WILLIAMS, DAVID DAVID (1862 - 1938), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: David David Williams
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1938
Priod: Clara A. Williams (née Jones)
Rhiant: Grace Williams
Rhiant: David Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yng Ngarthlwynog, Croesor, Meirionnydd, mab David a Grace Williams. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Gelli-gaer, Coleg y Bala, ac yng Ngholegau'r Brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Ordeiniwyd ef yn 1891, a bu'n gweinidogaethu ym Mheniel, Ffestiniog (1890-96); Croesoswallt (1896-1906); Moss Side, Manceinion (1906-15); a David St. (wedi hynny Belvidere Road), Lerpwl (1915-38). Priododd, c. 1896-97, Clara A. Jones, Ashlands; ni bu iddynt deulu. Aeth i fyw i Brestatyn ar ôl ymddeol, ac yno y bu farw 3 Gorffennaf 1938.

Yr oedd yn ŵr amlwg yn ei Gyfundeb, a bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1931). Ymhyfrydai'n fawr mewn chwilota, a chafodd radd M.A. Prifysgol Lerpwl, am draethawd ar ' Vaticination in Welsh literature '. Ef oedd golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd am dymor (1930-34). Cystadleuai'n gyson ar draethodau ar faterion llenyddol a hanes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyhoeddwyd llawer o'i draethodau arobryn gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol Cyfrannodd ysgrifau i'r Brython, Y Beirniad, Y Genhinen, Yr Efrydydd, a Chylch. Hanes y MC. Dyma restr o'i lyfrau: Dyfyniadau llên Cymru (1909); Deuddeg o feirdd y Berwyn (1910); Twm o'r Nant (1911); Geirfa prifeirdd (1911); Dylanwad y Rhufeiniaid ar iaith, gwareiddiad a gwaedoliaeth y Cymry (1912); Hanes mynachdai gogledd Cymru (1914); Cymry enwog cyfnod y Tuduriaid (1914); Addysg Cymru yn y Canol Oesoedd (1914); Hanes dirwest yng Ngwynedd (1921); Thomas Charles Edwards (1921); Cofiant T. J. Wheldon (1925); Hanes Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd (1927).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.