McBRIDE, NEIL (1910-1974), gwleidydd Llafur

Enw: Neil Mcbride
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1974
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Neilston, swydd Renfrew, ar 13 Ebrill 1910, yn fab i Neil McBride. Addysgwyd ef yn Ysgol Sant Thomas, Neilston, mewn dosbarthiadau estyn ac yn y Coleg Llafur Canolog, Llundain. Enillodd ei fywoliaeth yn gabolwr pres gyda Chwmni James Brown, Clydebank tan 1963. Ymunodd ag Undeb Unedig y Peirianwyr ym 1937 ac â'r Blaid Lafur ym 1940. Roedd hefyd yn aelod o'r Blaid Gydweithredol ac yn weithgar o fewn Plaid Lafur Paisley. Roedd yn aelod o Gymdeithas Gwneuthurwyr Gydweithredol Paisley am ddwy flynedd ar bymtheg ac yn gadeirydd Plaid Lafur Etholaethol Paisley, 1950-62. Safodd yn aflwyddiannus yn etholaeth Perth a swydd Dwyrain Perth yn etholiad cyffredinol Hydref 1951 ac etholaeth High Peak, swydd Derby ym 1955.

Aeth i'r senedd yn AS Llafur Dwyrain Abertawe mewn is-etholiad ym Mawrth 1963 yn olynydd i D. L. Mort AS, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd tan ei farw. McBride oedd y trydydd Albanwr yn unig i gynrychioli etholaeth Gymreig yn y senedd a bu'n gyson deyrngar i Gymru. Roedd yn ysgrifennydd i grŵp undebau llafur y Blaid Lafur Seneddol, 1964-66, ac yn gadeirydd pwyllgor trafnidiaeth y Blaid Lafur Seneddol, 1964-66. Daeth yn chwip cynorthwyol y llywodraeth ym 1966, gan wasanaethu tan 1970, ac roedd yn Arglwydd Gomisiynydd i'r Trysorlys, 1969-70. Yn dilyn gorchfygu'r llywodraeth Lafur ym 1970, daeth yn chwip yr wrthblaid. Roedd yn gadeirydd y Grŵp Seneddol Llafur Cymreig, 1972-73. Yn etholiad cyffredinol Chwefror 1974 roedd ei fwyafrif yn 19,687 o bleidleisiau, ond rhwystrwyd ef gan salwch rhag pleidleisio o gwbl yn y senedd newydd. Teithiodd yn helaeth yn Ewrop, Affrica, De America a'r Dwyrain Canol drwy gydol ei yrfa seneddol. Roedd yn ffyrnig ei elyniaeth i'r Farchnad Gyffredin. Ei ddiddordebau eraill oedd darllen a lledu Sosialaeth. Priododd ar 12 Mehefin 1937 Delia, pedwaredd merch James Maloney, Paisley. Eu cartref oedd 116 Ffordd Eaton, Brynhyfryd, Abertawe. Bu farw Neil McBride yn ei gartref, ar ôl salwch yn ymestyn dros saith mis, ar 9 Medi 1974.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.