MORGAN
,
DAVID JENKINS
(
1884
-
1949
),
athro a swyddog amaeth
;
g. ym
Mlaendewi
,
Llanddewibrefi, Cer.
,
23 Medi 1884
, yn ail blentyn a mab hynaf
Rhys
Morgan
,
gweinidog
eglwys Bethesda (MC)
, yn y pentre, a
Mary
ei wraig (g.
Jenkins
)
. Ar
ddydd olaf Awst 1887
derbyniwyd ef i'r ysgol fwrdd leol, chwe diwrnod ar ôl ei chwaer a oedd 14 mis yn hŷn nag ef, a bu yno hyd
14 Mai 1897
. Agorwyd
ysgol sir Tregaron
yn neuadd y dre dridiau'n ddiweddarach. Yr oedd ei fam yn un o
lywodraethwyr yr ysgol newydd
, a dechreuodd yntau yno ar y diwrnod cyntaf. O
Dregaron
aeth i'r coleg yn
Aberystwyth
. Penodwyd ef yn
athro gwyddoniaeth
yn ei hen ysgol ond dychwelodd i'r coleg i ddilyn cwrs mewn amaethyddiaeth a graddiodd yn
B.Sc.
yn
1907
. Penodwyd ef wedyn yn
swyddog amaeth
dros
Geredigion
, swydd a lanwodd dros a
rhwng y ddau ryfel byd
. Yn ystod ei gyfnod fel
athro
yn
Nhregaron
bu'n cydweithio â
Samuel Morris
Powell
i
sgrifennu
,
cynhyrchu
, ac
actio dramâu gwaith cartre ar hanes yr ardal
, ac ef y rhan amlaf a chwaraeai ran yr arwr. Wedi ei benodi i'r swydd amaethyddol ymsefydlodd yn
Llanbedr Pont Steffan
ac oddi yno y bu'n teithio i gyrrau
Ceredigion
, gan ymgydnabod â'i hanes a'i thraddodiadau a threiddio'n ddwfn i serch ac ymddiriedaeth y
ffermwyr
. Daeth ei fodur tair olwyn
Morgan
yn gynefin â phriffyrdd a chefnffyrdd mwyaf anghysbell y sir. Bu ei ddylanwad ar amaethyddiaeth y sir yn enfawr. Y mae ei ysgrifau wythnosol o dan y pennawd ‘
Pant a bryn
’ yn y
Welsh Gazette
at ei gilydd yn ffynhonnell werthfawr ar ddatblygiad amaethyddiaeth a bywyd cymdeithasol yng
Ngheredigion
dros ran helaeth o hanner cynta'r ganrif hon, a'r cyfan wedi ei ysgrifennu mewn arddull hapus garlamus. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn
Pant a bryn
(
1953
).
Pr.,
7 Gorff. 1915
,
Annie
, merch
John
a
Jane
Jones
,
Tŷ-llwyd
,
Bryn-mawr
(yn wreiddiol o
Swyddffynnon
). Bu f. yn sydyn ar
18 Mai 1949
yn
ysbyty Charing Cross
,
Llundain
. Amlosgwyd ei gorff yn
Golders Green
a dychwelwyd ei lwch i
Landdewibrefi
i'w gladdu yno.
Llyfryddiaeth:
-
The Welsh Gazette
,
26 Mai 1949
;
-
gwybodaeth gan
Mair Livingstone
.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth