JARMAN, ALFRED OWEN HUGHES (1911-1998), ysgolhaig Cymraeg

Enw: Alfred Owen Hughes Jarman
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1998
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd Alfred (Fred) Jarman ym Mangor 8 Hydref 1911, yr hynaf o dri phlentyn Thomas Jarman, siopwr di-Gymraeg o'r Drenewydd, Maldwyn, a'i wraig, Flora. Addysgwyd ef ysgol Cae Top ac ysgol ramadeg Friars, Bangor (yr oedd wedi dysgu Cymraeg yn rhannol trwy gyfrwng ysgol Sul ac eglwys Tŵr-gwyn er mai yn eglwys Saesneg Prince's Road yr oedd y teulu'n aelodau), ac yna yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor lle y graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg (1932) a Saesneg (1933). Cwblhaodd gwrs hyfforddi athrawon yn 1934 a dechrau ar ei ymchwil ar 'Chwedl Myrddin yn y Canu Cynnar', yn Llyfr Du Caerfyrddin yn bennaf, traethawd a enillodd radd M.A. iddo yn 1936. Bu'n diwtor yn Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol ym Mangor fesul blwyddyn rhwng 1936 a 1946, pan gafodd ei benodi'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy, Caerdydd, ac wedyn ei ddyrchafu'n Uwch-ddarlithydd. Penodwyd ef yn Athro a Phennaeth Adran, yn olynydd i Griffith John Williams, yn 1957. Bu'n ddeon Cyfadran y Celfyddydau 1961-63 ac yn 1967 llwyddodd i ddarbwyllo'r coleg i sefydlu Uned Ymchwil Ieithyddol Gymraeg i astudio tafodieithoedd y Gymraeg, a'r Dr Ceinwen Thomas a oedd eisoes yn aelod o staff yr adran, yn Ddarlithydd ac yna'n Gyfarwyddwr. Tros y blynyddoedd gwnaeth yr Uned lawer o waith arloesol pwysig ym maes tafodieitheg y Gymraeg. Yr oedd A.O.H. Jarman yn un o Lywyddion er Anrhydedd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ac yna yn un o'r Is-lywyddion Rhyngwladol ac yn aelod parhaol o Ymddiriedolaeth Eugène Vinaver. Bu'n Gymrawd Syr John Rhŷs yng Ngholeg Iesu Rhydychen yn 1975-6. Ymddeolodd o'i Gadair yng Nghaerdydd yn 1979. Derbyniodd Ysgoloriaeth Leverhulme yn 1979-81.

Prif feysydd ymchwil A.O.H. Jarman oedd chwedl Myrddin y bu'n olrhain ei tharddiad a'i datblygiad mewn cyfres nodedig o erthyglau a darlithiau (gan gynnwys Darlith Goffa Syr John Rhŷs yn yr Academi Brydeinig yn 1985), chwedlau Cymraeg Canol a'r chwedlau Arthuraidd yn arbennig, a hengerdd. Cyhoeddodd argraffiad safonol o Lyfr Du Caerfyrddin yn 1982 a chyfieithiad Saesneg o 'Y Gododdin' gyda thrafodaeth lawn ar y gerdd a'r amryfal ddamcaniaethau amdani yn 1988, 1990. Ond gweithiai hefyd mewn nifer o feysydd eraill, yn arbennig ar Sieffre o Fynwy ac ysgolheictod y ddeunawfed ganrif a chylch y Morysiaid, a chyfrannodd bennod ar 'Cymru'n rhan o Loegr, 1485-1800' i'r gyfrol Seiliau Hanesyddol Cenedlaetholdeb Cymru, gol. D. Myrddin Lloyd (1950). Bu'n olygydd Llên Cymru o 1961 hyd 1986 ac yn olygydd Y Ddraig Goch o 1941 hyd 1946. Nodweddir ei holl waith gan dreiddgarwch meddwl, manylder ymchwil ac eglurder ymadrodd. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau hyd 1991 yn Ysgrifau Beirniadol 18 (1992), ynghyd â phortread ohono gan J. E. Caerwyn Williams. Yr oedd Fred Jarman yn genedlaetholwr cadarn a fu'n gefnogwr brwd i Saunders Lewis ers dyddiau coleg. Safodd yn wrthwynebydd cydwybod ar dir cenedlaethol adeg Rhyfel Byd 2 ac o ganlyniad treuliodd gyfnodau yng ngharchardai Walton a Stafford. Gŵr o argyhoeddiadau cryfion ydoedd a berchid am unplygrwydd ei egwyddorion. Er mai gŵr prin ei eiriau ydoedd, yr oedd Fred Jarman, pan ymlaciai gyda chyfeillion, yn gwmnïwr difyr, yn awdurdod ar fwydydd a gwinoedd ac yn hoff o grwydro'r Cyfandir.

Priododd ag Eldra (Roberts) yn 1943 a bu iddynt ddwy ferch. Yr oedd Eldra Jarman yn delynores fedrus ac yn gyd-awdur â'i gŵr Y Sipsiwn Cymreig: teulu Abram Wood (yr arddelai hi berthynas â hwy trwy ei hendaid, John Roberts), 1979, fersiwn Saesneg 1991. Bu farw Fred Jarman yn yr Ysbyty Brenhinol, Caerdydd, 26 Hydref 1998 a chafwyd gwasanaeth yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, 30 Hydref. Bu farw Eldra Jarman yn 83 oed yn 2001.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.