Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , THOMAS OWEN (‘ Gwynfor ’, 1875 - 1941 ), llyfrgellydd, dramodydd, actor a chynhyrchydd ; g. 19 Ion. 1875 , ym Mhwllheli, Caern. , mab William ac Ellen Jones , Stryd Newydd . Derbyniodd ei addysg yn ysgol y cyngor yn y dref honno, a'i brentisio wedyn mewn siop groser leol. Rhwng 1916 ac 1917 bu'n cadw busnes ei hun yn nhref Caernarfon nes ei benodi'n llyfrgellydd y sir ar gyflog o £130 y flwyddyn. Hon oedd y llyfrgell sir gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru . Lleolwyd hi mewn dwy ystafell ym Mhlas Llanwnda , Stryd y Castell , Caernarfon . Ymddengys mai penodiad dros dro oedd hwn yn y lle cyntaf, ond ymwelodd Gwynfor â phencadlys Ymddiriedolaeth Carnegie yn Dunfermline am ychydig amser er mwyn ymgymhwyso rhywfaint ar gyfer y swydd newydd hon, a hynny mewn cyfnod pan na osodid fawr ddim pwys ar fod yn llyfrgellydd proffesiynol . Ym myd y ddrama yr oedd rhagoriaeth Gwynfor a daeth yn enwog trwy Gymru gyfan fel actor a chynhyrchydd i'w gwmni drama ‘ Y Ddraig Goch ’. Cyhoeddodd nifer o'i ddramâu ei hun: Y Briodas ddirgel ( 1915 ), Trem yn ôl ( 1920 ; ail arg.), Perthnasau ( 1922 ), Y llo aur a lloi eraill ( 1925 ), Eiddo pwy? ( 1935 ), Troi'r byrddau ( 1939 ), a Tywydd mawr ( 1931 ), a chyfrol o ryddiaith — Straeon ( 1931 ). Yr oedd yn gwmnïwr diddan a chanddo stôr o draddodiadau am y Maes yng Nghaernarfon . Yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac yn feirniad drama yn yr Eist. Gen. droeon. Daeth ei ystafell yn y llyfrgell yn gyrchfan boblogaidd i bobl llengar y cylch — yn eu plith rai o ffigyrau amlwg y dydd fel E. Morgan Humphreys , Meuryn , ( Rowlands , R.J. ) , a Chynan , ( Jones , Syr Cynan ), (gw. uchod) . Ef oedd un o'r rhai cyntaf i ddarlledu yn Gymraeg o Fanceinion yn y 1930au . Bu f. 22 Awst 1941 ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanbeblig , Caernarfon , lle gwelir ar ei garreg fedd y geiriau ‘ Actor da, Cymro da, Cristion da ’.

Llyfryddiaeth:

  • ‘Caernarfonshire and its libraries; development of the first County Library in Wales’, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , 1972 ;
  • O. Llew Owain , Hanes y ddrama yng Nghymru, 1850-1943 , Lerpwl, 1948 ( 1948 );
  • papurau lleol.

Awdur:

Thomas Elwyn Griffiths, Caernarfon