GRUFFYDD, IFAN (1896-1971), llenor

Enw: Ifan Gruffydd
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1971
Priod: Catherine Gruffydd
Rhiant: Mary Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd 1 Chwefror 1896 yn Rhos-y-ffordd, Llangristiolus, Môn, yn fab i Mary Gruffydd. Bu'n gweini ar ffermydd yn ei gynefin o 1909 ymlaen - yn Fferam, Paradwys ymhlith lleoedd eraill; ymunodd â'r fyddin yn 1914 a pharhau'n filwr hyd 1920 gan wasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc a'r Aifft; wedyn bu'n arddwr ym Mhlas Trescawen am 12 mlynedd, yn weithiwr ar y ffordd fawr, ac yna'n ofalwr swyddfeydd Cyngor Sir Môn yn Llangefni.

Bu'n actio gyda chwmnïau drama lleol o'r 1930au ymlaen ac yn darlithio ar stori ei fywyd, ond yn y 1950au y daeth i amlygrwydd y tu allan i gylch ei gynefin fel darlithydd poblogaidd ac actor. Cynhyrchwyd drama o'i waith, 'Ednyfed Fychan' yn Theatr Fach Llangefni yn 1957. Yn 1963 cyhoeddwyd ei Gŵr o Baradwys, cyfrol hunangofiannol a enillodd ei lle yn un o glasuron ysgrifennu atgofion yn y Gymraeg. Dilynwyd hon gan ddwy gyfrol arall o atgofion, Tân yn y siambar (1966) a Crybinion (1971).

Bu farw 4 Mawrth 1971 yn Ysbyty Môn ac Arfon, Bangor a chladdwyd ef ym mynwent Cerrigceinwen, Llangristiolus, 6 Mawrth. Yr oedd ei wraig Catherine wedi marw o'i flaen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.