SANDBROOK, JOHN ARTHUR (1876 - 1942), newyddiadurwr

Enw: John Arthur Sandbrook
Dyddiad geni: 1876
Dyddiad marw: 1942
Rhiant: Harriet Sarah Sandbrook (née Lotherington)
Rhiant: Thomas Sandbrook
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Abertawe, 3 Mai 1876, yn ail fab i Thomas Sandbrook a'i wraig Harriet Sarah (ganwyd Lotherington). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe a daeth yn un o newyddiadurwyr mwyaf nodedig Prydain. Cychwynnodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn Abertawe yn 1892, gan ddod yn brif olygydd cynorthwyol y Western Mail wedi iddo fod yn rhyfel y Boeriaid (1899-1902) pryd y dyfarnwyd iddo fedal y Frenhines gyda phum clasb. Yr oedd ei gyfres o adroddiadau a anfonodd i'r Western Mail ymhlith y rhai mwyaf byw i ddod o Dde Affrica y pryd hwnnw. Yn 1910 penodwyd ef yn olygydd yr Englishman yn Calcutta. Cydweithiodd gyda Reuter i ddisgrifio ymweliad y Brenin â Delhi ym mis Rhagfyr 1911. Yn 1917 yr oedd yn ohebydd arbennig ym Mesopotamia; bu'n un o ddirprwyaeth gwasg India ar y ffrynt gorllewinol yn 1918; a bu yn Waziristan ac ar y ffin ogledd-orllewinol adeg y terfysg yn 1921. Y flwyddyn ddilynol ymddiswyddodd o fod yn olygydd a dychwelodd i Gymru yn brif gyd-olygydd y Western Mail, gan olynu Syr William Davies yn olygydd yn 1931.

Fel un a gymerai ddiddordeb byw ym mywyd Cymru, mynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol droeon gan ysgrifennu'n ddyddiol adroddiadau o'r gweithrediadau. Cymerodd ran flaenllaw mewn cychwyn mudiadau cyhoeddus megis codi cofeb rhyfel genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd. Hyd ei farwolaeth ymdrechodd i wneud y ' Llyfr Coffa ' yn y Deml Heddwch yn gofnod cyflawn o'r Cymry a gollodd eu bywyd yn Rhyfel Byd I. Trigai yn Beganston, Ffordd Pencisely, Llandaf cyn symud i Ffordd Fairwater, Caerdydd. Yr oedd yn gefnder i'r Fonesig Buckland (gweler teulu BERRY uchod) a bu farw yn fab gweddw, 13 Chwefror 1942.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.