Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , HOWELL (‘ Hywel Tudur ’; 1840 - 1922 ), bardd, pregethwr a dyfeisydd ; g. 21 Awst 1840 ym Mron yr Haul , ( Blaenau ) Llangernyw, Dinb. , y trydydd o wyth o blant. Symudai'r teulu'n aml gan mai adeiladu a gwerthu tai oedd gwaith eu tad. Dechreuodd ymddiddori mewn mesur tir a dod yn bur fedrus yn y grefft. Pan oedd yn 13 oed rhoes gynnig ar bregethu . Mynychodd ysgol yn Abergele am blwc a dywedir iddo fod am ysbaid yn y Mechanics Institute , Lerpwl . Tua 1853 sefydlwyd Cymdeithas Lenyddol yn y Pandy ac yno y dysgodd ramadeg Caledfryn (gw. William Williams , Bywg. , 1018) . Yn 1861 enillodd dystysgrif Cymraeg yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon ond ni allodd gael mynediad i'r Coleg Normal am nad oedd digon o le yno. Fe'i cyfrifai ei hun fel ‘ Bardd Mawr y Pandy, B.B.D. ’. Penderfynodd gartrefu yng Nghlynnog lle'r oedd Eben Fardd ( Ebenezer Thomas , Bywg. , 886-7) ‘hynafol batriarchaidd’ yn cadw ysgol a'r post . Gwahoddwyd ef i gynllunio ysgol newydd yn y pentref fel y gallesid ei haddasu'n dai, pe deuai galw. Y mae sôn amdano'n cadw ysgol yn Llanllyfni ond troes i ymddiddori fwy-fwy mewn dyfeisiadau ac, yn arbennig, yn egwyddor ‘mudiad parhaus’. Cynlluniodd, ac adeiladu, llong awyr ac (yn ôl ei ferch) yn rhai o adeiladau gwesty Beuno Sant (heddiw) y bu hynny. Bu nifer o grefftwyr yr ardal yn ei gynorthwyo a deuai rhai gwŷr pwysig i ymweld ag ef. Llesteiriwyd ei gynlluniau gan brinder arian. Derbyniwyd ei gynllun (rhif 110,201) ar gyfer ‘ A propeller or driving wheel to put in motion vehicles, boats and flying machines ’ gan y Patent Office ar 14 Hyd. 1916 . Ef a gynlluniodd a chodi Bryn Eisteddfod , Clynnog (ei gartref). Gŵr hamddenol, di-ffrwst ydoedd ac arferai aros ar ei draed tan berfeddion. Yr oedd yn ddiarhebol am golli trên. Cynorthwyai lawer i lunio ewyllysiau . Ef oedd un o brif ysgogwyr Cwmni Moduron Clynnog a Threfor (Moto Coch) tuag 1912 . Tadogir arno declyn a alluogai giard trên i agor a chau drysau a dyfeisiodd ganhwyllbren gyda gefail ynghlwm wrthi i ddal y gannwyll . Rhagwelai ddyfais a alluogai bobl i weld lluniau o wledydd pell. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, ysgrifennai i gylchgronau a newyddiaduron Cyfundebol (MC) a beirniadai mewn eisteddfodau lleol yn arbennig Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol Capel Uchaf — adeilad arall y bu a wnelo â'i gynllunio. Pr. ferch Hafod-y-wern , Clynnog , a bu'n amaethu yno ynghyd â bugeilio'i braidd yn eglwysi (MC) Seion , Gyrn Coch a Chapel Uchaf . Ganwyd iddynt bump o blant. Wedi marw ei wraig pr. chwaer y Parch. R. Dewi Williams (gw. uchod) a ganed iddynt fab a merch. Bu f. yn sydyn 3 Meh. 1922 a'i gladdu ym mynwent eglwys Clynnog , er mai yn ardal ei febyd y dymunai gael bedd. Awdur : Gweithiau Barddonol Eben Fardd (ar y cyd â Wm. Jones , ieu.; 1873? ), Llyfr Genesis ar Gân ; Tlysau Beuno ( 1902 ).

Llyfryddiaeth:

  • Y Geninen , 32 ( 1914 );
  • Y Goleuad , 7.6.1922 ;
  • Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd , 1923 ;
  • Y Drysorfa , 71;
  • Catrin Parri Huws , Sul, Gwyl a Gwaith , Caernarfon, 1981 ( 1981 );
  • Swyddfa Patent, Llundain;
  • [ Catrin Parri Huws , gol., Hywel Tudur 1840-1922, bardd, pregethwr, dyfeisydd , Caernarfon, 1993 ( 1993 )].

Awdur:

Gwilym Arthur Jones, (1925-98), Bangor