WATKINS, WILLIAM (fl. 1750-62), clerigwr ym Mrycheiniog ac awdur

Enw: William Watkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ym Mrycheiniog ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Linnard

y llyfr cyhoeddedig cyntaf ar goed o Gymru. Fe'i cofnodwyd fel pensiynwr yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt o Fehefin 1750 i 1754, ond arwyddodd y cofrestrau yn Y Gelli yn gyson fel curad cynorthwyol i ficer absennol yn 1750-52. Gadawodd Y Gelli yn fuan ar ôl i'w wraig a merch iddo farw yno o'r frech wen yn 1752, a chyhoeddodd A Treatise on Forest-Trees (Llundain, 1753), cyfrol arbennig o brin erbyn hyn. Yn 1762 fe'i hapwyntiwyd yn ficer yn Llaneleu, ond ni wyddys mwy amdano.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.