tai Cyngor Dinesig Aberdâr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd o fewn Mintai wirfoddol wrthgefn yr Awyrlu Brenhinol a bu'n gwasanaethu yn yr Alban, yr Almaen a Denmarc. Roedd yn aelod gweithgar o Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol a gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyngor Llafur a Masnach Aberdâr, 1951-54. Roedd hefyd yn aelod o bwyllgor ar gyflogaeth leol a phwyllgor ar les yr henoed.

Yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur dros Aberdâr D. Emlyn Thomas, etholwyd Arthur Probert yn AS Llafur dros yr etholaeth mewn is-etholiad ym mis Hydref 1954 a daliodd ei afael yn y sedd nes iddo ymddeol o'r senedd yn Chwefror 1974. Yn is-etholiad 1954 ei wrthwynebwyr oedd Michael Roberts ar ran y Ceidwadwyr a Gwynfor Evans, llywydd Plaid Cymru ers 1945. Roedd Probert yn ysgrifennydd i'r Blaid Lafur Seneddol Gymreig, 1955-59, yn chwip yr wrthblaid, Tachwedd 1959-Rhagfyr 1960, yn aelod o'r Pwyllgor ar Gyfrifon Cyhoeddus, 1964-66, ac yn ysgrifennydd preifat seneddol, 1965-66, i'r Gwir Anrhydeddus Frank Cousens, y gweinidog dros Dechnoleg. Roedd hefyd yn aelod o Banel y Llefarydd o Gadeiryddion, 1966-74, ac etholwyd ef i gadair yr Uwch-bwyllgor Cymreig ym 1970. Yn gyffredinol roedd yn dueddol o wrthwynebu polisi amddiffyn Hugh Gaitskell, ac ar un adeg ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn polisi niwclear y Blaid Lafur. At ei gilydd roedd parch mawr iddo oherwydd ei waith fel AS etholaethol da a oedd yn cyfarfod ei etholwyr yn rheolaidd. Ac yntau'n ymwybodol o'r cwymp ym mhoblogaeth yr ardal a'r diffyg cyfleoedd i bobl ifanc, bu Probert (ac S. O. Davies, yr AS dros Ferthyr Tudful) yn pwyso ar y naill lywodraeth ar ôl y llall i gyflwyno ffynonellau newydd o gyflogaeth i mewn i'r etholaeth. Priododd ym 1938 Muriel, merch William Taylor, Abercwmboi, Aberdâr, a bu iddynt ddwy o ferched. Eu cartref oedd Allt Fedw, Abernant, Aberdâr. Bu farw Probert yn sydyn yn ei gartref ar 14 Chwefror 1975 ac olynwyd ef gan Ioan Evans yn AS Llafur Aberdâr. Amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Llwydcoed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.