EVANS, WILLIAM DAVIES (1790 - 1872), dyfeisiwr symudiad agoriadol mewn gwyddbwyll

Enw: William Davies Evans
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Mary Evans (née Davis)
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyfeisiwr symudiad agoriadol mewn gwyddbwyll
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: David James Morgan

Ganwyd 27 Ionawr 1790, ar fferm Musland, Llantydewi, mab John Evans, amaethwr, a'i wraig Mary (ganwyd Davis) a hanai o blwy Nanhyfer. Credir mai yn ysgol ramadeg Hwlffordd yr addysgwyd ef, ond yn anffodus dinistriwyd coflyfrau'r ysgol. Aeth i'r môr yn 1804 a gwasanaethu yn y llynges tan ddiwedd rhyfeloedd Napoleon yn 1815. Yna aeth drosodd i'r gwasanaeth post. Yn 1819 ef oedd capten y llong bost Auckland a hwyliai rhwng Aberdaugleddau a Waterford. Yn y cyfnod hwn bu'n chwarae gwyddbwyll yn aml gyda'r isgapten Harry Wilson, RN, chwaraewr gwyddbwyll o fri. Tuag 1824, ar long bost ager, y dyfeisiodd yr agoriad mewn gêm wyddbwyll a adweinir drwy'r holl fyd fel agoriad Evans ('The Evans gambit'). Tuag 1826 creodd Evans gyffro ym myd gwyddbwyll drwy ddefnyddio'i agoriad mewn gêm enwog yn Llundain a churo Alexander McDonnell, y chwaraewr cryfaf a fagwyd erioed yn Iwerddon.

Yn Ionawr 1840, ymddeolodd ar bensiwn a threulio'i amser yng nghlybiau gwyddbwyll Llundain a chrwydro'r gwledydd. Bu farw 3 Awst 1872 yn 29, Rue Christine, Ostend, Gwlad Belg, a chladdwyd ef yn hen fynwent y dref honno. Yn yr arysgrif ar ei garreg fedd cofféir ef fel cyn-gomander yn y Post Office and Oriental Steam Services, goruchwyliwr y Royal Mail Steam Company, a dyfeisiwr y cynllun goleuni trilliw i longau, ac awdur 'agoriad Evans'. Ysywaeth, gwnaethpwyd camgymeriad wrth roi ei oed yn bedwar ugain mlwydd a chwe mis.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.