Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES , ABRAHAM ( Bywg. , 774) Bu am gyfnod cyn 1753 ym Mhencerrig , Llanelwedd , gyda John Evans , tiwtor preifat Thomas Jones , yr arlunydd ( 1742 - 1803 ; Bywg. , 485; uchod) . Yn ôl Thomas Jones a fu'n gyd-ddisgybl ag ef yn Llanfyllin yn 1758 yr oedd yn ‘ deeply engaged in Hebrew, Algebra, Logarithms and Fluxions ’ — ac yntau'n 15 ml. oed! Dywedir mai ef oedd yr olaf o weinidogion anghydffurfiol Llundain i wisgo wig wrth wasanaethu. Daliodd ei gysylltiad â Chymru trwy fynychu cymanfaoedd yr Annibynwyr a phregethu yn Gymraeg .

Llyfryddiaeth:

  • A. P. Oppé (gol.), ‘Memoirs of Thomas Jones, Penkerrig, Radnorshire’, Annual Volume of the Walpole Society , 1911 ff , 32 ( 1951 ), 4;
  • S. Rees yn Cymru , 25 ( 1903 ), 217;
  • Oxford Dictionary of National Biography .

Awdur:

Dr Llewelyn Gwyn Chambers, Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

REES , ABRAHAM ( 1743 - 1825 ), gwyddoniadurwr ; g. yn 1743 yn nhŷ capel yr Annibynwyr , Llanbrynmair , mab y Parch. Lewis Rees [q.v.] ac Esther Penry . (Yn ei erthygl ar John Penry yn ei Cyclopaedia dywed Rees : ‘ The editor of this Cyclopaedia traces his genealogy, by the maternal branch, to the family of Mr. Penry . ’) Cafodd ei addysg yn yr ysgol a gedwid yn Llanfyllin gan Dr. Jenkin Jenkins [q.v.] . Yn 1759 aeth Rees i academi Coward , gan ddyfod yn athro mewn mathemateg a diwinyddiaeth naturiol yn ei hen goleg yn 1762 , a dal y swydd hefyd wedi i'r academi symud i Hoxton a hyd y daeth yr academi i ben pan ymddiswyddodd ef yn 1785 . Ar 31 Ionawr 1775 cafodd D.D. gan Brifysgol Edinburgh . Yn ddiweddarach, 1786-96 , bu'n athro Hebraeg a mathemateg yn y New College (byr ei hoedl), Hackney . Yn y cyfamser buasai'n weinidog eglwys Bresbyteraidd S. Thomas yn Southwark ( 1768-83 ) a'r gynulleidfa yn Old Jewry ( 1783 hyd ei farwolaeth) yr adeiladwyd tŷ cwrdd newydd iddi yn Jewin Street yn 1809 .

Golygodd Rees argraffiad, wedi ei helaethu, 1781-6 , mewn pedair cyfrol, cwarto, o Chambers's Encyclopaedia ; yn gydnabyddiaeth am y gwaith hwn etholwyd ef yn F.R.S. yn 1786 . Wedi hynny dug allan waith llawer mwy cynhwysfawr, The New Cyclopaedia , a ymddangosodd mewn 45 o gyfrolau, cwarto, rhwng 1802 ac 1820 , llawer ohono wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hunan. Yn Ariad o ran ei ddiwinyddiaeth, cadwodd ei ddiddordeb yn Anghydffurfiaeth Cymru . Trwy ei fod yn llywydd y ‘ Presbyterian Board ,’ yn un o gyfarwyddwyr cronfa Dr. Williams , yn weinyddwr y ‘regium donum,’ ac yn gyfrwng y deuai rhoddion preifat trwyddo, bu'n abl i roddi llawer o gymorth i weinidogion anghenus yng Nghymru . Bu f. yn Finsbury , 9 Mehefin 1825 , a chladdwyd ef yng nghladdfa Bunhill Fields .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography , gyda llyfryddiaeth;
  • gwerthfawrogiad ohono yn Public Characters of 1801-2 , Llundain , 549-75;
  • marw-goffa y The Gentleman's Magazine , 1731–1922. Am amser maith, yr oedd dwy gyfrol yn y flwyddyn—cyfeirir atynt e.e. fel ‘1776, i,’ a ‘1776, ii.’ , 1825 , ii, 181-4;
  • Enwogion Cymru. A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , 1852 ;
  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 , 1894 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

REES , ABRAHAM ( Bywg. , 774) Gwell fyddai ei ddisgrifio fel un o ymddiriedolwyr Elusen Dr.Williams yn hytrach na chyfarwyddwr y gronfa.