Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWARDS , THOMAS DAVID ( Bywg. , 185) G. 15 Gorff. 1874 , yn ôl Gol. , 24 Chwef 1989 .

Awdur:

Huw Williams, (1922-2002), Bangor / Prestatyn

Atodiadau a chywiriadau:

EDWARDS , THOMAS DAVID ( 1874 - 1930 ), cerddor ; g. yn Pittson, Penn. , U.D.A. , mab David Edwards (‘ Iorwerth Glan Elyrch ’) a'i wraig a ymfudodd i'r America o ardal y Rhymni , sir Fynwy . Yn blentyn gwan ac eiddil, ni chafodd ond ychydig o ysgol. Daeth drosodd i Bontypridd , sir Forgannwg , a llafuriodd yn galed i sicrhau gwybodaeth gerddorol. Enillodd y graddau cerddorol L.R.A.M. , A.R.C.M. , F.T.S.C. Bu'n organydd eglwysi Salem , Porth , hyd 1909 ; Brynhyfryd , Treharris , 1909-24 ; Sardis , Pontypridd , 1924-8 ; a'r Tabernacl , Porthmadog , 1928-30 . Yr oedd yn organydd medrus, a gelwid am ei wasanaeth ar hyd a lled y wlad i roddi perfformiadau cyhoeddus ar yr organ . Bu yn arweinydd corau Treharris , Pontypridd , a Phorthmadog , ac yn arweinydd cymanfaoedd canu a beirniad cerdd . Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth , a bu ei anthem ‘ Dysg i mi Dy ffordd ,’ ei ‘ Shepherd's Lullaby ,’ a'i ganeuon, ‘ Bugeiles y Glyn ’ a ‘ Cymru ,’ yn boblogaidd, ond enillodd ei boblogrwydd trwy ei dôn ‘ Rhydygroes ’ ar yr emyn ‘ Duw mawr y rhyfeddodau maith .’ Bu f. 15 Mawrth 1930 a chladdwyd ef ym mynwent Glyntaf , Pontypridd .

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor , Chwefror 1914 , Mai 1930 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn