Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES , JOHN THOMAS ( Bywg. 2, 48) g. yn Llwynbedw ger Cwmgïedd, Brych. , yn fab i Thomas a Hannah (g. Morgan ) Rees . Bu f. ei fam pan nad oedd ef ond wyth ml. oed. Yn naw oed dechreuodd weithio mewn glofa , ac ym mhen blwyddyn bu'n bugeilio defaid ei dad yn Llwynbedw . Toc dilynodd ei dad i'r Rhondda a gweithio yng nglofa Abergorci , lle y cafodd ddamweiniau a adawodd greithiau ar ei wyneb dros weddill ei oes. Yn 1871 yng Nghwmgïedd adeg streic tarawyd ef yn glaf o'r teiffoid . Dysgodd gerddoriaeth yn nhŷ capel Cwmgïedd gyda William Jones o Ben-twyn . Casglodd bum punt i brynu harmoniwm yn Abertawe . Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth i blant y pentre pan oedd yn 17 oed, Daniel Protheroe ( Bywg. , 754-5) yn un ohonynt. O 1876 i 1879 cartrefai yng Nghwmaman , lle y meistrolodd Sol-ffa o dan D. W. Lewis , Brynaman . Yn 1879 aeth i Goleg Aberystwyth yn ddisgybl i Joseph Parry ( Bywg. , 694-5) , ond prin oedd ei adnoddau ariannol, a'i ragolygon yn dywyll nes i David Jenkins ( Bywg. , 406-7) ei gymeradwyo i gymryd dosbarthiadau mewn cerddoriaeth ym Mhen-y-garn i ddysgu'r Sol-ffa . Yn 1881 pr. Elizabeth Davies o Ben-y-garn ac yn 1882 aeth allan i Emporium , Kansas , ond dychwelodd i Ben-y-garn yn 1883 .

Llyfryddiaeth:

  • D. H. Lewis , John Thomas Rees cofiant , Llandysul, 1955 ... cofiant ( 1955 ).

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

REES , JOHN THOMAS ( 1857 - 1949 ), cerddor ; g. 14 Tach. 1857 yng Nghwmgïedd , Ystradgynlais , sir Frycheiniog . Ychydig o ysgol a gafodd gan iddo fynd i weithio mewn glofa pan oedd yn wyth oed. Pan oedd yn löwr yn Ystradgynlais , Dyffryn Rhondda , ac Aberdâr , cafodd ddisgyblaeth gerddorol dda trwy gyfrwng nodiant y tonic sol-ffa. Pan oedd yn 21 oed daeth i beth amlygrwydd fel cyfansoddwr cantata a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth mewn eisteddfod yn Nhreherbert . Crewyd cronfa fechan gan gyfeillion, a thrwy gymorth hon galluogwyd ef i dreulio ychydig amser yn Aberystwyth o dan hyfforddiant Dr. Joseph Parry . Yn 1895 enillodd wobr o ugain punt yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr am bedwarawd i offerynnau llinynnol. Yn gynnar wedyn graddiodd yn Mus.Bac. ym Mhrifysgol Toronto ; ychydig yn ddiweddarach, yn ystod ymweliad â'r America , bu ganddo swydd yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru ym sefydlodd yn Bow Street , gerllaw Aberystwyth , fel athro dosbarth oedolion yn astudio cerddoriaeth , fel arweinydd corau gwlad a berfformiai oratoriau a gweithiau cyffelyb, ac, yn ddiweddarach, fel athro amser-byr yng Ngholeg Aberystwyth . Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfansoddwr llawer o donau ac anthemau, arweinydd cymanfaoedd canu , a beirniad mewn eisteddfodau . Bu am flynyddoedd yn athro cerdd rhan amser yn Ysgol Sir Tregaron . Daeth ei bennaf ddiddordeb i'r amlwg mewn llu o gyfansoddiadau crefyddol, yn cynnwys ‘ Duw sydd Noddfa ’ (gwobrwyedig yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr , 1890 ), ‘ Y Teulu Dedwydd ’ (cantata), ‘ Crist yr Andes ’ (cantata i blant), ‘ Hosannah ’ a ‘ Christos ’ (gosodiadau o wasanaethau i blant). Ymysg gweithiau cyhoeddedig eraill y mae ‘ String Quartet ’ ( 1895 ), ‘ Y Trwbadŵr ’ (seiliedig ar eiriau yng ngwaith Dafydd ap Gwilym ) mewn cydweithrediad ag S. M. Powell yn Nhregaron , a ‘ Hillsides of Wales ’ (i feiolin a piano). Golygodd gasgliad o donau gan Dafydd Lewis , Llanrhystud , Perorydd yr Ysgol Sul (casgliad o donau ac anthemau i blant), ac yr oedd yn gyd-olygydd Llyfr Hymnau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd ( 1897 ) ac Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd ( 1927 ).

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Yr Athro David Ewart Parry Williams, D.Mus., (1900-96), Bangor