JONES, RICHARD (1848 - 1915), llyfrwerthwr teithiol

Enw: Richard Jones
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1915
Rhiant: Lowri Jones (née Hughes)
Rhiant: Richard Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrwerthwr teithiol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 24 Awst 1848 yn Nhy'n-y-fron, Clipiau, Aberangell, Meirionnydd, yn fab i Richard Jones a'i wraig Lowri (ganwyd Hughes). Hanai ei fam o Gwmtirmynach, Y Bala. Bwriadodd ddilyn ei frawd hynaf, Robert, yn y weinidogaeth ond oherwydd afiechyd a diffygion addysgol bu'n rhaid iddo newid ei gynlluniau. Perswadiwyd ef gan gyfeillion i fynd yn llyfrwerthwr teithiol. Ymaflodd yn yr awgrym a daeth ymhen blynyddoedd yn un o'r llyfrwerthwyr teithiol enwocaf, os nad yr olaf, yng ngogledd Cymru. Hen lanc ydoedd a theithiai o'i lety ym Machynlleth, ac yn ddiweddarach yng Nghemaes, gylchoedd Maldwyn a de Meirionnydd. Cerddodd gannoedd o filltiroedd yn ystod ei yrfa a'i ysgrepan yn llawn o lyfrau ar ei gefn. Gwelid ef yn rheolaidd gyda'i stondin lyfrau yn ffeiriau Dinas Mawddwy. Deliai â Thomas Gee ac â Chwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam. Rhoddai Richard Jones bwyslais ar i bawb ddarllen llyfrau chwaethus a darllenai'r holl lyfrau ei hun yn gyntaf cyn eu cymell i'w gwsmeriaid. Dosbarthai gylchgronau poblogaidd y cyfnod megis Trysorfa'r Plant, Cymru, Cymru'r Plant, cofiannau, llyfrau diwinyddol etc. Yn 1914 apeliwyd am Dysteb iddo i gydnabod ei wasanaeth. Yr oedd yn berson arbennig o grefyddol ei natur. Bu farw 18 Tachwedd 1915 a chladdwyd ef yng Nghemaes, Trefaldwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.