WOODING, DAVID LEWIS (1828 - 1891), achydd, hanesydd, llyfrgarwr a siopwr

Enw: David Lewis Wooding
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1891
Priod: Marianne Wooding (née Jones)
Rhiant: Susannah Wooding (née Davies)
Rhiant: Benjamin Wooding
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: achydd, hanesydd, llyfrgarwr a siopwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: B. A. Mark Williams

Ganwyd 13 Rhagfyr 1828 ym mwthyn Pen-y-bont, Llanfihangel Abergwesyn, Brycheiniog, yn fab hynaf Benjamin Wooding (bu farw 1861), Beulah ger Llanfair-ym-Muallt, Brycheiniog, siopwr a ffermwr, a'i wraig Susannah (ganwyd Davies). Mynychodd ysgol capel Beulah, 1834-36, yna preswyliodd flwyddyn (1837-38) yn ysgol fechan Thomas Price, ' Twm Corc ', Cefnllanddewi, cyn mynd i academi William Davies yn Ffrwd-fâl, Sir Gaerfyrddin, 1838-44, gyda chyfnod byr yn academi'r Gelli yn 1842. Treuliodd dymor yn ysgol Hills Lane, Mardol, Amwythig yn 1844. Pan oedd yn 16 oed prentisiwyd ef i ddilledydd yn y Drenewydd, Trefaldwyn, am flwyddyn ond ni chwblhaodd ei dymor am na chadwodd y dilledydd at y telerau. Dychwelodd i Ffrwd-fâl ond gadawodd ym mis Hydref 1845 i gynorthwyo'i dad, gan deithio llawer trwy Gymru a Lloegr. Priododd Marianne, merch Peter Jones, yn eglwys Llanddewi, Abergwesyn 18 Mehefin 1858. Bu farw 2 Mai 1891 wedi gwaeledd byr a chladdwyd ef ym mynwent Beulah (A).

Yn 1861 cymerodd gyfrifoldeb o'r siop. Galluogodd hyn iddo ddatblygu ei brif ddiddordebau. Un o'i gyfoedion oedd David Lloyd Isaac, ficer Llangamarch ac awdur, ac ymhen y rhawg prynodd ei lawysgrifau i gyd. Ymaelododd gydag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar gymeradwyaeth Egerton G. B. Phillimore. Bu'n llythyra â Morris Davies, Bangor, cerddor ac awdurdod ar emynyddiaeth, a thyfodd D. L. Wooding yntau'n awdurdod ar awduraeth emynau Cymraeg. Rhoddwyd ei lyfrgell dda a dethol yng ngofal Llyfrgell Rydd Caerdydd gan y cynghorwr Ben Davies, Beulah, yn ogystal â rhai o'i lawysgrifau (ei lyfrau nodiadau'n fwyaf arbennig). Nodweddir ei waith gan fanylder, a cheisiai bob amser gael ei wybodaeth o lygad y ffynnon. Yr oedd yn enwog am ei wybodaeth o hanes Cymru, a chantref Buallt yn arbennig. Edmygid a pherchid ef gan bawb. Ysgrifennai i'r Haul a chyhoeddiadau eraill, ond yn anffodus, ni chyhoeddodd gyfrolau o'i waith ei hunan, a dengys yr ychydig lawysgrifau sydd ar ôl gymaint yw y golled am na wnaeth hynny. Y mae'r llawysgrifau o werth arbennig oherwydd yr holl ddeunydd sydd ynddynt yn disgrifio Cymru, ac yn enwedig y canolbarth. Llwyddodd i groniclo gwybodaeth gan wrêng a bonedd. Yr oedd yn gyfaill agos i James Rhys Jones ('Kilsby'), ac er nad oedd ganddo ddychymyg creadigol i'w gymharu â hwnnw, rhagorai lawer arno fel hanesydd. Ei brif lawysgrifau yw: prawf a dienyddiad Lewis Lewis; gweithiau hunangofiannol; Jemal; achau'r bonheddig o gantref Buallt; awduron emynau Cymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.