Rhagorai Foster fel cyfarwyddwr ymchwil ac ar un adeg yr oedd pedwar o'r pum Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru yn gyn-ddisgyblion iddo. Prin fod neb a gyfarwyddwyd ganddo heb ymdeimlo â dyled drom iddo, yn bersonol yn ogystal ag academaidd. Gymaint oedd ei ymroddiad i addysgu fel yr esgeulusai braidd ei ymchwil a'i gyhoeddi ei hunan, er i bopeth a gyhoeddodd arddangos dysg eang a barn sicr: gweler, er enghraifft, ei Ddarlith Rhŷs The Book of the Anchorite (1950), ei bennod ar Gymru gynnar yn y gyfrol Culture and Environment a gydolygodd â Leslie Alcock (1963) a'i bennod ar yr Hengerdd yn y gyfrol Prehistoric and Early Wales a gydolygodd â Glyn Daniel (1965). O Gylch yr Hengerdd, a sefydlwyd ganddo ac a gyfarfyddai dan ei gadeiryddiaeth yng Ngholeg yr Iesu ddwywaith neu dair bob blwyddyn rhwng 1972 a 1978, fe ddeilliodd y gyfrol Astudiaethau ar yr Hengerdd a olygwyd gan Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones (1978) ac a gyflwynwyd i Foster ; i'w goffadwriaeth hefyd y cyflwynwyd y gyfrol Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin a olygwyd gan Dr Brynley F. Roberts (1988). Ni lwyddodd, fodd bynnag, i gwblhau ei magnum opus ar Culhwch ac Olwen (y mae lle i gredu ei fod yn ormod o berffeithydd), ond fe wnaed hynny drosto gan ei gyfeillion Rachel Bromwich a D. Simon Evans mewn cyfres o gyfrolau rhwng 1988 a 1997 — cymwynas nodedig â choffadwriaeth yr awdur ac ag ysgolheictod Cymraeg. Gwasanaethodd Foster lu o sefydliadau dysgedig a diwylliannol yn Lloegr yn ogystal â Chymru. Rhaid bodloni yma ar enwi'n unig Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (y golygodd ei Thrafodion 1953-78), Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Trysorydd 1964-79; Is-Lywydd 1977-84) ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Cadeirydd y Cyngor 1970-3, Llywydd y Llys 1973-7). Etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1954 a'i urddo'n Farchog yn 1977.
Bu Foster farw o glefyd y galon yn Ysbyty Môn ac Arfon, Bangor , 18 Mehefin 1984 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Blwyf Glanogwen, Bethesda 22 Mehefin: fe'i magwyd yn Fethodist Calfinaidd ac ni chollodd erioed ei barch at y traddodiad hwnnw, ond mewn Uchel-eglwysyddiaeth Anglicanaidd y cafodd ei ffydd Gristnogol ddofn ei meithrinfa fwyaf cydnaws. Y mae yn Astudiaethau ar yr hengerdd ffotograff o Idris Ll. Foster .
Yr Athro Robert Geraint Gruffydd, D.Phil., Aberystwyth / Bangor