BELL, RONALD MCMILLAN (1914-1982), gwleidydd Ceidwadol

Enw: Ronald Mcmillan Bell
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1982
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Ceidwadol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganed ef yng Nghaerdydd ar 14 Ebrill 1914, yn fab i John Bell. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg Magdalene, Rhydychen, lle graddiodd yn BA ym 1936 ac MA ym 1942. Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Geidwadol Prifysgol Rhydychen ym 1935 ac Ysgrifennydd a Thrysorydd Undeb Rhydychen ym 1935-36. Galwyd Bell i'r bar o Gray's Inn ym 1938 a gwasanaethodd yn y Llynges Frenhinol Wirfoddol Wrth-gefn (Royal Navy Volunteer Reserve) yn ystod yr Ail Ryfel Byd lle daeth yn Is-Gomander. Safodd yn ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholaeth Caerffili yn is-etholiad Gorffennaf 1939, pan orchfygwyd ef gan Ness Edwards (Llafur). Yna cipiodd Casnewydd mewn is-etholiad pellach ym mis Mai 1945, ond collodd y sedd i Peter Freeman (Llafur) yn yr etholiad cyffredinol ddau fis yn ddiweddarach. Yn ystod y misoedd hyn cefnogodd Bell lywodraeth ofalu Winston Churchill.

Bu Ronald Bell yn AS Ceidwadol De Swydd Buckingham o 1950 tan 1974 ac yna etholaeth newydd Beaconsfield o 1974 tan 1982. Roedd yr etholaeth newydd hon yn llawn atseiniau o Benjamin Disraeli. Eisteddodd felly dros un o gadarnleoedd selocaf y Ceidwadwyr ledled y Deyrnas Unedig, ffaith a roddodd iddo ryddid i ddilyn ei gydwybod ei hun ar faterion gwleidyddol. Fel canlyniad ni ddilynodd fyth fympwy neu chwiw wleidyddol. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Paddington, 1947-49, a chyfarwyddwr-ymgynghorol i gwmni cysylltiadau cyhoeddus Michael Clark & Associates, 1960-61. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1956. Bell oedd llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Llafur ym 1965 ac ar Amddiffyn, 1965-66. Pleidleisiodd yn erbyn mynediad Prydain i'r Farchnad Gyffredin ar 28 Hydref 1971. Penodwyd ef yn aelod o'r pwyllgor dethol ar ddedfwriaeth Ewropeaidd ym 1974 ac etholwyd ef yn aelod o lys Prifysgol Reading ym 1975. Mae lle i amau a oedd ganddo unrhyw uchelgais gudd i ddilyn gyrfa fel gweinidog yn y llywodraeth, ond ni allai neb amau ei gywirdeb gwleidyddol na'i deyrngarwch i'w etholwyr. Urddwyd ef yn farchog ym 1980. Roedd yn aelod hŷn o Monday Club y Ceidwadwyr o 1962 hyd at ei farwolaeth, ac ef a arweiniodd y gwrthryfelwyr yn y Tŷ Cyffredin yn erbyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965. Ef hefyd oedd awdur y gyfrol bwysig Crown Proceedings (1948).

Priododd ym 1954 Elizabeth Audrey, merch Kenneth Gossell, MC, Burwash, swydd Sussex, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Eu cartref oedd First House, West Witheridge, Knotty Green, Beaconsfield, swydd Buckingham, tra roedd Bell yn cynnal ei fusnes fel cyfreithiwr o 2 Mitre Court Buildings, Temple, Llundain, gan wasanaethu yn Llundain ac ar gylchdaith y de-ddwyrain. Bu farw'n sydyn yn ei swyddfa yn San Steffan ar 27 Chwefror 1982.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.