Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES , EDWARD WALTER (‘ Gwallter Dyfi ’; 1881 - 1940 ), rheolwr banc a cheidwad cledd yr Orsedd ; g. 8 Hyd. 1881 yn fab i Richard Rees (‘ Maldwyn ’, m. 1927 ) a Jane (g. Jones ) ei wraig, Medical Hall , Machynlleth, Tfn. Mynychodd ysgol sir Machynlleth cyn mynd i weithio mewn banc , gan ddod yn rheolwr Banc Barclay yn Aberteifi ac wedyn yng Nghaerfyrddin ( 1926-40 ). Pr., 8 Rhag. 1914 , â Frances Anne Rees , Goleufryn , Eglwys Newydd, Morg. , a bu f. 24 Ebr. 1940 , gan adael dau fab a merch. Yr oedd yn sylfaenydd ac ysgrifennydd Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi ac yn aelod o nifer o gymdeithasau diwylliannol eraill. Ef oedd ysgrifennydd Eist. Gen. Caerfyrddin , 1911 , a bu'n geidwad cledd Gorsedd y Beirdd am gyfnod maith, 1913-40 . Golygodd golofn Ceredigion a Phenfro yn y Cardigan and Tivyside Advertiser am gyfnod. Yr oedd ganddo gasgliad da o hen lyfrau a llsgrau. Cymraeg ac yn 1938 etholwyd ef yn drysorydd Cymdeithas Lyfryddol Cymru .

Llyfryddiaeth:

  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr) ;
  • Cardigan and Tivyside Advertiser , 28 Mai 1926 .

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth