THOMAS
,
GEORGE ISAAC
(‘
Arfryn
’;
1895
-
1941
),
cerddor a chyfansoddwr
;
g. yn
Spencer House
,
Llanboidy, Caerf.
,
29 Tach. 1895
, yn fab i
Rhys Morgan
a
Margaret
(g.
Jones
)
Thomas
. Cafodd ei addysg yng
Ngholeg y Brifysgol
yng
Nghaerdydd
,
1920-22
, ac yn y
Coleg Cerdd Brenhinol
,
1923-26
. Daeth yn
A.R.C.M.
fel
cyfeilydd
ym mis
Medi 1924
, ac yn
A.R.C.O.
ym mis
Gorff. 1926
. Pasiodd yr arholiad theori yn
1927
ond cyn cwblhau ei gwrs
F.R.C.O.
collodd ei iechyd. Bu'n
arwain cerddorfa Rhydaman a'r cylch
o
1914 i 1922
. Gweithredodd fel
cyfeilydd
Eist. Gen. Rhydaman
,
1922
, ac fel
telynor
yng
nghôr telynau'r Fonesig Brittain
(‘
Telynores y Golomen Wen
’) yng nghyngerdd yr Eist. Yn ystod ei arhosiad yn
Llundain
bu'n
organydd
capel MC Charing Cross
, ac yn
cyfeilio
ac
arwain
Côr Meibion Cymry Llundain
. Wedi
dychwelyd i
Gymru
bu'n
organydd
yng nghapel
Bethani
,
Rhydaman
. Bu'n
arwain cymanfaoedd
ac yn
darlithio
a
chyfansoddodd unawdau ac emyn-donau
. Bu f.
31 Rhag. 1941
a chladdwyd ef yng nghladdfa
hen gapel y Betws
ar
3 Ion. 1942
.
Llyfryddiaeth:
-
Gwybodaeth gan ei frawd
J. Emlyn Thomas
.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth