JONES, REES CRIBIN (1841 - 1927), gweinidog (U) ac athro

Enw: Rees Cribin Jones
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1927
Priod: Mary Ann Jones
Priod: Mari Jones
Plentyn: Watcyn Samuel Jones
Rhiant: David Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (U) ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: David Elwyn James Davies

Ganwyd ym Melin Talgarreg, Ceredigion, 9 Medi 1841, yn un o bedwar o blant; mab y Rhandir, Talgarreg, oedd David Jones, ei dad, a merch Caer foel, Ystrad, oedd ei fam. Bu'n fugail a chafodd ei addysg yn ysgol Dewi Hefin, Cribyn, ysgol John Davies, Three Horse Shoes, Cribyn, ysgol Pont-siân (1860-63), a'r Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin (1863-67). Gwasanaethodd yn achlysurol yn eglwys Undodaidd Cefncoedycymer, a bu'n weinidog ar eglwysi Pen-y-bont ar Ogwr a'r Betws (1867-68), Cribyn (1869-76), Caeronnen (1871-1915), Ty'nrheol a Brondeifi (1874-1915) - y tair eglwys olaf yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Yn ystod ei dymor yn y weinidogaeth (1867-1915) bu'n gyfrwng i sefydlu hen achos Ty'nrheol (1874) a chodi capel Brondeifi (1876), ynghyd â thŷ ac ysgoldy. Magodd wyth o fechgyn i'r weinidogaeth: J. Hathren Davies, D. J. Williams, T. J. Jenkins, E. O. Jenkins, D. Rhoslwyn Davies, J. Carrara Davies, J. E. Jones, D. Cellan Davies. Tan 1879 bu'n cynnal ysgol ynghyd â gweinidogaethu yn Newton Notais, yng Nghribyn ac yn Llanbedr Pont Steffan. Gwasanaethodd yn Llanbedr Pont Steffan fel 'gŵr cyhoeddus', yn aelod o'r Bwrdd Lleol, Bwrdd Ysgol, a Bwrdd y Gwarcheidwaid. Cymerai ddiddordeb mewn ysbrydegaeth. Plentyn o'i briodas gyntaf â Mari Jones (10 Ionawr 1873) oedd Watcyn Samuel Jones; bu hi farw 11 Mawrth 1898. Bu farw ei ail wraig, Mary Ann, ar 8 Chwefror 1945 ac yntau 11 Awst 1927. I'w lysfam y cyflwynodd y mab ei lyfr, Helyntion hen bregethwr a'i gyfoedion, 1940.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.