PARRY-WILLIAMS, HENRY (1858 - 1925), ysgolfeistr a bardd

Enw: Henry Parry-williams
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1925
Priod: Ann Parry-Williams (née Morris)
Plentyn: Jennie Eurwen Parry-Williams
Plentyn: Mary Blodwen Parry-Williams
Plentyn: Richard Wynne Parry-Williams
Plentyn: John Oscar Parry-Williams
Plentyn: Willie Francis Parry-Williams
Plentyn: Thomas Herbert Parry-Williams
Rhiant: Mary Parry
Rhiant: Thomas Parry Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 11 Mehefin 1858, yn fab i Thomas a Mary Parry, Gwyndy, Carmel, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn hanner brawd i Robert Parry, tad y bardd R. Williams Parry. Ychwanegodd y cyfenw Williams at ei enw yn gynnar yn ei oes am mai dyna gyfenw ei daid ar ochr ei dad, Henry Williams. Cafodd ei addysg elfennol yn ysgol Bron-y-foel, ac arhosodd yno am bum mlynedd fel disgybl athro. Yna aeth yn ddisgybl i'r Holt Academy o dan James Oliver Jones. Treuliodd bedwar mis olaf 1876 yn athro dros dro yn ysgol Loveston, ger Arberth, Penfro. Yn 1877 derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac ar ddiwedd ei gwrs yn 1879 penodwyd ef yn ysgolfeistr Rhyd-ddu, ac yno y bu nes ymddeol yn 1923.

Ysgrifennodd Parry-Williams lawer o farddoniaeth yn unol â safonau ei gyfnod, gan gynnwys tair pryddest a enillodd gadeiriau mewn eisteddfodau lleol. (Gweler Y Geninen Eisteddfodol, 1892, 1893, 1897). Unwaith yn unig yr enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn yn 1910 am naw o delynegion ar y testun ' Y bywyd pentrefol '. Ond ei brif gynnyrch oedd cerddi yn dathlu digwyddiadau ei ardal, a rhai cerddi telynegol. (Gweler Cerddi Eryri, gol. Carneddog). Fel ysgolfeistr gwnaeth waith nodedig a phrin iawn yn ei ddydd, yn arbennig mewn ysgol elfennol, sef gwneud llenyddiaeth Gymraeg yn rhan o addysg y plant - rhoi hanes y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, ac enghreifftiau o weithiau'r prif rai ymysg Beirdd yr Uchelwyr, a rhyddiaith y Dadeni, a Morgan Llwyd ac Ellis Wynne. Hyn i gyd, medd ef, am fod gwerth addysgol ynddo, ac i wneud y disgyblion yn falch o'u gwlad. Un gweithgaredd anghyffredin arall oedd derbyn i'w gartref yn yr haf wyr dysgedig o'r Cyfandir a oedd am ddysgu Cymraeg.

Yn 1899 y dechreuodd, gyda'r Athro Heinrich Zimmer o Brifysgol Greifswald yn yr Almaen, ac yna ysgolheigion Celtaidd enwog eraill fel Hermann Osthoff o Heidelberg, Rudolf Thurneysen o Freiburg, ac A. G. van Hamel o Utrecht.

Priododd Henry Parry-Williams ag Ann Morris, Glangwyrfai, Rhyd-ddu, yn 1885, a bu iddynt ddwy ferch a phedwar mab. Un ohonynt oedd T. H. Parry-Williams . Bu farw ddydd Nadolig 1925, a'i gladdu ym Meddgelert.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.