WATKIN, WILLIAM RHYS (1875 - 1947), gweinidog (B)

Enw: William Rhys Watkin
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1947
Priod: Jane Watkin (née Williams)
Rhiant: Barbara Watkin (née Rhys)
Rhiant: William Watkin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Dewi Watkin Powell

Ganwyd 10 Rhagfyr 1875, yn Ynystawe, Morgannwg, yn un o chwech o blant William a Barbara (ganwyd Rhys) Watkin, y tad o linach teulu Grove, Abertawe, a'r fam o linach Rhysiaid Ty'n-y-Waun a Morganiaid Cwmcile. Brawd iddo oedd yr Athro Morgan Watkin. Ymadawodd ag ysgol Pen-clun, Rhydypandy, yn 12 oed a mynd i weithio i'r lofa leol ac oddi yno i'r gwaith alcan. Ar ôl cyfnod byr yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, aeth i Goleg y Brifysgol Bangor, lle y graddiodd yn 1899 gydag anrhydedd yn y Gymraeg; ac yn 1909 enillodd radd M.A. am waith ar Bedo Brwynllys - y gweinidog (B) cyntaf i ennill y radd honno ym Mhrifysgol Cymru. Bu'n gweinidogaethu yn y Tabernacl, Maesteg, o 1900 tan 1910, ac ym Moreia, Llanelli o 1910 tan ei farw.

Ef oedd golygydd Seren Gomer o 1921 tan 1930 ac o 1933 tan 1947 (ar y cyd gyda John Gwili Jenkins am flwyddyn ac yna gyda David Hopkin). Yr oedd yn nodedig fel gweinyddwr; bu'n llywydd ei Gymanfa, yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1939-40 ac yn gadeirydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (y B.M.S.) o 1944 i 1945. Ysgrifennodd nifer o erthyglau i'r Geninen, Seren Gomer, ac i Drafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru ynghyd â chyfrol ar hanes Bedyddwyr Clydach ac un ar hanes plwyf Llangyfelach.

Yn ddiwinyddol perthynai i draddodiad uniongred hen ymneilltuaeth glasurol y 18fed ganrif ond daeth yn drwm o dan ddylanwad Mudiad Cymru Fydd a chredai'n gryf ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg; cynhaliai ddosbarthiadau Cymraeg yn ei eglwys ym Maesteg - peth prin ar y pryd. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1908, a phan ddaeth yr Eisteddfod i Lanelli yn 1930 ef oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Llên a dirprwy-ysgrifennydd yr Eisteddfod. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw ' Glanlliw '. Bu'n gadeirydd Clwb Awen a Chân y dref am flynyddoedd, ac yn ystod Rhyfel Byd II bu'n gadeirydd Undeb Cymru Fydd yn yr ardal. Meddai ar lyfrgell eang a gwerthfawr, ac yr oedd yn gryn awdurdod ar argraffiadau cyntaf.

Priododd yn y Tabernacl, Maesteg, 12 Medi 1905, â Jane, merch David ac Elizabeth (ganwyd Jenkins) Williams. Bu hi farw 24 Rhagfyr 1936, ac yntau 16 Rhagfyr 1947, a chladdwyd y ddau ym mynwent y Bocs, Llanelli. Bu iddynt un ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.