Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , JOHN WILLIAM ( 1805 - 1840 ; Bywg. , 896) Cyhoeddodd Ffordd anffaeledig i Gymro uniaith ddarllen Saesneg yn gywir yn 1832 , un o'r llyfrau cyfarwyddyd cynharaf. Ar Elfennau Rhifyddiaeth gw. Gwyddonydd , 11 ( 1973 ), 128.

Awdur:

Dr Llewelyn Gwyn Chambers, Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS , JOHN WILLIAM (‘ Arfonwyson ’; 1805 - 1840 ), mathemategwr ; g. yn 1805 yn fab i William Thomas , llafurwr , Allt Isaf , Pentir . Cafodd deirblwydd (7-10 oed) o ysgol; bu wedyn yn hogyn chwarel , ond mynychai ysgol nos, ac amlygodd hoffter neilltuol o rifyddeg. Yn 17, er mwyn cael rhagor o gyfle i ddarllen, aeth yn deithiwr dros lyfrwerthwr o Fiwmares ; ond ymhen y flwyddyn aeth am dri mis i ysgol yr almanaciwr Robert Roberts ( 1776 - 1836 ) [q.v.] , yng Nghaergybi . Yna, agorodd ysgol yn Nhregarth , a dechreuodd ar ei lyfr Elfenau Rhifyddiaeth . Priododd yn 21 óed, a symudodd i Fangor ; os yw'r hanes yn gywir, bwriodd gyfnod drachefn yn gwerthu llyfrau ym Môn ; ond sut bynnag, cafodd J. H. Cotton [q.v.] ysgol iddo yn Ffestiniog . Anghydwelodd â chlerigwr yno, collodd yr ysgol, a dychwelodd i Fangor i gadw ysgol ; yno, ddiwedd 1830 , y cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o'i Elfenau Rhifyddiaeth , y byddai'n gywirach ei alw'n ‘Elfennau Mathemateg’ — nid mor elfennol chwaith; daeth yr ail rifyn yn 1831 a'r trydydd yn 1832 ; soniai'r awdur hefyd am gyhoeddi Dwned (h.y. gramadeg) Cymraeg , a Geiriadur Cymraeg ‘gwyddonol a celfyddydol.’ Bu am chwe mis, yn ystod 1832 , yn olygydd y cyfnodolyn Tywysog Cymru a gyhoeddid yng Nghaernarfon . Yn 1833 dug allan Geiriadur Cymraeg a Saesneg , llyfr a andwywyd gan ddilyn syniadau W. O. Pughe [q.v.] — amddiffynnodd ‘ Arfonwyson ’ y syniadau hyn yn frwd yn Seren Gomer , yn nes ymlaen. Yn Awst 1834 aeth i Lundain i chwilio am waith; yno daeth yn aelod o'r Cymreigyddion , ac yr oedd yn ‘fardd’ swyddogol y Gymdeithas yn 1836 a 1837 . Bu'n ysgrifennydd preifat i William Cobbett , ond pan fu farw hwnnw, bwriwyd ef drachefn i segurdod, a'r pryd hynny y cwplaodd Trysorfa yr Athrawon , 1837 , at wasanaeth yr ysgolion Sul . Dangoswyd llythyr ganddo ar ‘gomed Halley ’ i'r Seryddwr Brenhinol , G. B. Airey , a gwnaeth hwnnw le iddo yn Arsyllfa Greenwich ; yno dygai allan almanaciau Cymraeg , a sgrifennodd lawer i Seren Gomer a chylchgronau eraill. Ond yr oedd yng ngafael y dyciau , a bu f. 12 Mawrth 1840 ; claddwyd yn Greenwich . Anaml y gwelwyd rhagorach enghraifft o oruchafiaeth ar anawsterau dybryd nag a welir yng ngyrfa ‘ Arfonwyson .’

Llyfryddiaeth:

  • Y Gwyddoniadur Cymreig , 1889–96 ;
  • Seren Gomer , 1849 (chwech o ysgrifau gan ‘Hugh Tegai’) — y mae'r ddwy ffynhonnell yn amrywio ar fanion, a noder bod atgofion tad ‘Arfonwyson,’ a gynhwysir yn ysgrif gyntaf ‘Hugh Tegai,’ yn amlwg anghywir mewn mannau;
  • T. M. Jones , Llenyddiaeth fy Ngwlad , 1893 , 162, a ategir gan ‘Gwyneddon’ yn y Y Geninen , 1903 , 216.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor