ROWLANDS, ROBERT PUGH (1874 - 1933), prif lawfeddyg Ysbyty Guy

Enw: Robert Pugh Rowlands
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1933
Priod: Alice Maude Rowlands (née Piper)
Rhiant: John Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prif lawfeddyg Ysbyty Guy
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Melfyn Richard Williams

Ganwyd yn Nhywyn, Meirionnydd, 27 Medi 1874 yn fab i John Rowlands. Pan oedd yn ddwy oed symudodd y teulu i fyw i Abaty Cymer, Dolgellau. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Llanelltyd ac ysgol ramadeg Dolgellau. Ar ddiwedd ei gyfnod yno llwyddodd i sicrhau lle iddo'i hun yn brentis am flwyddyn gyda'r Dr Hugh Pugh Rowlands. Yn Hydref 1892 cychwynnodd yn ysgol feddygol Ysbyty Guy, Llundain. Yno cafodd yrfa ddisglair tu hwnt. Yn ei flwyddyn gyntaf enillodd wobr Arthur Durham, gwobr Michael Harris am anatomeg yn 1894 a'r wobr gyntaf yn 1895 ac 1896. Y flwyddyn wedyn, dyfarnwyd iddo fathodyn aur Treasurer am lawfeddygaeth a meddygaeth.

Wedi hyfforddiant pellach fel llawfeddyg tŷ yn yr ysbyty, penderfynodd sicrhau cymwysterau llawfeddygol. Felly wedi iddo gael lle ym Mhrifysgol Llundain, aeth ymlaen i ennill y bathodyn aur mewn anatomeg ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Yn 1902 graddiodd yn M.B. a dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth y Brifysgol a bathodyn aur mewn meddygaeth. Yn 1901 daeth yn F.R.C.S.; enillodd radd B.S. yn 1902 a M.S. yn 1903.

Drwy gydol cyfnod ei astudiaeth am ei arholiadau ym Mhrifysgol Llundain, yr oedd hefyd yn dysgu yn yr ysgol feddygol. Yn 1899 apwyntiwyd ef yn arddangosydd mewn anatomeg a bywydeg a bu yn y swydd honno hyd 1905. Yn yr un flwyddyn dyrchafwyd ef yn gofrestrydd llawfeddygol, ac yn 1906 yn ddarlithydd ac yn arddangosydd llawfeddygaeth weithredol ac Athro patholeg lawfeddygol. Cyn diwedd y flwyddyn gwireddwyd breuddwyd oes pan apwyntiwyd ef yn llawfeddyg cynorthwyol i'r ysbyty.

Yn ystod y blynyddoedd hyd at Rhyfel Byd I lledodd ei enw da fel llawfeddyg ac yn 1914 cynyddodd ei waith a'i ddyletswyddau yn enfawr. Gan ei fod yn aelod o'r fyddin ranbarthol fe'i cysylltwyd ef ag ail ysbyty gyffredinol Llundain fel llawfeddyg ac yn ychwanegol cymerodd swydd llawfeddyg i ysbyty Hall Walker ac ysbyty'r Rwsiaid yn y ddinas. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel bu'n rhaid iddo weithio'n galed iawn ac effeithiodd hyn ar ei iechyd. Yn ystod cyrch awyr, cerddodd o Stryd y Frenhines Ann i Chelsea, ac wedi cyrraedd yr ysbyty, bu wrthi'n gweithio'n ddi-baid drwy'r nos. Wedi cwblhau ei waith yno, cerddodd yn ôl, a chyflawnodd saith ar hugain o lawfeddygaethau drannoeth.

Yng Ngorffennaf 1918, ac yntau ond pedair a deugain oed, fe'i dyrchafwyd yn llawfeddyg llawn Ysbyty Guy, a darlithydd mewn llawfeddygaeth. Yn 1922 etholwyd ef ar gyngor Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ac yn 1927 ef oedd cyd-olygydd seithfed argraffiad gwaith Jacobson, Operations of Surgery. Yr oedd eisoes wedi cyd-olygu 'r gyfrol yn 1907 ac 1915. Yn 1929 apwyntiwyd ef yn ddarlithydd Bradshaw i Goleg y Llawfeddygon a'r testun a ddewisodd oedd llawfeddygaeth ar bledren a dwythell y bustl. Yng Ngorffennaf 1930 apwyntiwyd ef yn islywydd Coleg y Llawfeddygon a bu yn y swydd hon hyd Gorffennaf 1932. Am ei waith yn ei faes derbyniodd yr O.B.E.

Datblygodd gyflymder eithriadol yn ei grefft drwy berffeithrwydd personol ei ddulliau llawfeddygol syml eu techneg yn codi o'i wybodaeth drylwyr a greddfol o anatomeg a'i farn bendant. Yr oedd yn barod bob amser i wynebu'r annisgwyl drwy newid trefn arferol rhannau o'r corff. Credai'n gryf, yn groes i arferiad yr oes, na ddylid rhoddi gormod o rwymynau wedi'r llawdriniaeth ac anogai'r claf i eistedd i fyny yn ei wely yn fuan iawn ac i godi cyn gynted ag y byddai modd. Ef oedd llawfeddyg mwyaf talentog ac adnabyddus Ysbyty Guy. Cyfrannodd yn helaeth i'r cylchgrawn meddygol ar amryfal destunau: e.e. ' When and how to operate for appendicitis ' Br. Med. Jnl., 1910; ' Time in surgery ', 1916; ' Cancer of the colon ', 1927; ' The surgery of the gall bladder and bile ducts ', 1929; a ' Cancer of the stomach ', 1933.

Yn ôl ei gyfoedion, fe anwyd Robert Pugh Rowlands yn Gymro a bu farw'n Gymro gan iddo ef ei hun gyfaddef ei fod yn meddwl yn Gymraeg wrth siarad Saesneg. Priododd Alice Maude, merch Edward Piper, Bodiam Manor, Sussex, yn 1905, a bu iddynt ddau blentyn. Bu farw 6 Rhagfyr 1933 wedi salwch byr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.