WILLIAMS-ELLIS, JOHN CLOUGH (1833 - 1913), ysgolhaig, clerigwr, bardd a'r Cymro cyntaf, ond odid, i esgyn un o fynyddoedd uchaf yr Alpau

Enw: John Clough Williams-ellis
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1913
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig, clerigwr, bardd a'r Cymro cyntaf, ond odid, i esgyn un o fynyddoedd uchaf yr Alpau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Ioan Bowen Rees

Ganwyd 11 Mawrth 1833 ym Mangor, Caernarfon, yn ail fab John Williams-Ellis, offeiriad, a'i wraig Harriet Ellen Clough o Ddinbych. Magwyd ef ym Mrondanw, Llanfrothen, ac yna, a'i dad wedi ei ddyrchafu'n rheithor Llanaelhaearn, yn y Glasfryn, Llangybi. Addysgwyd ef yn ysgol Rossall a Choleg Sidney Sussex, Caergrawnt, lle graddiodd yn 3rd Wrangler a'i ethol yn gymrawd o'r coleg yn 1856. Yr oedd yn fathemategydd disglair ac yn diwtor llwyddiannus a wnaeth gymaint â neb i ddyrchafu enw ei goleg. Pan aeth Cadair Mecaneg Caergrawnt yn wag derbyniodd gefnogaeth yr holl wyr amlwg yn y maes ond etholwyd gwr arall oherwydd dylanwad un o'r colegau mawr. Trodd at yr eglwys gan dderbyn ficeriaeth Madingley, sir Gaergrawnt, yn 1865 a symud i reithoriaeth Gayton, sir Northampton yn 1876. Yn y cyfamser yr oedd wedi bod yn buddsoddi ei enillion fel tiwtor trwy ychwanegu at ystad y Glasfryn. Ymddeolodd yno yn 1888 a phenodwyd ef yn ynad heddwch yn 1890.

Enillodd wobrau am farddoni yng Nghaergrawnt a barddonai yn achlysurol ar hyd ei oes. Yr oedd yn hyddysg yn y Gymraeg ond er gwaethaf ei enw barddol, 'Shon Pentyrch', ymddengys mai yn Saesneg yn unig y canai. Yr oedd yn rhwyfwr ac yn nofiwr da ac yn 1855 enillodd fathodyn y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol am achub cyfaill rhag boddi yn Afon Cam. Yr oedd wedi arfer canlyn helgwn Ynysfor ar fynyddoedd Eryri ac yn 1857 aeth ar daith i'r Alpau gyda J. F. Hardy. Ar 13 Awst yng nghwmni William a St. John Mathews, E. S. Kennedy, Hardy a phum tywysydd esgynnodd y Finsteraarhorn (4,274m.) copa uchaf Oberland Bern. Yr oedd y mynydd wedi ei ddringo o'r blaen, efallai mor gynnar ag 1812, ond yr esgyniad Prydeinig cyntaf hwn a symbylodd William Mathews a Kennedy i sefydlu'r Clwb Alpaidd. Nid ymunodd Williams-Ellis â'r Clwb ac nid oes sôn amdano'n ymweld â'r Alpau eto er fod ei alpenstock yn dal ym meddiant y teulu.

Ar 2 Ionawr 1877 priododd Ellen Mabel Greaves. Bu iddynt 6 o feibion: Syr Clough Williams-Ellis y pensaer (1883 - 1978) oedd y 4ydd. Bu farw 27 Mai 1913 a'i gladdu mewn llannerch ger y Glasfryn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.