Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , THOMAS HENRY ( Bywg. , 907). Ceir casgliad ychwanegol o'i lsgrau. yn Amgueddfa Werin Cymru — AWC llsgrau. 2435/1-395 .

Awdur:

Arwyn Lloyd Hughes, Llandaf

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS , THOMAS HENRY (‘ Arlunydd Penygarn ’; 1839 - 1915 ), arlunydd, etc. ; g. 31 Mawrth 1839 yng ngholeg y Bedyddwyr , Pontypŵl , mab y Parch. Thomas Thomas [q.v.] , prifathro'r coleg o 1836 hyd 1877 , a'i wraig, Mary David , Caerdydd . Addysgwyd ef gartref gan ei dad ac mewn academi a gedwid ym Mryste gan Dr. Bompas cyn iddo fynd i'r Bristol School of Art ac oddi yno i Carey's Art School a'r Royal Academy Schools yn Llundain . Wedi hynny aeth i Baris , Rhufain , etc. Daeth i adnabod John Gibson [q.v.] a Penry Williams [q.v.] yn Rhufain . Dychwelodd i Lundain yn 1861 gan ymsefydlu fel arlunyddportreadu personau , darlunio llyfrau , etc. Bu'n gweithio hefyd dros y Graphic a'r Daily Graphic ; yn 1884 aeth i Canada fel arlunydd arbennig y cyfnodolion hyn pan oedd y British Association yn cyfarfod yn y wlad honno. Wedi i'w dad ymneilltuo o'i swydd ym Mhontypŵl ac ymsefydlu yng Nghaerdydd , daeth T. H. Thomas yntau i'r dref yno, gan ymddiddori yn yr eisteddfod genedlaethol a helpu i sefydlu y Royal Cambrian Academy , ac mewn daeareg, archaeoleg, llêngwerin, y pethau ‘japan’ a gynyrchasid ym Mhontypŵl a Brynbuga , yr amgueddfa a'r llyfrgell yn ninas Caerdydd , etc.; rhydd y MSS. a nodir isod syniad am rai o'i ddiddordebau. Ef oedd un o'r rhai cyntaf i alw sylw at y llythrennau dechreuol cain yn llawysgrifau John Jones o Gellilyfdy [q.v.] . Bu f. 5 Gorffennaf 1915 .

Llyfryddiaeth:

  • Marw-goffa Thomas Henry Thomas (gan J. Ballinger ), yn Cardiff Naturalists' Society. Report and Transactions , 1867–1937 , xlviii, 1939 — yn cynnwys manylion am rai o ysgrifau T.H.T. i'r Cardiff Naturalists' Society. Report and Transactions , 1867–1937 , etc.;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 3122-7, 6358-60, 6995-7.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS , THOMAS HENRY ( Bywg. , 907) Yn y llyfr. yn rhifyn 1915 (nid 1939 ) o'r Trans of the Cardiff Naturalists' Soc. ' yr ymddangosodd y marw-goffa.