GRIFFITHS, JOHN POWELL (1875-1944), gweinidog (Bed.) ac athro

Enw: John Powell Griffiths
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1944
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Mab oedd John Powell Griffiths i J. E. Griffiths (1841-1918), gweinidog Horeb, Sgiwen, Morgannwg. Ganwyd y tad yn Froncysyllte, a'i godi i'r weinidogaeth ym Mhen-y-cae, lle'r aeth i fyw gyda'i ewythr wedi iddo golli ei rieni yn dair oed. Wedi cyfnod yn Athrofa Llangollen, cafodd ei ordeinio yn 1870 yn Swyddffynnon a Phontrhydfendigaid, Ceredigion, gan symud i Horeb, Sgiwen, yn 1874. Priododd â Miss Powell o Lanybydder - a'i chyfenw hi a roddwyd yn enw bedydd ar yr hynaf o'r tri o blant a anwyd iddynt.

Ganwyd Powell Griffiths yng nghartref ei fam yn Llanybydder ar 25 Medi 1875 ond cafodd ei godi yn Sgiwen. Wedi cael addysg gynnar yn y National School yn Sgiwen ac Ysgol yr Henadur Davies yng Nghastell-nedd, aeth i'r 'Sawel Academy' a gynhaliwyd gan y Parchg Jonah Evans yn Llansawel. Dywedir mai yno y datblygodd ei ddiddordeb yn y Clasuron. Yn 1894 cafodd fynediad i goleg yr enwad a oedd newydd symud o Bontypwl i Gaerdydd. Llywydd y Coleg oedd Dr William Edwards a oedd eisoes wrthi yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yntau'n glasurwr brwd ac nid yw'n syndod fod ei fyfyriwr newydd wedi cael ei feddiannu gan yr un brwdfrydedd. Cafodd Powell Griffiths ei gofrestru yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy yn 1896 a bu'n fyfyriwr yno tan iddo raddio ym Mehefin 1904. Gadawodd y Coleg gyda gradd B.A. (peth digon prin ar ddechrau'r ugeinfed ganrif). Nid oedd y Brifysgol yn cynnig graddau anrhydedd bryd hynny, ond dywed archif y Brifysgol iddo raddio mewn Groeg, Lladin a Hebraeg. Flwyddyn ar ôl graddio cafodd ei ordeinio'n weinidog ar eglwysi Saesneg y Bedyddwyr yn Llanbedr Castell-paen (Painscastle) a Llandeilo, sir Faesyfed.

Symudodd i fod yn weinidog yn Mount Pleasant, eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn y Ponciau, Wrecsam, yn 1913, gan aros yno tan ei farw yn 1944. Bu farw Lilian Jones, y wraig a briododd yn 1917, o fewn dwy flynedd i'w priodas, a, maes o law, daeth gwraig yn hanu o Sgiwen i ofalu am ei dy - a'i fyfyrwyr.

Ymddengys mai olynu J. W. Humphreys yn yr ysgol a sefydlodd yntau tra oedd yn weinidog yn Mount Pleasant a wnaeth J. Powell Griffiths, ond gymaint oedd ei frwdfrydedd dros y clasuron fel y cynhaliai hefyd ddosbarthiadau nos mewn Groeg a Lladin yn y Rhos a'r Ponciau. Yn y nodyn bywgraffiadol a luniodd ar gyfer Baptist Handbook 1944-1946, tystia Herbert Morgan (a fu'n drefnydd Efrydiau Allanol y Brifysgol yn Aberystwyth) fod Powell Griffiths wedi gweithredu fel tiwtor mewn Groeg i Sefydliad Addysg y Gweithwyr (y W.E.A.) a bod ei ddosbarthiadau yn cyflwyno'r Testament Newydd i'w fyfyrwyr. Coliars a'u tebyg a oedd yn mynychu ei ddosbarthiadau nos. Daeth ei lafur a'i lwyddiant i sylw Stanley Baldwin, A.S., ac anfonodd yntau gopi ato o The Classics and the plain man: Presidential Address delivered to the Classical Classical Association in the Middle Temple, 8th January, 1926, fel arwydd o'i barch i'r fath frwdfrydedd a ffydd yn achos dynoliaeth. Ond dichon mai'r gwaith a wnaeth yn paratoi darpar bregethwyr a gweinidogion oedd ei gyfraniad mwyaf. Arbenigai ar ddysgu Groeg, Lladin a Hebraeg iddynt cyn iddynt sefyll arholiad ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol mewn cyfnod pan oedd y sefydliadau hynny'n llawn ac yn galw am arholiad cyn derbyn neb, ond byddai hefyd yn dysgu Hanes ac Athrawiaeth Gristnogol os byddai galw. Amcangyfrifir fod cynifer â 140 o weinidogion o bob enwad wedi treulio amser dan ei hyfforddiant, yn eu plith Dr Emlyn Davies, Toronto, y Prifathrawon Gwilym Bowyer a Tom Ellis Jones, Bangor, a'r Prifardd Rhydwen Williams.

Mae'r enw 'Coleg y Rhos' a arferir weithiau am ei ysgol braidd yn gamarweiniol er gwaethaf y nifer a addysgwyd ganddo. Yn 'Preswylfa', ty teras yn Stryt Osborne, yr oedd yr athro a'r myfyrwyr preswyl a dderbyniai yn byw. Nid oedd ond lle, felly, i ddau fyfyriwr preswyl ar y tro, gyda drws agored a chroeso i eraill o'r cylchoedd cyfagos i ymuno yn y gweithgareddau ar hyd y dydd. Trefnai gyhoeddiad ar y Sul i'w fyfyrwyr preswyl ac roedd y gydnabyddiaeth a dderbynient yn ddigon i gwrdd â chost eu llety a'u hyfforddiant. Gyda'r nos byddai'r athro'n cynnal rhai o'i ddosbarthiadau allanol ac yn paratoi ei bregethau ar gyfer y Sul ynghyd â sgwrs ar gyfer Cwrdd Gweddi nos Lun.

Credai Powell Griffiths na fyddai addysg neb yn gyflawn heb feistrolaeth o'r clasuron ac os cytunai disgybl i dorchi llewys fe ddysgai ef Roeg a Lladin iddo mewn byr amser. Yn ôl Rhydwen Williams, roedd yr athro fel milwr yn drilio'r recriwtiaid! Ei ddisgrifiad o'i athro yw: Rhufeiniad wedi dysgu Groeg oedd John Powell Griffiths. Canwriad wedi cael gras. Cododd academi, ond dull y gatrawd a ddewisodd i ddysgu. Milwyr bach oedd ei ddosbarth, nid myfyrwyr …

Nid y clasuron yn unig a ddysgai yn y pentre, oherwydd roedd yr athro hefyd yn hyddysg mewn mathemateg ac amryw o'r ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys Esperanto. Ei arfer am egwyl o ymlacio fyddai cymryd drosodd yr ystafell ganol, rhoi ei draed i fyny, llwytho'i bib, a darllen storïau detectif Ffrangeg. Oherwydd hyn, yr oedd amryw o rieni'r Rhos yn manteisio ar Powell Griffiths i roi gwersi preifat i'w plant mewn Ffrangeg, yn ogystal â Lladin. Yn wir, cyn yr Ail Ryfel Byd âi i Ffrainc yn gyson a phregethodd yno ar sawl achlysur.

Llwyddai ei fyfyrwyr, bron yn ddi-eithriad, i gael mynediad i goleg eu dewis - a hynny mewn cyfnod pan oedd cystadleuaeth frwd am yr ychydig o leoedd a oedd ar gael yn y colegau enwadol. Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd - ei hen goleg ef ei hun - a ffafriai Powell Griffiths, ond llwyddo yn yr arholiad a oedd yn bwysig iddo yn y pen draw, nid pa goleg a ddewisai'r ymgeisydd. Yr oedd pregethu'n bwysig iddo, hefyd, ond gwgai ar bregethu 'poblogaidd' a mynnai fod sylwedd yn gymaint rhan o bregethu ei fyfyrwyr ag oedd huodledd.

Ychydig o anrhydeddau enwadol ddaeth i'w ran - ni chwenychai nac anrhydeddau na swyddi, ac o'i anfodd y cafodd ei ethol ddwywaith i fod yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Saesneg Gogledd Cymru.

Bu farw wedi cystudd byr ar fore Sul, 5 Mawrth, 1944 yn 69 mlwydd oed a bu'r angladd y dydd Mercher canlynol. Yn ôl ei ddymuniad, llosgwyd ei gorff a thaenwyd ei lwch ar fedd ei rieni ym mynwent capel Aberduar, Llanybydder.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-10-23

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.