DAVIES, EMLYN (1907-1974), gweinidog (Bed.) ac athro diwinyddiaeth

Enw: Emlyn Davies
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 1974
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) ac athro diwinyddiaeth
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Ganed Emlyn Davies, yr ieuengaf o chwe phlentyn Edwin a Mary Jane Davies, yn Froncysylltau, Sir Ddinbych, ar 23 Ebrill 1907. Enwau ei chwiorydd a'i frawd oedd Annie, Nellie, Sarah, Alice a John. Fforman oedd y tad yng ngwaith brics a theils Trefynant, Rhiwabon. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Froncysylltau, cyn symud ymlaen i Ysgol y Sir yn Llangollen. Yn 1925 derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd mewn Cymraeg (1928) cyn ennill gradd B.D. (1931) gan arbenigo mewn Athroniaeth Crefydd a Hanes yr Eglwys. Ni chafodd alwad i fugeilio eglwys ar ddiwedd ei gwrs a thalodd am le yng Ngholeg Prifysgol Rhydychen i wneud gradd ymchwil. Dyfarnwyd gradd B.Litt. iddo yn 1934 am draethawd, 'The Keltic Church in Wales prior to A.D. 664, together with its Relationship to the Western Church'. Ym Mawrth 1934 fe'i hordeiniwyd yn weinidog ar eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn y Stryd Fawr, Merthyr. Priododd ag athrawes, Elsie Ockendon, yn Eglwys y Bedyddwyr, Perry Rise, Forest Hill, Llundain yn Medi 1935. Ym misoedd y gaeaf 1939-40 trawyd ei wraig yn wael â chlefyd yr ysgyfaint a chafodd gyngor meddygol i fynd ar fordaith hir. Yr unig obaith am fordaith iddi oedd ymateb i hysbyseb y Children's Overseas Reception Board yn gofyn am wirfoddolwyr i hebrwng grwpiau o blant oedd yn cael eu danfon i ddiogelwch gwlad dramor. Erbyn hynny, roedd Emlyn Davies wedi derbyn galwad i fugeilio Eglwys y Bedyddwyr yn North Finchley yn Llundain. Trefnwyd y cyrddau sefydlu ar gyfer Medi 1940 ond cyn hynny cafodd Elsie alwad i fynd â grwp o blant i Awstralia a hwyliodd o Lerpwl ar ddechrau mis Awst. Ni welodd ei gwr mohoni ar ôl hynny. Suddwyd y llong y dychwelai arni o Awstralia mewn cyrch awyr Siapaneaidd, a chafodd ei lladd. Prin ddwy flynedd y bu Emlyn Davies yn North Finchley cyn derbyn gwahoddiad i weithio fel Ysgrifennydd Cenedlaethol Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr (yr S.C.M.) yng Nghymru. Symudodd i Gymru yn Awst 1942 ac ym mis Medi priododd yn Eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn Llandaff Road, Caerdydd, â gweddw o'r enw Elizabeth Fretwell (Bowden, gynt) o North Finchley. Ganed iddynt ddau o blant: Mary Emlyn ar 20 Tachwedd 1943 a Robert Meurig ar 7 Mawrth 1947.

Pan ymddeolodd T.W. Chance fel pennaeth Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd yn 1944, etholwyd Emlyn Davies yn Athro Hanes y Coleg. Roedd ganddo ddiddordeb eang mewn mudiadau rhyngeglwysig ac, ymhlith mudiadau eraill, gwasanaethodd y Baptist World Alliance (y B.W.A.) fel aelod o gomisiwn cymdeithasol a astudiai broblem hiliaeth a rhagfarn grefyddol. Oherwydd hyn, gwahoddwyd ef i annerch yn y Gyngres yn Cleveland, Ohio, yng Ngorffennaf 1950, a thra oedd yng Ngogledd America pregethodd mewn amryw o eglwysi, gan gynnwys Yorkminster, eglwys fawr y Bedyddwyr yn Toronto. Dychwelodd i Gymru ym mis Awst yn ystyried gwahoddiad i ganiatáu i'w enw ymddangos mewn pleidlais am weinidog nesaf Yorkminster. Wedi ymgynghori â'i wraig cytunodd ac ymhen pythefnos derbyniodd yr alwad i fugeilio'r eglwys yn Toronto ac ymddiswyddodd fel Athro Hanes Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd.

Sefydlwyd Emlyn Davies yn weinidog Yorkminster ar 4 Ionawr 1951 ac yn ystod y deng mlynedd nesaf, tra oedd yn weinidog yr eglwys yno, daeth yn adnabyddus fel pregethwr drwy Ganada ac America. Yn ogystal â'i aelodaeth o Gyngor Cristnogion ac Iddewon, Canada, a phwyllgor gweinyddol y B.W.A., etholwyd ef yn aelod o Gomisiwn Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi Canada yn 1951 a bu'n cynrychioli Bedyddwyr Canada yng Nghynhadledd Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi'r Byd yn Lund, Sweden. (1952). Gweithredodd fel Is-gadeirydd Cynhadledd (gyntaf) Ffydd a Threfn Eglwysi Gogledd America yng ngholeg Oberlin, Ohio (1957). Rhwng 1956 a 1958, ef oedd Llywydd Cyngor Eglwysi Canada, gan weithredu fel Llywydd Confensiwn Bedyddwyr Quebec ac Ontario yn 1961-2.

Yn ystod ei ddeng mlynedd yn Yorkminster, gwahoddwyd ef yn fynych i ddarlithio i amryw o sefydliadau, bach a mawr. Bu'n ddarlithydd gwadd mewn colegau diwinyddol yn Chicago, Philadelphia a Massachusetts, ac ym Mhrifysgolion Gorllewin Ontario, McMaster, Acadia a Toronto. Darlithiai yn rheolaidd hefyd i gaplaniaid Lluoedd Arfog Canada. Dyfarnodd Prifysgolion McMaster (1952) ac Acadia (1957) radd Doethur mewn Diwinyddiaeth, er anrhydedd, iddo. Daeth ei lais hefyd yn adnabyddus i wrandawyr a gwylwyr radio a theledu yng Nghanada wrth i wahoddiadau mynych ddod i'w ran; a rhwng 1955 a 1962 darlledwyd oedfa bythefnosol o Yorkminster ar orsaf leol Toronto. Yn Nhachwedd 1958, gwahoddodd John Diefenbaker, y Bedyddiwr oedd yn Brif-weinidog Canada ar y pryd, weinidog eglwys Yorkminster i weithredu fel aelod rhan-amser, digyflog o Lywodraethwyr Bwrdd Darlledu'r wlad. Parhaodd yr apwyntiad am bum mlynedd. Yr oedd Emlyn Davies yn barod hefyd i gyfrannu erthyglau i'r wasg a phan ddechreuodd y papur lleol, The Toronto Evening Telegram, gyhoeddi argraffiad ar y Sul derbyniodd wahoddiad i ysgrifennu erthygl wythnosol hyd at fil o eiriau yn dwyn y teitl 'Christian Living'.

Ym mis Mawrth 1961 dinistriwyd rhan helaeth o gapel y Bedyddwyr yn Park Road, Toronto, gan dân ac estynnodd gweinidog ac aelodau Yorkminster wahoddiad i'r eglwys yno i ymuno â hwy a ffurfio eglwys newydd dan yr enw Yorkminster Park. Roedd gan Park Road ei gweinidog ei hunan a'r bwriad oedd ffurfio tîm o weinidogion i wasanaethu'r eglwys newydd o dan oruchwyliaeth un bugail. Derbyniwyd y gwahoddiad ac ym Medi 1961 cysegrwyd yr eglwys newydd; ond yr oedd eisoes tyndra'n bodoli rhwng y ddwy gynulleidfa a unwyd. Ar y dechrau rhannai'r ddau weinidog gyfrifoldeb am yr oedfaon, ond trefnwyd y dylent hwy (a'r gweinidog cynorthwyol a apwyntiwyd i gynorthwyo'r fenter newydd) ymddiswyddo ym Mawrth 1962 i roi cyfle i'r aelodau i ddewis bugail newydd i arwain yr eglwys. Wythnos ar ôl iddo lywyddu Cynhadledd Flynyddol Confensiwn Bedyddwyr Quebec ac Ontario yng nghapel Yorkminster Park ym Mehefin 1962, gwrthododd aelodau'r eglwys yno gadarnhau Emlyn Davies fel bugail ac arweinydd yr achos newydd. Yr oedd bellach heb eglwys i'w gwasanaethu, ac ni ddychwelodd ar ôl hynny i fugeilio unrhyw eglwys, er iddo bregethu'n gyson ar draws y wlad a chodi sawl galwad.

Yn dilyn y siom o gael ei wrthod gan eglwys newydd Yorkminster Park, treuliodd ddeufis yn Awstralia, yn ôl trefniant a oedd eisoes yn bod, yn darlithio a phregethu yng nghyrddau canmlwyddiant Undeb Bedyddwyr Victoria. Pan ddychwelodd o Awstralia roedd nifer o wahoddiadau i gyflenwi swyddi mewn colegau yn ei ddisgwyl. Treuliodd chwe mis yn cynorthwyo fel Deon Astudiaethau coleg a sefydlwyd yn Toronto pan unwyd y Ganolfan Ecwmenaidd ag Ysgol Cenadaethau Canada, cyn symud ymlaen i ddarlithio ar 'Ein Diwylliant Gorllewinol' yn Adran Allanol Prifysgol Toronto. Yn 1964-65 treuliodd flwyddyn yn Athro Gwadd yn St Andrew, Coleg Diwinyddol Eglwys Unedig Canada yn Saskatoon. Darlithiai ar Athrawiaeth Crefydd, Diwinyddiaeth Gyfundrefnol, Moeseg Cristnogaeth a Phregethu.

Ar ddiwedd ei dymor yn Saskatoon, bu Emlyn Davies yn cyflenwi eto mewn amryw o golegau a sefydliadau addysgiadol yng nghyffiniau Toronto cyn iddo gael ei apwyntio yn drydydd Prifathro/Llywydd Coleg Huntington ym Mhrifysgol Laurentian, Sudbury, Ontario (1968-72). Ffurfiwyd Coleg Huntington yn 1960 gan Eglwys Unedig Canada ar gyfer hyfforddi myfyrwyr diwinyddol gogledd y dalaith ond yn fuan daeth yn goleg ffederal, dwyieithog, anenwadol ym Mhrifysgol Laurentian. Er hynny, digon cythryblus fu'r tair blynedd a hanner a dreuliodd Emlyn Davies yn Sudbury gyda'r staff a'r myfyrwyr yn amau ei apwyntiad cyn iddo ddechrau ar ei waith! Yn 1969 cododd trafferthion ariannol a orfododd gau'r adran Athroniaeth yn Huntington a'i throsglwyddo i goleg ffederal arall. Bu ymgais hefyd i drosglwyddo Astudiaethau Beiblaidd i un arall o golegau ffederal y brifysgol a bu'n rhaid i Huntington dynnu allan o Adran Astudiaethau Crefyddol unedig y Brifysgol gydag Emlyn Davies ei hun yn ysgwyddo llawer o faich dysgu'r pwnc. Parhaodd trafferthion i liwio ei gyfnod fel Prifathro ond llwyddodd i sicrhau cymynrodd sylweddol i'r coleg a sefydlu Llyfrgell Goffa J. W. Tate a agorwyd yn Ebrill 1972.

Ymddeolodd yn 1972 a symud i fyw yn Port Hope, 65 milltir o Toronto. Trawyd ef yn wael â chlefyd y galon tra oedd ar daith bregethu a darlithio ym Mhrydain yn 1972 a bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref i Ganada cyn cadw'i gyhoeddiadau i gyd. Wedi cyfnod o orffwys daeth yn well ac ailgydio mewn pregethu a darlithio. Yn Ionawr 1974 derbyniodd wahoddiad i fugeilio Eglwys Calfaria, Coburg, yn y misoedd cyn sefydlu gweinidog newydd, ond fis yn ddiweddarach cafodd fynediad i'r ysbyty yn Toronto lle darganfuwyd nad oedd modd gwella'i gyflwr, a bu farw ar 20 Mawrth 1974.

Bu'r gwasanaeth angladdol ar 22 Mawrth yng nghapel Yorkminster Park cyn symud i amlosgfa Mount Pleasant, Toronto; claddwyd y llwch ym mynwent Port Hope. Dadorchuddiwyd plac i'w goffáu yng nghapel Carmel, Froncysylltau, ym Mawrth 1975 a gosodwyd ffenestr liw er cof amdano yn First Baptist Church, Port Hope, Ontario, yn Ebrill 1975.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-10-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.