WILLIAMS, WILLIAM WYN (1876 - 1936), gweinidog (MC) a bardd

Enw: William Wyn Williams
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1936
Priod: Kate Williams (née Pritchard)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd ym Mlaenau Ffestiniog, 12 Gorffennaf 1876, yn fab i deulu crefyddol o ardal y Bowydd. Bu'n ddisgybl athro yn Nhanygrisiau cyn mynd i'r Coleg Normal ym Mangor. Aeth wedyn yn athro i ardal Wrecsam. Dechreuodd bregethu ac aeth i Goleg y Brifysgol a'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Yn 1909 sefydlwyd ef yn weinidog ar gapel Moriah (MC), Llanystumdwy; symudodd oddi yno yn 1921 i Salem, Dolgellau, ac o'r fan honno yn 1925 i Glan-rhyd, Llanwnda. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi Wrth Borth yr Awen (1909) a Caniadau (1911). Gŵr swil a cherddgar ydoedd. Bu'n wael, a threuliodd flwyddyn er lles ei iechyd yn teithio trwy T.U.A. a Phatagonia ac yn dringo'r Andes. Priododd Kate Pritchard o Fetws Garmon yn 1927 a bu iddynt un mab. Bu farw 12 Tachwedd 1936.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.