ROWLANDS, GRIFFITH (1761 - 1828), llawfeddyg

Enw: Griffith Rowlands
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1828
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Melfyn Richard Williams

Ganwyd ef ym mhlwyf Llanfair ger Harlech, Meirionnydd, ar 9 Ebrill 1761. Wedi bwrw ei brentisiaeth fel llawfeddyg yn Lerpwl, llwyddodd i ennill lle iddo'i hun yn ysbyty Bartholomew, Llundain. Wedi cwblhau saith mlynedd o addysg feddygol fe'i derbyniwyd ef ar 1 Awst 1782 yn aelod o Gwmni Llawfeddygon Llundain, rhagflaenydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon. Bu'n llawfeddyg tŷ yn yr ysbyty yn Llundain am ddwy fl. cyn ymsefydlu fel llawfeddyg yng Nghaer. Yn 1785 apwyntiwyd ef yn llawfeddyg i glafdy'r ddinas a bu yn y swydd am 43 o fl.

Yr oedd Griffith Rowlands yn un o'r rhai cyntaf yn Ewrop i drin toriad clun trwy lifio i ffwrdd ddau ben yr asgwrn ar y naill ochr i'r toriad i sicrhau gwell cyswllt - a hynny dros hanner can mlynedd cyn cyfnod anaestheteg. O dan ei driniaeth ef y torrwyd ymaith fawd chwith Thomas Charles o'r Bala yn 1799. Yr oedd y bawd wedi rhewi wrth i Thomas Charles deithio ar noson rewllyd dros fynyddoedd y Migneint rhwng siroedd Arfon a Meirion. Gyda chymorth Rowlands hefyd y tynnwyd carreg yn pwyso dwy owns a chwarter o bledren Thomas Jones o Ddinbych yn 1802.

Er mai yn Lloegr y treuliodd ran helaethaf ei oes, ni chollodd ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a bu'n ŵr amlwg yng ngweithrediadau Cymrodorion Caer.

Bu farw 29 Mawrth 1828 o fewn ychydig ddyddiau i fod yn 66 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.